– Senedd Cymru am 5:00 pm ar 2 Hydref 2019.
Sy'n dod â ni yna at y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gefnogi a hybu'r Gymraeg. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Bethan Sayed.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Wel, mae'n bwysig inni yma yng Nghymru fod gennym y gallu i ddefnyddio ein dewis iaith wrth ymgysylltu bob dydd â gwasanaethau cyhoeddus. Nid yn unig yw hon yn hawl sylfaenol, mae'n hanfodol o ran meithrin ein hymdeimlad o hunaniaeth a chymuned.
Roedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, felly, yn garreg filltir bwysig yn hanes ein hiaith. Cyhoeddodd y Mesur, am y tro cyntaf, statws swyddogol i'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Roedd hefyd yn egluro'r disgwyliadau o ran y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg o safbwynt siaradwyr Cymraeg a darparwyr gwasanaethau.
Felly, edrychon ni, fel rhan o'r ymchwiliad, ar lwyddiannau a chyfyngiadau'r Mesur, a gofynnon ni a yw’r Mesur yn cefnogi'r broses o hybu'r Gymraeg, sy'n fater nad yw wedi cael cymaint o sylw yn ein barn ni fel pwyllgor. Felly, gwnaethon ni glywed fel pwyllgor fod y Mesur yn welliant ar y system flaenorol o gyhoeddi cynlluniau iaith. Dywedwyd wrthym fod symud o'r drefn gynlluniau i'r drefn safonau wedi rhoi eglurder a hawliau i siaradwyr Cymraeg. Dywedodd y mwyafrif o dystion fod hwn yn gam cadarnhaol i'r cyhoedd ac i'r cyrff sy'n ein gwasanaethu.
Fodd bynnag, roedd peth rhwystredigaeth ynghylch cymhlethdod y drefn safonau. Wrth asesu a ddylid parhau â'r system gyfredol neu symleiddio agweddau ar y ddeddfwriaeth, gwnaethom gydnabod fel pwyllgor fod mwyafrif y sefydliadau sy'n gweithredu'r safonau ar hyn o bryd wedi bod yn gwneud hynny dim ond ers blwyddyn neu ddwy. Cytunodd y pwyllgor, felly, â Chomisiynydd y Gymraeg ar y pryd, a ddywedodd wrthym ni, a dwi'n dyfynnu, ei bod yn
'lot rhy gynnar i benderfynu bod angen newid y ddeddfwriaeth yn llwyr' ar y pwynt yma. Dywedodd y bu newid cadarnhaol ar lawr gwlad mewn nifer o gynghorau sir a oedd wedi gweld y newidiadau yn newid bywydau pobl, ac felly dŷn ni fel pwyllgor eisiau gweld hynny yn cael ei ymwreiddio yn ein cymunedau cyn bod yna newid mawr ar droed.
Yn amlwg, clywodd Llywodraeth Cymru y dystiolaeth gref a gafodd ei chyflwyno i'r pwyllgor ar hyn ac ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy dynnu ei Bil yn ôl ar y Gymraeg ym mis Chwefror.
O ran symleiddio'r safonau, serch hynny, mae'n fater amlwg bod angen inni fynd i'r afael ag ef yn absenoldeb deddfwriaeth newydd. Gwnaethom argymell symleiddio'r drefn safonau, a hynny drwy gyfuno safonau sydd ag amcanion tebyg. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn, a hoffwn weld rhagor o fanylion ynghylch cynlluniau'r Gweinidog i ystyried sut y gellir gwneud y broses yma.
Dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad i gyflymu'r broses o gyflwyno safonau ar gyfer y sectorau hynny nad ydynt eisoes yn ddarostyngedig i'r Mesur. Unwaith eto, hoffwn ofyn i'r Gweinidog gyhoeddi manylion ac amserlen ar gyfer y gwaith hwn.
Rydym am weld y gyfres nesaf o reoliadau ar gyfer cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr iechyd yn cael eu cyflwyno ar frys. Dwi'n siomedig na all y Llywodraeth ddweud mwy am hyn ac eithrio nodi'r ffaith bod safonau'n cael eu datblygu. Maent eisoes wedi cael eu gohirio am gyfnod sy'n llawer rhy hir yn ein tyb ni fel pwyllgor. Mae angen dyddiad pendant arnom ar gyfer cael eu cyflwyno.
Gwnaethom hefyd argymell diwygio'r weithdrefn gwynion, gan nad yw'r broses gyfredol yn caniatáu i gwynion gael eu datrys heb ymchwiliad llawn. Roedd diwygio'r fframwaith cwynion yn un o'r cynigion ym Mesur Llywodraeth Cymru a gafodd ei dynnu yn ôl. Felly, yn absenoldeb Bil newydd o'r fath, dŷn ni'n falch o weld bod y comisiynydd wedi cymryd camau i newid y weithdrefn ymchwilio yn unol â beth dŷn ni wedi rhoi gerbron fel pwyllgor. Ond pan ddaeth Comisiynydd y Gymraeg at ein pwyllgor ni yn ddiweddar, roedd diffyg manylion am sut oedd hynny'n mynd i gael ei wneud, a dwi'n credu bod angen i gyhoedd Cymru, sydd efallai'n mynd i gwyno, wybod beth yn sicr sydd yn digwydd ac i bwy y maen nhw'n cwyno. Felly, byddwn yn erfyn ar y comisiynydd a'r Llywodraeth i weithio gyda'i gilydd ar hynny.
