Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 2 Hydref 2019.
Efallai fod asesu perfformiad disgyblion ym mlynyddoedd 4 i 9 yn ymwneud â nodi sut i helpu pob disgybl i wella, ac rwy'n deall hynny, ond mae'r sgoriau hynny hefyd yn gweithredu fel rhybudd. Nid yw disgyblion blwyddyn 9 heddiw mewn sefyllfa mor gryf ag yr oedd disgyblion blwyddyn 11 eleni ddwy flynedd yn ôl—nid yn y Saesneg, nid yn y Gymraeg, nid mewn mathemateg, ac nid mewn gwyddoniaeth hyd yn oed. A chofiwch fod canlyniadau blwyddyn 11 eleni yn y meysydd sgiliau allweddol hynny, y cymwysterau allweddol hynny, wedi gostwng eto ers canlyniadau difrifol y llynedd, y rhai gwaethaf mewn 13 mlynedd. A bellach, gan fod llywodraethwyr yn gallu osgoi gosod targedau hyd yn oed ar gyfer y sgiliau allweddol hyn yn gynharach ar daith y disgybl, mae'r cyswllt hwnnw rhwng safonau a'r daith tuag at ganlyniadau arholiadau yn dod yn llai gweladwy, yn llai tryloyw ac yn ddefnyddiol iawn i Lywodraethau allu cuddio newyddion drwg.
Nawr, efallai y bydd yr Aelodau'n pendroni ynghylch pwynt 2 yn ein cynnig a'r cyfeiriad at 2007. Nid yw wedi'i gynnwys ar hap, rwy'n addo i chi. Rwyf newydd dynnu eich sylw at y gostyngiad yn y cyrhaeddiad yn y TGAU pwysicaf eto eleni. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthddadlau yn erbyn hyn yn ei gwelliant, gyda'r honiad fod y canlyniadau yn gyffredinol wedi gwella eleni, ac maent wedi gwneud hynny mewn gwirionedd, gyda chynnydd o tua 1 y cant, ond gan y gwelwyd gostyngiad o tua'r un faint y llynedd, rwy'n tybio mai dim ond yr ail waethaf mewn 13 o flynyddoedd ydynt. Y flwyddyn ddiwethaf y gwelwyd canran yr un fath fwy neu lai yng Nghymru a Lloegr o bobl ifanc yn cyrraedd graddau A* i C oedd 2007. Ac fel y gwelwn yng ngwelliant y Llywodraeth, maent yn hoff iawn o gymharu â Lloegr. Nawr, ers 2007, mae disgyblion yn Lloegr wedi perfformio'n well na disgyblion Cymru bob blwyddyn o ran graddau A* i C yn eu TGAU, er i'r ddwy wlad weld gwelliannau.
Yn 2015, roedd gostyngiad yn y canlyniadau yn Lloegr yn golygu bod y ddwy wlad fwy neu lai yn yr un lle, ac ers hynny, mae'r ddwy wlad wedi diwygio eu TGAU. Fe deimlodd y ddwy yr ymyrraeth, ond dyfalwch beth? Mae perfformiad Lloegr yn sefydlog—mewn gwirionedd, mae'n codi'n gymedrol. Yng Nghymru, rydym wedi gostwng yr holl ffordd yn ôl i'n lefelau yn 2007. Ni allwch ddweud bod y rhain yn arholiadau gwahanol pan fo Lloegr yn amlwg wedi rheoli ei newidiadau heb y niwed i gyrhaeddiad. A gyda llaw, Weinidog, rydych chi'n ddewr iawn i sôn am Ogledd Iwerddon yn eich gwelliant. Rydych chi'n gwybod cystal â minnau fod disgyblion yng Ngogledd Iwerddon wedi perfformio'n ardderchog eto eleni yn eu TGAU, gyda thua 80 y cant yn cyflawni graddau A* i C, ac maent wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd. Pam nad ydym yn edrych yn agosach ar eu system hwy yn hytrach nag un yr Alban, lle mae ysgolion y wladwriaeth bellach yn cynnig llai o bynciau a lle mae canlyniadau'r Highers wedi gostwng am y bedwaredd flwyddyn yn olynol?
