Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 2 Hydref 2019.
Wel, wrth gwrs, mae adran gyda ni eisoes. Beth rŷn ni'n ceisio ei wneud gyda'r project newydd yma yw sicrhau bod hwn yn rhywbeth sy'n mynd ar draws y Llywodraeth yn llwyr. Felly, mae hi'n ffordd wahanol o'i gwneud hi, ond rŷn ni'n ceisio cyrraedd yr un nod â'r broses yna.
Tasg project 2050 fydd i gydlynu'r gwaith o gynllunio ar ein taith tuag at 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, o'r blynyddoedd cynnar, drwy addysg cyfrwng Cymraeg statudol ac ôl-16, i Gymraeg i oedolion. Byddwn ni hefyd yn dyblu defnydd y Gymraeg drwy greu projectau newydd a gwerthuso ein projectau cyfredol. Ac yn drydydd, byddwn yn cynnal cymunedau Cymraeg drwy gefnogi adrannau polisi ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod ein polisïau ymhob adran berthnasol yn cyfrannu tuag at hynny. Dyna yw pwrpas y project newydd. Bydd y project yn adrodd i mi fel y Gweinidog ac yn gweithio'n glòs gyda chyngor partneriaeth y Gymraeg, sy'n fy nghynghori i ar y Gymraeg. Dwi'n ffyddiog, drwy weithio gyda'n gilydd, y bydd profiad ac arbenigedd project 2050, y cyngor partneriaeth, y comisiynydd a'n partneriaid grant i gyd yn ein rhoi ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y nod yna.
Mae datblygu partneriaeth well o weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg wedi bod yn flaenoriaeth i ni eleni. Rwy'n falch ein bod wedi cytuno memorandwm o gyd-ddealltwriaeth, rhyngof fi ac Aled Roberts, ym mis Awst. Mae'r ddau ohonon ni'n gwbl glir bod modd cydweithio ar nifer o faterion tra ein bod ni'n parchu—a dwi eisiau tanlinellu hyn—annibyniaeth y comisiynydd mewn materion sy'n ymwneud â gosod a gorfodi safonau.
Gadewch i fi fod yn glir: mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i ddatblygu safonau er mwyn ehangu hawliau pobl i wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hawliau yn rhan bwysig o'r ymyriadau polisi ar gyfer cyflawni Cymraeg 2050. Mae rheoliadau newydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ar gyfer creu safonau i'r ddau sector newydd—cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr gofal iechyd. Mae hi'n anodd rhoi dyddiad pendant achos bod Brexit yn cyfyngu ar ein gallu cyfreithiol yn fewnol, ond fe allaf i ddweud wrthoch chi fod yna lot o brosesau i fynd trwyddynt o ran ymgynghori. Wrth gwrs, mae'r pwyllgor eu hunain wedi dweud eu bod nhw ishe inni ymgynghori â nhw'n gynnar, a byddwn ni'n ymgymryd i wneud hynny. Mae yna sawl cam. Dwi wedi bod yn trafod hyn gyda'r comisiynydd yr wythnos yma, ond dwi yn gobeithio, y flwyddyn nesaf, y bydd hyn yn digwydd.
Mae adroddiad y pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion am y ffordd y dylem ni fynd ati i symleiddio'r safonau drwy adolygu neu gyfuno safonau lluosog sydd â'r un nod neu ganlyniad. A dwi'n cytuno â hyn. Dwi ishe eich sicrhau nad yw'r amcanion polisi wedi newid. Dwi'n glir na ddylai unrhyw newidiadau a wneir i'r broses o ddatblygu safonau effeithio'n negyddol ar wasanaethau i siaradwyr Cymraeg. Dwi yr un mor gadarn bod yn rhaid i'r cyrff fod yn glir am beth mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud. Ond dwi eisiau tanlinellu nad yw torri nifer y safonau yn gyfystyr â symleiddio. Dwi am osgoi sefyllfa lle rydym yn creu llai o safonau er mwyn creu safonau sy'n hirach ac yn fwy cymhleth. Dwi ddim chwaith am wneud safonau symlach a fyddai'n golygu bod yn rhaid i'r hysbysiadau cydymffurfio y mae'r comisiynydd yn eu paratoi ddod yn fwy cymhleth ac yn fwy biwrocrataidd.
Dywedodd y pwyllgor hefyd mai dim ond ar ôl ystyried yr angen i adolygu'r safonau y dylid cyflwyno'r setiau nesaf o reoliadau i reoleiddwyr iechyd a chwmnïau dŵr. Mae'n bwysig, felly, ein bod ni'n cymryd ein hamser i sicrhau bod y rheoliadau rŷn ni'n eu paratoi o hyn ymlaen yn adlewyrchu'r gwersi o'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn a'r dystiolaeth a dderbyniodd y pwyllgor.
Mae gyda ni fel gwlad gynllun blaengar a chyffrous i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050 ac i ddyblu'r defnydd o'r Gymraeg. Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymrwymo'n llwyr i'r ddau darged yma, a dwi wedi fy nghalonogi'n fawr fod yna gefnogaeth ar draws y wlad i'r uchelgais yma. Mae'r uchelgais wedi dal dychymyg y genedl, a dwi'n siŵr, gyda'n gilydd, byddwn ni'n cyrraedd y targed yna.