Un mater dwi'n credu sydd o bwys inni orffen arno yma heddiw yw hyrwyddo'r iaith. Dyw hynny ddim wedi cael cymaint o sylw: sut rŷm ni'n hybu'r iaith. Ar ôl i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gael ei ddiddymu, wrth gwrs, rŷm ni'n gwybod bod lot o'r gwaith hwnnw wedi cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru, ac mae yna lot wedi cael ei wneud. Mae'n rhaid inni gydnabod hynny. Ond, mae nifer o bobl wedi dod atom yn dweud y dylem sefydlu corff newydd, hyd-braich i hyrwyddo'r iaith. Ond, o ystyried y pwyso a mesur a wnaed gennym ni fel pwyllgor, yn sicr, o ran adnoddau, roeddem yn meddwl efallai ei bod yn haws inni weld sut yr oeddem yn gallu defnyddio'r hyn sydd gyda ni yn awr, a sut rŷm ni'n gallu defnyddio'r prosesau sydd o fewn ein gallu.
Dwi'n deall bod memorandwm o gyd-ddealltwriaeth wedi'i gychwyn gyda Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Ac eto, hoffwn gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae hynny'n mynd i weithio. A yw'r comisiynydd, er enghraifft, yn mynd i gael mwy o arian i allu ymdrin â'r gwaith hyrwyddo sydd efallai'n mynd i adio at ei gylch gwaith? Neu, a oes disgwyl iddyn nhw wneud yr un peth gyda'r un gyllideb? Byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod beth yw'r farn ar hynny.
Hefyd, hoffwn i wybod tamaid bach mwy ynglŷn â statws uned iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Cyhoeddodd y Llywodraeth uned gyflawni newydd o'r enw Prosiect 2050, ac er ein bod yn croesawu hyn, mae'n hanfodol i'r uned yma gael yr adnoddau a'r arbenigedd sydd eu hangen arno i lwyddo. Os yw'n mynd i edrych ar yr iaith Gymraeg ar hyd a lled beth sydd yn digwydd yn y Llywodraeth, mae'n bwysig iawn fod yr uned honno'n cael ei chefnogi.
Felly, dwi'n sicr yn ystyried bod y darn o waith yma wedi bod yn ddefnyddiol iawn inni i edrych yn ôl ar y Mesur a oedd wedi cael ei gyflwyno yn 2014. Mae lot wedi newid ers hynny, ac mae lot o gyfleoedd hefyd wedi cael eu rhoi i sefydliadau i newid yr hyn y maen nhw'n ei wneud, a lot o newid diwylliant. Dyna beth yr oeddem yn bles i glywed. Hyd yn oed mewn ardaloedd efallai ein bod ni'n meddwl sy'n ardaloedd cyfrwng Saesneg fel arfer, maen nhw wedi gwneud mwy o ymdrech i newid yr hyn sydd yn digwydd o ran eu prosesau.
Beth efallai sydd angen gwella o hyd yw defnydd a sut y mae pobl yn cael yr hyder i feddwl bod hynny yn rhan o'u bywydau bob dydd. Mae hynny nid yn unig yn sialens i'r Mesur, ond yn sialens inni oll mewn strategaethau, mewn sut rŷm ni'n gwneud ein gwaith bob dydd, a sut rŷm ni'n hybu'r iaith fel Aelodau Cynulliad. Felly, byddwn yn ennyn pobl i ymwneud â'r drafodaeth yma ac i barhau i sylweddoli pa mor bwysig yw'r elfen hon o'n gwaith ni fel Aelodau.
A gaf i hefyd ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith? Roedd cyhoeddi strategaeth 2050 yn uchelgeisiol, a bydd ei llwyddiant yn dibynnu ar nifer o gamau, gan gynnwys hyrwyddo. Felly, roeddwn yn falch o weld yr adroddiad hwn.
Doeddwn i ddim yma pan basiwyd y Mesur iaith. Mae wedi bod yn gyfraith ers cyfnod hir erbyn hyn, ac felly mae'n hollol briodol ei hadolygu ac ystyried ei heffaith. Yn bendant, mae'n briodol ei hadolygu oherwydd y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r comisiynydd. Yn sicr, mae Aelodau'n gwybod y byddai'n well gennym ni, fel Ceidwadwyr Cymreig, petai'r comisiynydd yn atebol i'r Cynulliad hwn yn hytrach nag i Lywodraeth Cymru, a hynny am reswm da.
Bydd nifer ohonom yma yn cofio bod y comisiynydd wedi cael ei thynnu oddi ar ei dyletswyddau hyrwyddo gan gyn-Weinidog y Gymraeg, heb gydsyniad y Cynulliad a roddodd y pwerau iddi hi. Yn fwy diweddar, rydym wedi cael y Gweinidog presennol yn ceisio cael gwared ar y rôl yn llwyr, gan greu comisiwn tebyg iawn, yn ôl pob golwg, ond a oedd yn teimlo'n llai annibynnol. Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi sylweddoli nad oedd gan ei Phapur Gwyn gefnogaeth y Cynulliad hwn.
