Ffordd Blaenau'r Cymoedd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:09, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Credaf fod yr Aelod yn llygad ei lle. Mae Vikki Howells yn nodi dau bentref lle mae cysylltedd band eang yn wael ar hyn o bryd. Byddwn yn trafod y mater hwn gydag Openreach ar ei rhan, ond gallaf roi sicrwydd i'r Aelod, wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith o osod seilwaith atodol yr A465 ar hyd y llwybr, y byddwn yn cynnwys pibelli sbâr ar hyd yr A465 y gellid eu defnyddio ar gyfer gwell gwasanaethau band eang. Os caf ddweud, a gaf fi ddiolch i Dawn Bowden hefyd am gadeirio is-bwyllgor o dasglu'r Cymoedd sy'n edrych yn benodol ar fuddion y buddsoddiad yn y seilwaith trafnidiaeth hwn?