Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 2 Hydref 2019.
Weinidog, mae llawer o'n gorsafoedd trenau wedi bod yn annigonol o ran mynediad ar gyfer pobl anabl ers peth amser bellach. Fel rydych wedi'i ddweud, rwy'n gwybod eich bod wedi bod yn ceisio mynd i'r afael â hyn. Rydych newydd grybwyll y rhestr o orsafoedd Mynediad i Bawb. Credaf fod gorsaf y Fenni ar y rhestr a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, a chredaf iddi fod yn llwyddiannus yn dilyn trafodaethau a gawsoch gydag Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU a gwaith caled ymgyrchwyr lleol, gan gynnwys y cynghorydd sir lleol Maureen Powell—gwn fod pob un ohonynt wedi bod mewn cysylltiad â chi. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am statws gorsaf y Fenni ar hyn o bryd. Mae'n amlwg yn orsaf bwysig yn lleol, i mi fel yr Aelod Cynulliad lleol, ond mae hefyd yn rhan bwysig o'r rhwydwaith yng Nghymru yn gyffredinol. Felly, beth yw'r sefyllfa o ran uwchraddio'r orsaf honno a darparu mynediad ar gyfer pobl anabl?