Gan droi at yr argymhellion, mae rhai syniadau derbyniol iawn yma. Newid y weithdrefn gwynion am honiad o dorri safonau: ie. Mae sawl gradd o ddifrifoldeb mewn cwynion, ac nid yw'r system bresennol yn caniatáu ymateb cymesur. Y symleiddio a awgrymir yn argymhelliad 4: ie, wrth gwrs. Adolygiad o effeithiolrwydd safonau a dyletswyddau: ie. Er bod safonau yn benodol wedi eu fframio fel creu a diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg, hoffwn weld barnu eu heffeithiolrwydd drwy dystiolaeth o dwf yn nefnydd y Gymraeg a thwf yn sgiliau dysgwyr neu siaradwyr swil.
Rydw i wedi dweud o'r blaen bod rhai hawliau yn cael eu gwerthfawrogi gan siaradwyr Cymraeg yn fwy na rhai eraill am fodd i fyw eu bywydau yn y Gymraeg, ac mae rhai yn fwy defnyddiol wrth hyrwyddo gwerth dwyieithrwydd na rhai eraill hefyd. Cyn ymestyn safonau i gyrff newydd, dwi'n credu bod angen inni wybod pa rai sy'n cyflawni'r nodau hynny. Dyna pam mae argymhellion 4 i 7 yn ddiddorol. Rwy'n cydnabod sylw'r pwyllgor y gallai'r Llywodraeth gyflymu'r broses o weithredu'r safonau presennol, ond un peth yw symleiddio safonau'r dyfodol i'w gwneud yn fwy blasus i sefydliadau newydd; peth arall yw eu dyfrio nhw i lawr ar gyfer cyrff newydd. Yr egwyddor graidd gyda'r ddewislen gyfredol o safonau yw eu bod yn cael eu cymhwyso yn rhesymol ac yn gymesur. Felly, gall creu safonau gwannach greu dilema. Efallai y bydd y cyrff llai a mwy o fentrau preifat yn barod i'w derbyn, ond bydd gan siaradwyr Cymraeg llai o hawliau i'w cyflawni. Mae'r system bresennol, rydym ni'n gwybod, yn ddigon dryslyd, felly anogaf ofal wrth ddehongli'r argymhellion hyn ar gyfer unrhyw safonau drafft y dyfodol.
Mae'r argymhellion eraill yn ymwneud â hyrwyddo. Pan fyddwch chi'n ceisio perswadio rhywun i wneud rhywbeth, nid yw'n helpu i gael bathodyn enfawr 'Llywodraeth Cymru' arno bob tro. Yn ôl argymhelliad 11, uned yr iaith Gymraeg yw'r lle i gasglu a dadansoddi data, comisiynu ymchwil, darparu adnoddau, cymryd cyfrifoldeb am weithredu strategaeth 2050 ar draws y Llywodraeth, a llunio strategaeth a chynllunio ar lefel uchel gyda chymorth arbenigol. Ond dwi ddim yn credu mai hwn yw'r lle gorau ar gyfer hyrwyddo'r iaith, er bod ganddo rôl allweddol wrth fonitro a gwerthuso cyflwyno gweithgareddau hyrwyddo gan bobl eraill. Dwi ddim yn siŵr bod ymateb y Llywodraeth i argymhelliad 11 yn glir lle mae'r ffin rhwng strategaeth a gweithgareddau hyrwyddo.
Dywedwn i mai'r ffordd orau o roi cyngor ar newid ymddygiad yw rhywun cwbl annibynnol y tu allan i'r Llywodraeth, sydd â chyfrifoldeb am weithio yn gyd-gynhyrchiol a gyda chynulleidfaoedd targed, i hyrwyddo caffael ystyrlon o sgiliau Cymraeg. Does dim pwrpas i was sifil ddweud wrth fentrau iaith i ddenu pobl i ddigwyddiad os nad oes gwelliant yn y defnydd o Gymraeg o ganlyniad, er enghraifft. Gellir rhoi'r cyfrifoldeb hwn i gomisiynydd neu gorff ar wahân—does dim ots mawr gen i am hynny—ond mae'n rhaid bod gan y corff hwnnw'r rhyddid i ddylunio neu ddirprwyo dilyniad mentrau i rai ar y rheng flaen fod yn dysgu oedolion neu hyfforddi swyddogion y cyngor. Mae rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, wedi bod yn llai na chlir o ran ystyr eu dyletswydd i hyrwyddo'r Gymraeg, mewn gwirionedd. Diolch.
