Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 2 Hydref 2019.
Rwy’n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Yn dilyn canlyniadau arholiadau’r haf, roedd canmoliaeth haeddiannol i ddysgwyr Cymru a oedd wedi gweithio’n galed i gyflawni eu graddau o dan bwysau sylweddol yn sgil setliadau cyllido gwael a diwygiadau pwysig. Mae pawb ohonom wedi bod yno ein hunain fel dysgwyr, gall y pwysau fod yn llethol, a gall yr ofn a'r pryder a ddaw yn sgil cael eich canlyniadau arholiadau fod yn enfawr.
Yn fy etholaeth i, gwelwyd perfformiad cryf iawn yn Ysgol y Preseli ar gyfer graddau A* i A, ac rwy'n falch o ddweud ei fod yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Fodd bynnag, ni welwyd gwelliannau ym mhob ysgol yn sir Benfro, ac er fy mod yn deall bod gwelliannau wedi'u gwneud mewn sawl ysgol ledled y sir o ran cyflawni graddau A* i C, mae Cyngor Sir Penfro wedi dweud yn glir fod angen gwaith pellach o hyd i gefnogi Ysgol Aberdaugleddau ac ysgol uwchradd Hwlffordd.
Wrth gwrs, ar y cam hwn, mae'r canlyniadau'n dal i fod yn rhai dros dro ar lefel ysgol yn unig, a gallent newid. Fodd bynnag, hyd yn oed ar y cam cynnar hwn, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym pa ymyriadau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio, i weithio gydag ysgolion unigol er mwyn archwilio ffyrdd y gallant wella safonau. Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno nad oes un dull sy'n addas i bawb o wella safonau addysg yng Nghymru ac efallai y bydd y gefnogaeth sydd ei hangen mewn un ysgol yn wahanol iawn i un arall. Felly, rwy'n credu ei bod yn amlwg y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i ddatblygu dull mwy pwrpasol o weithio gydag ysgolion ledled Cymru fel bod y pecyn cymorth a gynigir wedi'i deilwra i'r ysgol unigol.
Wrth gwrs, ceir llu o resymau pam nad yw rhai o'n dysgwyr yn cyrraedd eu potensial llawn. Yn ôl NASUWT, un o'r rhesymau yw’r angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r bwlch cyllido parhaus rhyngddynt ag ysgolion yn Lloegr a llwyth gwaith cynyddol athrawon ac arweinwyr ysgolion. Rydym i gyd yn gwybod bod y bwlch cyllido sy'n wynebu ysgolion ledled Cymru yn golygu bod diffyg adnoddau i'n darparwyr addysg ac mae hynny, yn ddealladwy, yn tanseilio gallu ysgolion i sicrhau'r safonau addysg gorau posibl. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gyllid ysgolion, a ganfu y bydd y bwlch cyllideb ysgolion o £109 miliwn yn 2019-20 yn codi i £319 miliwn yn 2022-23 ac y bydd o leiaf hanner holl ysgolion uwchradd Cymru yn wynebu diffyg. Ac mae'r ffigur hwnnw'n codi.
Mae ysgolion ledled Cymru yn iawn i ddweud bod anhawster gwirioneddol i gynnal a gwella safonau yn erbyn cefndir o bwysau cynyddol ar adnoddau. Wrth roi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw, nododd Cymdeithas y Prifathrawon Uwchradd yn sir Benfro yn glir fod ysgolion uwchradd yn lleihau nifer y staff addysgu, gan leihau ehangder y cwricwlwm a gynigir, yn rhannol yng nghamau allweddol 4 a 5. Dywedasant hefyd fod angen cynyddu nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau er mwyn galluogi llai o athrawon i gyflawni'r cwricwlwm. Aethant ymlaen i ddweud y bydd llai o amser yn cael ei neilltuo ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth, a fydd yn cynyddu llwyth gwaith yr aelodau staff hynny ac yn lleihau eu capasiti i ganolbwyntio ar wella perfformiad ysgolion. Rwy'n siŵr nad yw'r Gweinidog dan unrhyw gamargraff mai dim ond ysgolion uwchradd sir Benfro sy'n gorfod cymryd y camau hyn, ac felly mae'n hanfodol fod mater cyllido ysgolion yn cael sylw er mwyn sicrhau bod gan ysgolion adnoddau llawn a'r offer gorau i ddarparu ar gyfer ein dysgwyr.
Fodd bynnag, dim ond un rhan o’r darlun yw cyllid ysgolion, a gwyddom fod canlyniadau Cymru yn 2019 wedi'u gosod yn erbyn cefndir o ddiwygiadau sylweddol i'r cwricwlwm. Ym mis Ionawr, cyn i'r cwricwlwm drafft gael ei gyhoeddi, cyfaddefodd pennaeth blaenorol Cymwysterau Cymru y gallai'r cwricwlwm newydd olygu diwedd ar TGAU yn y tymor hwy a mwy o ddiwygiadau yn y tymor byr. Mae’n dal i fod angen trafod sut, neu i ba raddau, y bydd y cymwysterau hynny'n newid, ond afraid dweud bod hynny wedi wynebu gwrthwynebiad gan rai yn y proffesiwn addysg. Er enghraifft, mae'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau wedi dweud yn glir iawn, ac rwy’n dyfynnu, mae’n bwysig deall bod y canlyniadau hyn yn dod ar adeg o newid enfawr yn system addysg Cymru, sydd wedi cynnwys ailwampio enfawr ar y manylebau TGAU.
Aethant ymlaen i ddweud mae'n hanfodol cael hyn yn iawn fel ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i weithredu’r diwygiadau hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol sydd yn yr arfaeth ar gyfer cwricwlwm Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Gan symud ymlaen, mae'r Gweinidog wedi ymgynghori ar gynlluniau ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac efallai y gall fanteisio ar y cyfle y prynhawn yma i ddweud ychydig mwy wrthym am gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn.
Ddirprwy Lywydd, wrth wraidd y ddadl hon y mae'r awydd i weld ysgolion Cymru’n ffynnu a'i dysgwyr yn cyrraedd eu potensial llawn. O ran fy etholaeth fy hun, lle mae ysgolion wedi cael cefnogaeth sylweddol, fe welwyd gwelliant ac mae hynny i'w groesawu. Ond fe ellir ac fe ddylid gwneud mwy i sicrhau bod safonau'n gwella mewn ysgolion ledled Cymru fel bod ein dysgwyr yn gorffen eu taith addysg wedi’u harfogi â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt yn y byd modern. Felly, wrth gloi Ddirprwy Lywydd, gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth i rai o'r pryderon a godwyd gan y sector addysg ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.