Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 2 Hydref 2019.
Rwyf innau hefyd yn falch o gyfrannu at y ddadl bwysig hon y prynhawn yma—pwysig, oherwydd beth allai fod yn bwysicach na thrafod addysg? Beth allai fod yn bwysicach na dyfodol ein pobl ifanc? Nid y canlyniadau y buom yn siarad amdanynt y prynhawn yma yw’r cyfan sy’n bwysig mewn addysg, ond maent yn ddangosydd allweddol o ble rydym arni fel gwlad o ran addysgu ein pobl ifanc, ac yn fodd o fesur ar hyd y ffordd i ble yr hoffem fod.
Mae Aelodau eraill wedi sôn am lawer o'r pethau yr oeddwn am sôn amdanynt, felly nid wyf am eu hailadrodd. Mae Paul Davies wedi sôn am sir Benfro a’r canlyniadau yno; yn sir Fynwy, hoffwn longyfarch y disgyblion ledled sir Fynwy a weithiodd mor galed, a'u hathrawon a weithiodd yn galed a chael canlyniadau da. Gwn fod y Gweinidog, o'ch ateb blaenorol, yn Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII yn y Fenni ar ddiwrnod y canlyniadau, rwy'n credu, felly fe allech chi weld y llawenydd drosoch eich hun. Mae pawb ohonom yn cofio pan oeddem yn y sefyllfa honno, yn agor ein canlyniadau, ac mae'n gyfnod yn eich bywyd na ddaw byth yn ôl, ond rwy'n falch fod y Gweinidog yn fy etholaeth ar gyfer y diwrnod hwnnw.
Rhaid i mi ddweud—a soniodd Siân Gwenllian am hyn yn gynharach—o ran gwelliant y Llywodraeth, cefais fy siomi gan y gwelliant hwnnw. Mae'n tynnu sylw at ystadegau diddorol, ond mae'n gwneud i bethau ymddangos fel pe bai popeth yn fêl i gyd, ac nid wyf yn credu ei fod yn adlewyrchu'r gwir ddyhead mewn ysgolion ymhlith y disgyblion, athrawon a thu hwnt i ddiwygio a chamu ymlaen a chodi safonau. A bydd lle bob amser i godi safonau, ni waeth pa mor dda yw pethau yn ôl y Llywodraeth, neu pa mor dda yw'r canfyddiad ohonynt. Yn y pen draw, yn enwedig wrth inni nesáu at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Cymru a'r DU yn mynd i orfod cystadlu'n gynyddol ar lwyfan y byd a rhaid inni barhau i fod cystal â gwledydd eraill sy'n gweld eu safonau addysgol yn codi, a rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd bob yn gam â hynny.
Hoffwn ategu geiriau Paul Davies yn gynharach fod rhai ysgolion wedi gwneud yn dda iawn, ond beth am yr ysgolion nad ydynt wedi gwneud cystal? Mae'n bwysig fod arferion da'n cael eu lledaenu o'r ysgolion da i'r ysgolion llai cefnog, a byddai'n dda gweld ailddatganiad, ailwerthusiad, o strategaeth Llywodraeth Cymru o sut y mae'r Gweinidog yn gweld hynny'n datblygu a sut y gellir lledaenu arferion da, gan fod yna waith y gellir ei wneud ar hynny bob amser.
Mae cyllid wedi'i grybwyll a gwyddom y bydd cylch gwariant diweddar Llywodraeth y DU yn darparu swm ychwanegol o arian—£1.24 biliwn—i ddod i Gymru o ganlyniad i fuddsoddiad ychwanegol mewn ysgolion yn Lloegr. Credaf mai Jenny Rathbone a grybwyllodd o ble y daw'r arian hwn a gadewch inni gael dadl ynglŷn â sut y rhannwn y gacen yng Nghymru. Wel, o'r gorau, efallai nad yw'n bopeth, ond mae swm da iawn o arian yn mynd i ddod i Gymru, felly mae angen inni gael dadl ynglŷn â sut y gwerir yr arian hwnnw. A gadewch i ni sicrhau bod yr arian yn mynd i reng flaen y gwasanaethau cyhoeddus ac nad yw'n cael ei ailgyfeirio i feysydd eraill. Rhaid iddo fynd i'r rheng flaen ym maes addysg. Wrth gwrs, nid arian yw'r ateb cyfan—mae'r Gweinidog wedi gwneud y pwynt hwn yn y gorffennol—a chredaf ein bod yn rhy aml yn gallu rhoi'r argraff, os ydym yn taflu arian at rywbeth, fod hynny'n mynd i'w ddatrys. Ond dim ond hanner yr ateb yw arian wrth gwrs, ac yn wir mae NASUWT, fel y soniodd fy nghyd-Aelod Paul Davies, wedi dweud bod y bwlch ariannu'n £645 y disgybl. Rwy'n gwybod bod rhai wedi anghytuno â hynny mewn rhai cylchoedd, ond dyna farn NASUWT a beth bynnag yw'r bwlch cyllido, mae'n bwysig ein bod yn ceisio ei gau.
Rydym yn croesawu'r gwelliant a fu yn y canlyniadau TGAU a safon uwch ers 2018. Roeddwn yn mynd i sôn am y flwyddyn 2007, ond achosodd gymaint o bryder yn gynharach. Eglurodd Suzy Davies pam fod 2007 wedi'i defnyddio, sef oherwydd mai dyma'r dyddiad olaf y gellir cymharu'r setiau data. Felly, dyna pam y pennwyd y dyddiad hwnnw. Ond os ewch chi'n ôl i'r llynedd, mae gwelliant wedi bod. Os ewch chi'n ôl ymhellach, mae'r canlyniadau'n llai clir. Felly, y tu ôl i'r ystadegau a ddyfynnwyd y prynhawn yma, credaf fod rhaid i ni gofio ei fod yn ymwneud â mwy nag ystadegau; mae pobl, pobl ifanc, bodau dynol y tu ôl i'r ystadegau. Mae'r dyfodol y tu ôl i'r ystadegau hynny. Oherwydd pan fyddwch yn rhoi arian i addysg ac yn cynllunio eich strategaeth addysg, yr hyn a wnewch mewn gwirionedd yw adeiladu dyfodol y wlad hon. Ac mae pawb ohonom eisiau gweld yn y Siambr hon—. Credaf ein bod i gyd yn unfryd ein bod am weld gwelliant yn y safonau heddiw fel y gall Cymru wneud hyd yn oed yn well ar lwyfan y byd yn y dyfodol, ac fel y gall pob un ohonom fwrw ymlaen â'r gwaith o adeiladu dyfodol mwy disglair i'n pobl ifanc a dyfodol mwy disglair i Gymru.