Fel rydym ni wedi clywed, cyd-destun yr ymchwiliad hwn gan y pwyllgor oedd bwriad Llywodraeth Cymru yn haf 2017 i ddeddfu o'r newydd ym maes y Gymraeg, a hynny gwta 18 mis wedi i Fesur y Gymraeg 2011 ddechrau bwrw gwreiddiau. Felly, roedd Plaid Cymru yn falch iawn fod synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd, ac yn y diwedd fod y cynigion wedi cael eu gollwng. Mae'r dystiolaeth a glywodd y pwyllgor, y consensws barn sy'n cael ei gofnodi gan fudiadau iaith, academyddion ac efallai yn bwysicach gan y sefydliadau sy'n gweithredu'r ddeddfwriaeth, i gyd yn cadarnhau nad dyma'r amser i wneud newidiadau pellgyrhaeddol i gyfundrefn gymharol newydd. Er nad ydy'r gyfundrefn honno'n berffaith, fel mae'r pwyllgor yn ei ddweud, mae wedi ac yn parhau i yrru cynnydd sylweddol o ran defnydd a statws y Gymraeg.
Er fy mod i'n croesawu penderfyniad y Gweinidog i ollwng y cynigion, mae argymhelliad 3 yn yr adroddiad, sy'n argymell y dylai unrhyw gynigion yn y dyfodol i ddiwygio neu ddisodli Mesur y Gymraeg gael eu hategu gan dystiolaeth, mae hynny'n peri pryder ac yn arwydd nad oedd cynigion y Llywodraeth ar gyfer Bil y Gymraeg wedi cael eu seilio ar y dystiolaeth. Yn amlwg, nid dyna sut y dylai Llywodraeth gyfrifol fod yn gweithredu, ac mae angen dysgu gwersi o'r gwendid yma a wnaeth arwain yn anffodus iawn at golli golwg dros gyfnod ar weithredu’r strategaeth uchelgeisiol ar gyfer creu 1 miliwn o siaradwyr. Felly, fe hoffwn i ddiolch i’r pwyllgor diwylliant am gamu i mewn i gasglu’r dystiolaeth oedd ar goll yn y drafodaeth am y Bil—i wneud gwaith y Llywodraeth drosti, buasai rhai yn dweud, ac i amlygu’r blaenoriaethau wrth symud ymlaen.
Mater i’r Llywodraeth, rŵan, ydy cydio yn y blaenoriaethau, ailafael yn yr awenau ac arwain i’w gweithredu nhw. A dwi am ganolbwyntio gweddill fy nghyfraniad ar dair blaenoriaeth o bwys, hyd y gwelaf i, ac mi fuaswn i’n gwerthfawrogi petai’r Gweinidog yn manteisio ar y cyfle wrth ymateb i roi adroddiad cynnydd ar y pwyntiau yma.
Mae’r adroddiad yn cadarnhau’n glir mai yn nwylo Llywodraeth Cymru y mae’r cyfrifoldeb pennaf dros hybu’r Gymraeg a bod angen gwella statws a rôl uned y Gymraeg. Yn amlwg, mae angen endid grymus o fewn Llywodraeth, nid uned wedi’i chladdu ym mherfeddion y gwasanaeth sifil. Rŵan, roeddwn i yn yr Eisteddfod, lle cyhoeddodd y Gweinidog mai un swydd—un swydd—newydd yn gweithio o fewn yr is-adran bresennol fydd yn cael ei chreu. Ac mi glywsom ni efo achos yr agenda gwaith teg, sydd yn hollol briodol hefyd yn flaenoriaeth drawslywodraethol—fe glywsom ni efo’r achos hwnnw y bydd yna gyfarwyddiaeth yn cael ei sefydlu yn adran y Prif Weinidog ar gyfer hyn. Pam nad ydy’r Gymraeg yn cael yr un statws yn y Llywodraeth?
Mae’r adroddiad yn argymell bod y comisiynydd yn adolygu ei weithdrefnau cwyno yn gyson o ran eu heffeithiolrwydd a’u heffaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau. Ac mae pawb, am wn i, am weld gweithdrefnau effeithiol sy’n rhoi llais i’r dinesydd a’r Gymraeg. Ond byddai pwysau ar y comisiynydd i beidio ag ymchwilio i gwynion fel mater o drefn gyfystyr â gwanhau’r gyfundrefn safonau. Allwch chi esbonio, Weinidog, pam felly eich bod chi wedi rhoi pwysau ar y comisiynydd i wneud llai o ymchwilio i gwynion? Ac a wnewch chi gadarnhau heddiw annibyniaeth y comisiynydd?
A fy mhwynt olaf i: mae Plaid Cymru—dwi wedi syrffedu galw am gyhoeddi amserlen ar gyfer symud ymlaen efo'r gwaith pwysig o gyflwyno'r safonau yn yr holl feysydd sydd yn weddill, lle mae'r comisiynydd wedi gwneud y gwaith cychwynnol yn barod. Felly, tybed, heddiw, a gawn ni'r amserlen ddiweddaraf ar gyfer cyflwyno safonau ar y cyrff dŵr a'r rheoleiddwyr iechyd, ynghyd â gweddill y sectorau yn y Mesur sydd heb gael eu cyffwrdd ganddoch chi eto? Ac a wnewch chi hefyd gadarnhau y byddwch chi am weld y comisiynydd yn dechrau gwneud gwaith paratoadol yn y sector telathrebu?
