Busnesau Bach yn Sir Benfro

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:11, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi'n helaeth iawn mewn seilwaith yn rhanbarth yr Aelod, gan gynnwys buddsoddi yn y gwaith o uwchraddio'r A40—sy'n hanfodol bwysig—gyda'r ffordd osgoi arfaethedig o amgylch ochr ogleddol Llanddewi Felffre. Yn ogystal, mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi amlinellu argymhellion ar gyfer ymdrin â rhai o'r ardaloedd anodd eu cyrraedd mewn perthynas â chysylltedd digidol. Credaf ei bod yn deg dweud mai ein barn ni yw y dylid sicrhau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer darparu band eang, yn debyg i'r hyn sy'n bodoli ar gyfer y Post Brenhinol. Mae'n warthus ein bod yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain ac nad oes rhwymedigaeth o'r fath i ddarparu isafswm cyflymder band eang sylfaenol i bob adeilad yn y Deyrnas Unedig.