Nawr, mae cymharu canlyniadau yn fy arwain at y pwynt a godwyd yn ail welliant Plaid Cymru, ac mae Cymwysterau Cymru wedi annog yr un gofal wrth gymharu. A gaf fi wahodd yr Aelodau i ystyried hyn? Mae pob bwrdd arholi ym mhob un o'r gwledydd yn gweithio'n galed i sicrhau bod safonau'r her yn eu harholiadau, fel y'i dangosir gan y graddau, yn cyd-fynd yn fras. Felly, yn fyr, dylai C mewn arholiad CBAC fod cystal ag C mewn arholiad AQA. Nid yw'r gwahaniaeth o ran cynnwys yn yr arholiadau hynny at ddibenion sicrhau ansawdd yn bwysig rhwng byrddau, cyn belled â bod cysondeb yn lefel yr her. A does bosibl fod hynny wedi newid. Gall cynnwys ein cymwysterau TGAU newydd fod yn wahanol iawn—efallai eu bod yn profi gwybodaeth wahanol, efallai eu bod yn profi sgiliau gwahanol—ond dylai safon yr her barhau i gymharu, o fewn lwfans gwallau, nid yn unig â safonau gwledydd eraill, ond â safonau ein cymwysterau TGAU blaenorol. Nid yw ein canlyniadau TGAU salach o'u cymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon yn deillio o fod ein harholiadau'n anos na'u rhai hwy. Felly, ni allwch guddio'ch methiant, Weinidog, drwy honni na allwch gymharu'r hyn sydd gennym heddiw â'r hyn sydd wedi mynd o'r blaen. Dylem bob amser allu cymharu safonau o un flwyddyn i'r llall, ac mae data ar gyrhaeddiad yn rhan o'r broses honno.
Yn fyr iawn, i ymdrin â'r gwelliannau eraill—byddwn yn cefnogi gwelliant 3, os cawn gyfle i wneud hynny. Dim ond un cafeat ar drydydd pwynt gwelliant Plaid Cymru: mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud erioed ein bod am i athrawon fod yn rhydd i addysgu, a dyna pam nad ydym yn beirniadu'r cwricwlwm ar hyn o bryd, ond bydd angen i arweinwyr ysgolion wybod y byddwn yn mynnu cael strwythurau atebolrwydd lefel uchel yn gyfnewid am ymddiried ynddynt. Mae hynny filltiroedd i ffwrdd oddi wrth y rheolaeth ymyrrol bresennol, ond ni allwn osgoi ymwneud yn llwyr. Mae gennym Lywodraeth i'w dwyn i gyfrif am ei pherfformiad, heb sôn am fuddiannau dysgwyr, a staff i'w cynrychioli.
Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant Plaid Brexit, nid am ein bod yn credu y dylid ailfabwysiadu mesurau atebolrwydd penodol, ond am ei fod yn sôn am duedd. Rwy'n gobeithio bod fy sylwadau cynharach yn egluro ein pryderon ynghylch cynnal a gwella safonau mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac yn wir, cyrhaeddiad o ran cymhwyster cyffredinol o'i gymharu â chymhwyster galwedigaethol.
Yn olaf, gwelliant 4. Mae hwn yn dileu rhan o'n cynnig, felly mae arnaf ofn na allwn ei gefnogi, ond mae'n dod o'r un lle. Nid yw hanner ein disgyblion yn cyflawni eu potensial, ar lefel safon uwch, TGAU neu gymwysterau eraill, ond nid ydynt ychwaith yn cyflawni eu potensial o ran eu hunangyflawniad, o ran eu cynnydd economaidd, o ran cyfrannu at y gymdeithas ffyniannus, hyderus, gref a gweithredol y dylid adeiladu ein gwlad arni.
Yn y pen draw, rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb am hynny i gyd. Ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur a'r holl flynyddoedd o danariannu o gymharu â Lloegr, gall pawb sydd wedi bod drwy eich system addysg edrych ar eich gwelliant. Gallant weld beth y credwch chi y dylent fod yn ddiolchgar amdano a beth rydych chi'n eu hannog i'w alw'n llwyddiant, ac rwy'n credu o ddifrif fod hynny'n dwyll truenus. Maent yn haeddu ymddiheuriad, fel y mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn amdano. Maent hwy a'u plant yn haeddu Llywodraeth well.