Diolch i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am eu hadroddiad ar gefnogi a hyrwyddo. Er na fyddaf yn gwneud fy holl gyfraniad yn Gymraeg, rwy'n angerddol dros yr iaith ac mae'n werth ei chadw'n fyw.
Rwy'n croesawu dull pwyllog y pwyllgor o weithredu a'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 14 argymhelliad yn llawn neu mewn egwyddor. Credaf fod y safbwynt a gymerwyd gan y pwyllgor a chan Weinidogion Cymru yn gydnabyddiaeth fod y moron yn llawer mwy effeithiol na'r ffon. Mae'r iaith Gymraeg yn rhan hanfodol o'n treftadaeth a'n diwylliant cyffredin. Mae'r ffaith bod llai nag un o bob pump o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg yn arwydd o fethiannau polisi yn y gorffennol. O gofio ei bod yn orfodol ers 20 mlynedd i bob myfyriwr astudio'r Gymraeg, dylai dros 19 y cant o'r boblogaeth allu siarad yr iaith. Rwy'n sicr yn clywed mwy o'r iaith yn cael ei siarad mewn archfarchnadoedd a phlant bach yn ei siarad â'u rhieni, ac felly rwy'n croesawu'r newid ffocws i annog mwy o bobl i ddysgu yn hytrach na'n bod yn eu gorfodi. Ac mae'n rhaid i ni gario pobl gyda ni ar y daith hon—mae'n gyffrous.
Rydym wedi gweld camau breision yn y defnydd o'n hiaith yn y byd ehangach yn ddiweddar, yn enwedig ym maes technoleg.
Rydym wedi gweld camau breision yn y defnydd o'r iaith yn y byd ehangach yn ddiweddar, yn enwedig ym maes technoleg, ac mae gennym fersiynau Cymraeg o lawer o blatfformau meddalwedd, prosiectau ffynhonnell agored sy'n ceisio dod â'r iaith i faes cymorth llais, a phlatfformau dysgu fel Duolingo sy'n caniatáu i ni ddysgu wrth fynd. Bydd defnyddio'r newid technolegol hwn yn ein galluogi i annog llawer mwy o bobl i ddysgu. Fodd bynnag, rwy'n pryderu y bydd cwtogi ar gyllidebau awdurdodau lleol yn llesteirio uchelgais Llywodraeth Cymru i gael 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae cyfleoedd dysgu i oedolion yn dioddef o ganlyniad i doriadau, a bydd hyn yn llesteirio ymdrechion i annog mwy o bobl i ddechrau dysgu Cymraeg. Felly, hoffwn annog y Gweinidog i fynd ymhellach nag argymhelliad 12 a sicrhau cyllid digonol ar gyfer mwy na hyrwyddo yn unig—rhaid iddynt sicrhau cyllid digonol ar gyfer dosbarthiadau Cymraeg i oedolion. Y dull hwn o weithredu yw'r ffordd orau o sicrhau bod mwy o bobl yn gallu siarad iaith ein cyndadau. Diolch.
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i gyfrannu i'r ddadl—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Yn y lle cyntaf, a gaf i ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith yn ystod yr ymchwiliad ac am eu hystyriaeth ofalus o'r dystiolaeth a oedd wedi cael ei chyflwyno iddyn nhw? Fel dwi eisoes wedi nodi yn ymateb ysgrifenedig y Llywodraeth i'r pwyllgor, rŷn ni'n derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor yr holl argymhellion sydd yn yr adroddiad—gan nodi, wrth gwrs, nad yw'r holl argymhellion yn rhai i'r Llywodraeth eu gweithredu. Mae rhai ohonyn nhw i'ch pwyllgor chi, felly dwi ddim eisiau mynd drwy'r holl argymhellion hynny heddiw.
Bydd Aelodau yn ymwybodol y gwnes i ddatganiad ym mis Awst ynghylch y camau nesaf o ran y strwythurau ar gyfer gweithredu'r strategaeth Cymraeg 2050. Ein rôl ni fel Llywodraeth yw arwain, cynllunio, gosod cyd-destun a chreu'r amodau cywir ar gyfer cydweithio tuag at yr 1 filiwn. Mae'n grêt i weld bod Caroline Jones yn un o'r 1 filiwn yna a fydd gyda ni erbyn 2050. Diolch yn fawr i chi am wneud eich cyfraniad yn Gymraeg.
Rhan o'r gwaith o arwain, wrth gwrs, yw cymryd penderfyniadau strategol. Yn ein tyb ni fel Llywodraeth, mae'r pwyslais o ran polisi iaith wedi gwyro'n rhy bell i gyfeiriad rheoleiddio, ar draul ymyriadau polisi eraill dros y blynyddoedd diwethaf. A dyna oedd sail y Papur Gwyn yn 2017. Ac er nad ydyn ni bellach yn mynd i ddeddfu, dwi wedi gwneud penderfyniad sydd â'r nod o weld gwell cydbwysedd rhwng creu hawliau i wasanaethau Cymraeg ar y naill law, a gwaith ymarferol, sef gwaith polisi, ar y llaw arall. Wrth gwrs, bydd hwn yn arwain at gynyddu nifer y siaradwyr i'r 1 filiwn yna erbyn 2050, dyblu defnydd dyddiol y Gymraeg a chynnal ein cymunedau Cymraeg.
