Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 2 Hydref 2019.
Diolch, Weinidog. Mae fy nghwestiwn yn dilyn cwestiwn a ofynnais i'r Dirprwy Weinidog ar y pwnc hwn yn y Cyfarfod Llawn ychydig cyn y toriad. Mae fy etholaeth yn cynnwys dau bentref sy'n ffinio â ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac mae'r ddarpariaeth band eang yn ofnadwy yn y ddau ohonynt. Mewn gwirionedd, cefais e-bost gan etholwr o un o'r pentrefi hynny neithiwr a ddywedai mai cysylltiad 3MB yw'r hyn y gallent ei gael ar ddiwrnod da. Penderyn a Chroesbychan, pentrefan ger Llwydcoed, yw'r pentrefi hynny. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, pan fydd y gwaith adeiladu'n mynd rhagddo, bydd Openreach yn gosod ceblau newydd ar hyd ochr y ffordd. Ac felly, yr hyn yr hoffwn ei ofyn i chi yw: a fyddech yn barod i gael trafodaeth gydag Openreach i weld a ellir darparu buddion i'r gymuned? Ymddengys mai dyna'r amser delfrydol i osod seilwaith da ar gyfer y pentrefi hynny o'r diwedd, a ffordd gosteffeithiol o wneud hynny.