Er mwyn llwyddo yn y gwaith hyn, dwi'n cytuno â'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor ynghylch yr angen i sicrhau bod yna fwy o ffocws a phwyslais yn cael ei roi ar gynllunio ieithyddol a newid ymddygiad ieithyddol o fewn y Llywodraeth ac yn allanol. Dyna pam y byddwn ni'n buddsoddi mewn arbenigedd cynllunio ieithyddol wrth sefydlu'r project yma, prosiect 2050, sef uned newydd amlddisgyblaethol o fewn Llywodraeth Cymru a fydd yn gyfrifol am yrru strategaeth Cymraeg 2050. Wrth gwrs, y nod yw ein bod ni'n prif ffrydio'r Gymraeg ar draws y Llywodraeth. Dyna yw'r nod. Felly, dŷn ni ddim eisiau'r adran yma i jest fod yn un rhan fach o'r Llywodraeth. Dyna bwrpas yr adran newydd yma. Fel y cyhoeddais i ym mis Awst, bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu swydd gwasanaeth sifil i arwain y project yma ac i gomisiynu panel o hyd at bedwar o gynghorwyr arbenigol allanol ar gynllunio ieithyddol. Mae'n swyddogion ni'n gweithio ar hyn ar hyn o bryd.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Wrth gwrs.
Pam fod y Llywodraeth yn creu cyfarwyddiaeth ar gyfer gwaith teg, yr agenda yna, ond ddim yn gwneud hynny ar gyfer yr iaith Gymraeg, sydd hefyd efo ffocws trawslywodraethol?
Wel, wrth gwrs, mae adran gyda ni eisoes. Beth rŷn ni'n ceisio ei wneud gyda'r project newydd yma yw sicrhau bod hwn yn rhywbeth sy'n mynd ar draws y Llywodraeth yn llwyr. Felly, mae hi'n ffordd wahanol o'i gwneud hi, ond rŷn ni'n ceisio cyrraedd yr un nod â'r broses yna.
Tasg project 2050 fydd i gydlynu'r gwaith o gynllunio ar ein taith tuag at 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, o'r blynyddoedd cynnar, drwy addysg cyfrwng Cymraeg statudol ac ôl-16, i Gymraeg i oedolion. Byddwn ni hefyd yn dyblu defnydd y Gymraeg drwy greu projectau newydd a gwerthuso ein projectau cyfredol. Ac yn drydydd, byddwn yn cynnal cymunedau Cymraeg drwy gefnogi adrannau polisi ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod ein polisïau ymhob adran berthnasol yn cyfrannu tuag at hynny. Dyna yw pwrpas y project newydd. Bydd y project yn adrodd i mi fel y Gweinidog ac yn gweithio'n glòs gyda chyngor partneriaeth y Gymraeg, sy'n fy nghynghori i ar y Gymraeg. Dwi'n ffyddiog, drwy weithio gyda'n gilydd, y bydd profiad ac arbenigedd project 2050, y cyngor partneriaeth, y comisiynydd a'n partneriaid grant i gyd yn ein rhoi ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y nod yna.
Mae datblygu partneriaeth well o weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg wedi bod yn flaenoriaeth i ni eleni. Rwy'n falch ein bod wedi cytuno memorandwm o gyd-ddealltwriaeth, rhyngof fi ac Aled Roberts, ym mis Awst. Mae'r ddau ohonon ni'n gwbl glir bod modd cydweithio ar nifer o faterion tra ein bod ni'n parchu—a dwi eisiau tanlinellu hyn—annibyniaeth y comisiynydd mewn materion sy'n ymwneud â gosod a gorfodi safonau.
Gadewch i fi fod yn glir: mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i barhau i ddatblygu safonau er mwyn ehangu hawliau pobl i wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hawliau yn rhan bwysig o'r ymyriadau polisi ar gyfer cyflawni Cymraeg 2050. Mae rheoliadau newydd yn cael eu datblygu ar hyn o bryd ar gyfer creu safonau i'r ddau sector newydd—cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr gofal iechyd. Mae hi'n anodd rhoi dyddiad pendant achos bod Brexit yn cyfyngu ar ein gallu cyfreithiol yn fewnol, ond fe allaf i ddweud wrthoch chi fod yna lot o brosesau i fynd trwyddynt o ran ymgynghori. Wrth gwrs, mae'r pwyllgor eu hunain wedi dweud eu bod nhw ishe inni ymgynghori â nhw'n gynnar, a byddwn ni'n ymgymryd i wneud hynny. Mae yna sawl cam. Dwi wedi bod yn trafod hyn gyda'r comisiynydd yr wythnos yma, ond dwi yn gobeithio, y flwyddyn nesaf, y bydd hyn yn digwydd.
Mae adroddiad y pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion am y ffordd y dylem ni fynd ati i symleiddio'r safonau drwy adolygu neu gyfuno safonau lluosog sydd â'r un nod neu ganlyniad. A dwi'n cytuno â hyn. Dwi ishe eich sicrhau nad yw'r amcanion polisi wedi newid. Dwi'n glir na ddylai unrhyw newidiadau a wneir i'r broses o ddatblygu safonau effeithio'n negyddol ar wasanaethau i siaradwyr Cymraeg. Dwi yr un mor gadarn bod yn rhaid i'r cyrff fod yn glir am beth mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud. Ond dwi eisiau tanlinellu nad yw torri nifer y safonau yn gyfystyr â symleiddio. Dwi am osgoi sefyllfa lle rydym yn creu llai o safonau er mwyn creu safonau sy'n hirach ac yn fwy cymhleth. Dwi ddim chwaith am wneud safonau symlach a fyddai'n golygu bod yn rhaid i'r hysbysiadau cydymffurfio y mae'r comisiynydd yn eu paratoi ddod yn fwy cymhleth ac yn fwy biwrocrataidd.
Dywedodd y pwyllgor hefyd mai dim ond ar ôl ystyried yr angen i adolygu'r safonau y dylid cyflwyno'r setiau nesaf o reoliadau i reoleiddwyr iechyd a chwmnïau dŵr. Mae'n bwysig, felly, ein bod ni'n cymryd ein hamser i sicrhau bod y rheoliadau rŷn ni'n eu paratoi o hyn ymlaen yn adlewyrchu'r gwersi o'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn a'r dystiolaeth a dderbyniodd y pwyllgor.
Mae gyda ni fel gwlad gynllun blaengar a chyffrous i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050 ac i ddyblu'r defnydd o'r Gymraeg. Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymrwymo'n llwyr i'r ddau darged yma, a dwi wedi fy nghalonogi'n fawr fod yna gefnogaeth ar draws y wlad i'r uchelgais yma. Mae'r uchelgais wedi dal dychymyg y genedl, a dwi'n siŵr, gyda'n gilydd, byddwn ni'n cyrraedd y targed yna.
Diolch. Galwaf ar Bethan Sayed i ymateb i'r ddadl. Bethan.
Diolch i'r Aelodau Cynulliad hynny oedd wedi cyfrannu yma heddiw, a da iawn eto i Caroline Jones am ymarfer ei Chymraeg yma heddiw hefyd; mae'n bwysig ein bod ni'n ceisio gwneud hynny pan fyddwn ni'n gallu.
Mae gen i amser, efallai, jest i esbonio rhai o'r pethau oedd gan rai Aelodau gonsérn ynglŷn â nhw. Hoffwn i ddechrau, felly, gyda'r cysyniad yma roedd Suzy wedi ei ddweud o ran 'dumb-io' lawr safonau os dŷn ni am eu symleiddio nhw, ac dwi'n credu bod Siân Gwenllian yn teimlo yn debyg o ran hynny. Beth roedden ni'n ceisio ei ddweud fel pwyllgor oedd, fel yr oedd y Gweinidog wedi'i ddweud, os oedd yna safonau lluosog, neu rai oedd yn debyg, bydden ni'n gallu symleiddio'r broses fel nad oes gormodedd o safonau, os oedden nhw'n debyg, a bod yn rhaid i sefydliadau gydymffurfio â nhw—nid er mwyn gwanhau'r broses. Petasen ni'n meddwl am funud byddai fe'n gwanhau'r broses, fydden ni ddim wedi argymell hynny fel pwyllgor. Felly, wrth gwrs, mae angen gweld sut mae hynny'n datblygu.
Dŷn ni'n clywed efallai fod yna concerns gweithredol gan y Gweinidog. Felly, i lawr y lein, byddwn ni angen deall beth yw hynny. Ond dwi'n erfyn ar bobl sydd yn gwylio hwn—y cyhoedd sydd yn mynd i fod yn dod â'r cwynion ger bron, efallai—nad hynny yw'r pwrpas. Beth roedden ni'n ei glywed gan gynghorau, neu beth roedden ni yn ei glywed gan sefydliadau, oedd eu bod nhw wir eisiau ymateb i'r cwynion, ond weithiau roedd y safonau mor gymhleth roedd yn anodd iddyn nhw ddeall beth yn gwmws oedd y trywydd trwyddo. Felly, dŷn ni eisiau eu helpu nhw i wella, a dŷn ni eisiau eu helpu nhw, felly plîs deallwch dŷn ni ddim eisiau tanseilio neu wanhau y safonau. Amser a ddengys o ran sut mae hynny yn cael ei chwarae mas.
Mae rhai yn yr ystafell yma—Siân Gwenllian a Suzy Davies—yn amlwg yn cytuno o ran beth oedd wedi digwydd gyda'r comisiwn ac yn y blaen. Yn amlwg, roedd y Llywodraeth wedi gwrando ac wedi gweld beth oedd y dystiolaeth yn ei ddangos pan ddaeth pobl i'r pwyllgor; doedden nhw ddim yn gefnogol. Roedd cwpwl o fudiadau, efallai, yn sicr yn gefnogol, ond ar hyn o bryd dŷn ni'n dal yn gweld sut mae'r Mesur yn gweithio ar lawr gwlad. Byddwn i'n meddwl byddai fe'n od iawn i newid system mor newydd ar hyn o bryd, ac felly dyna pam roedden ni wedi dod lawr ar yr ochr o roi amser i'r drefn weithredu, ac wedyn asesu eto yn y dyfodol.
Byddwn i yn anghytuno, yn anffodus, â'r Gweinidog am ddweud bod gormod o ffocws, efallai, neu fod gormod wedi digwydd ar reoliadau hyd at nawr. Os dŷn ni am sefydlu system newydd, mae angen inni gael y rheoliadau yna yn eu lle, dŷn ni angen sicrhau eu bod nhw'n gweithio. A nawr, dwi'n credu, dŷn ni wedi cyrraedd pwynt lle dŷn ni'n gallu edrych ar yr hyrwyddo a'r hybu, oherwydd bod y systemau yna yn eu lle. Ac dwi'n credu dyna pam nad oedd pobl, efallai, eisiau gweld Bil newydd gyda ffocws, efallai, ar reoliadau, pan fo bod ar lawr gwlad a siarad yr iaith yn rhywbeth dŷn ni i gyd eisiau ei flaenoriaethu ar hyn o bryd.
Yn sicr, dŷn ni'n hapus bod y Gweinidog wedi dweud, o ran ffocws ar gynllunio ieithyddol, am yr uned newydd yma. Dŷn ni'n mynd i asesu hynny a monitro hynny, mae'n siŵr. Dwi yn cael ryw fath o—. Dwi yn cytuno â Siân Gwenllian i raddau, oherwydd, os oes yna uned newydd, os oes yna ffocws ar greu swydd newydd, yna mae'n bach yn drist i glywed bod Brexit efallai yn mynd i danseilio peth o'r gwaith sydd angen cael ei wneud yn weddol sydyn. Os ydy e'n mynd i gael ei brif-ffrydio, os oes yna amcan i roi safonau ger bron—safonau newydd ger bron—yna dylai'r uned honno fod yn ddigon cryf, buaswn i'n meddwl, i allu gwrthsefyll yr hyn sydd yn digwydd, boed Brexit—. Mae Brexit yn digwydd, mae trafodaethau yn digwydd o ddydd i ddydd; mae angen i ni barhau gyda phethau eraill hefyd. Felly, byddwn i'n erfyn ar y Gweinidog i ystyried y ffaith bod angen inni sicrhau bod yr uned honno yn gryf ac yn cael y gefnogaeth dŷch chi wedi dweud eich bod chi'n mynd i roi iddi hi heddiw.
Dwi'n credu bod y gyfarwyddiaeth wedi cael ei siarad amdani yma heddiw. Dwi jest eisiau gorffen drwy ddweud—nawr mae'r cyfle inni fel pwyllgor a'r cyfle inni fel Aelodau Cynulliad edrych ar sut y bydden ni'n gallu edrych ar elfennau eraill o'r hyn sydd yn digwydd o ran yr iaith Gymraeg. Roedd Caroline Jones wedi dweud am dechnoleg a digidol, ac mae'n bleser gyda ni fel pwyllgor dweud y byddwn ni yn edrych i mewn i'r maes technoleg digidol yn y dyfodol, achos mae'n rhywbeth sydd wedi dod atom ni fel pwyllgor fel rhywbeth o bwys.
Felly, mae'n bwysig ein bod ni yn sylweddoli bod deddfwriaeth yn bwysig, wrth gwrs, a bod rheoliadau a safonau'n bwysig, ond dŷn ni i gyd angen gweld y defnydd yn gwella ar lawr gwlad. Ac mae syniad Suzy Davies yn dda iawn, dwi'n credu. Os ydy mentrau iaith yn cynnal digwyddiad, yna dŷn ni eisiau i rai o'u hamcanion, neu rai o'r pethau maen nhw'n adrodd yn ôl arnyn nhw i'r Llywodraeth, ddangos bod y defnydd hwnnw wedi'i esblygu, yn hytrach na dim ond eu bod nhw'n gallu cyrraedd y targed o filiwn. Wel, sut mae'r filiwn yna'n ei wneud? Ydyn nhw'n defnyddio hi i roi'r babi i'r gwely? Ydyn nhw'n defnyddio hi i fynd lawr y stryd i'r dafarn a siarad yr iaith gyda'u ffrindiau? Sut mae hynny'n mynd i esblygu i fod yn realiti pob dydd?
Felly, diolch i bawb am ymwneud â'r adroddiad pwysig yma. Dwi'n credu roedd e'n adroddiad a oedd wedi diweddu lan i fod yn weddol ddylanwadol, felly—. Dyw pob un ddim yn ddylanwadol, ond dŷn ni'n gwneud y gwaith, ond dwi'n credu roedd yr adroddiad yma'n un o'r rheini, a dwi'n ddiolchgar iawn i'r Llywodraeth am wrando ac am fod yn ymatebol i rai o'r pethau hynny roedden nhw wedi eu clywed fel rhan o'r drafodaeth. Dwi'n credu roedd hi'n drafodaeth gadarnhaol wnaethon ni ei chael rhwng y Llywodraeth, y bobl oedd wedi rhoi tystiolaeth, a'r Aelodau Cynulliad. Felly, diolch yn fawr iawn i bawb.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.