10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canlyniadau TGAU a Safon Uwch

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 6:20, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Gofynnodd Mark Reckless a allwn briodoli peth o'r llwyddiant hwnnw i rwydwaith Seren. Wrth gwrs, dyma'r flwyddyn gyntaf y bydd y myfyrwyr wedi bod trwy raglen Seren ar ei hyd, a chredaf fod rhywbeth yno’n bendant sydd wedi gyrru'r canlyniadau rhagorol hynny. Ochr yn ochr â'r canlyniadau hynny rydym wedi gweld y nifer uchaf erioed o gynigion gan Brifysgol Caergrawnt i'n myfyrwyr Seren ar gyfer mynediad yn 2019, cyfradd gynnig o oddeutu 30 y cant, sy'n sylweddol uwch na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a phan feddyliwch am ddemograffeg Cymru o'i chymharu â'r ddemograffeg mewn rhannau cyfoethocach o'r Deyrnas Unedig, rwy'n credu y dylem ddweud 'da iawn' wrth y plant hynny ac wrth eu hathrawon.

O ran TGAU, rydym wedi gweld gwelliant yng nghanlyniadau cyffredinol yr haf ers y llynedd. Fodd bynnag, dywedais yn glir iawn fod sawl newid pwysig yn y system dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ei gwneud hi’n anodd cymharu’n ystyrlon mewn modd tebyg, ond nid yw hynny'n golygu ein bod wedi gweld safonau’n gostwng na llai o drylwyredd; i’r gwrthwyneb, mewn gwirionedd. Mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi pob un o'n dysgwyr ac ni fyddwn byth yn gostwng ein disgwyliadau ar gyfer unrhyw un o'n pobl ifanc. Mater o realiti'r newidiadau a wnaed ydyw, ac nid newidiadau i fanyleb cyrsiau unigol yn unig, ond gwelsom newid radical mewn patrymau mynediad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nid wyf am ymddiheuro am ddatblygu rhaglen ddiwygio sy'n benderfynol o gyflawni'r gorau i ddysgwyr yng Nghymru. A dyna un o'r rhesymau pam y mae ein diwygiadau o reidrwydd yn bellgyrhaeddol ac yn drawsnewidiol, oherwydd credaf y byddant yn sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru gyfan yn cael eu cefnogi trwy'r system addysg i gyrraedd eu potensial llawn.

Er enghraifft, mae'r camau a gymerwyd i roi diwedd ar y defnydd amhriodol o gofrestru disgyblion yn gynnar ar gyfer arholiadau yn dechrau ysgogi newidiadau o ran maint a natur cohortau, ac mae ysgolion wedi addasu ar yr un pryd i newidiadau yn yr arholiadau eu hunain a gyflwynwyd yn raddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae Cymraeg ail iaith yn enghraifft dda o hyn, ac roedd hwn yn fater arall a godwyd gan Mark Reckless. Dyma'r flwyddyn gyntaf i ddysgwyr wneud y cwrs TGAU llawn newydd, yn sgil dileu'r opsiwn cwrs byr. Mae traean yn fwy o ymgeiswyr ac mae'r newidiadau a ddyfynnwyd ar gyfer cyfraddau cyrhaeddiad yn gamarweiniol yn y cyd-destun hwnnw, gan na fyddai'r mwyafrif o'r dysgwyr hynny wedi sefyll arholiad TGAU llawn o'r blaen; byddent wedi cael eu cofrestru ar gyfer y cwrs byr. O edrych ar effaith y newidiadau hyn, gwelwn gynnydd yn y nifer wirioneddol o ddysgwyr sy'n cyflawni gradd A* i C mewn Cymraeg ail iaith, i fyny tua 12 y cant. Mae’r TGAU newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar siarad, gwrando a defnyddio'r iaith, sy'n golygu bod mwy o bobl ifanc yn datblygu'r sgiliau iaith sydd eu hangen ar Gymru yn awr ac yn y dyfodol. Gwelodd cyfres yr haf welliannau hefyd yn y graddau A* i C mewn mathemateg, rhifedd, Cymraeg, ffiseg, bioleg, cemeg, gwyddoniaeth ddwbl, dylunio a thechnoleg, daearyddiaeth ac addysg gorfforol.

Nawr, gan symud ymlaen at asesiadau athrawon, mae angen ystyried canlyniadau eleni yng ngoleuni newidiadau polisi diweddar. Rydym wedi newid prif ddiben asesiadau athrawon yn ôl i ddysgwyr unigol ar gyfer defnydd mwy ffurfiannol yn unig, i lywio penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o ddatblygu dysgu pobl ac i beidio â gwneud cymariaethau rhwng ysgolion neu ffurfio rhan o unrhyw system atebolrwydd. Felly, rwy'n credu y dylai canlyniadau eleni fod yn adlewyrchiad cywirach a mwy gwrthrychol o gynnydd dysgwyr, ac ni chredaf fod cymariaethau â blynyddoedd blaenorol yn ystyrlon. Gwyddom fod canlyniadau anfwriadol wedi bod i rai o elfennau ein system atebolrwydd ysgolion, ond nid wyf yn derbyn bod newidiadau diweddar yn gyfystyr â glastwreiddio.

Mae cenhadaeth ein cenedl yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer system atebolrwydd sy'n deg, yn gydlynol, yn gymesur, yn dryloyw ac yn seiliedig ar ein gwerthoedd cyffredin ar gyfer addysg yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n gallu gweld sgoriau capio 9, sgoriau llythrennedd, sgoriau rhifedd, sgoriau gwyddoniaeth, yn ogystal â gwahaniaethu rhwng dysgwyr gwrywaidd a benywaidd a rhwng dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim a dysgwyr nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim. Bydd y trefniadau gwerthuso a gwella newydd yn helpu i sicrhau'r newid diwylliannol sydd ei angen yn y pen draw i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein cwricwlwm newydd. Ac yn ganolog iddo, mae hunanwerthuso cadarn a pharhaus ar gyfer pob haen o'r system addysg, ynghyd â deialog broffesiynol i gefnogi dysgu a gwella ac ymgorffori cydweithredu, gan fod Nick Ramsay yn gywir: y gwaith rhwng ysgolion sy'n gyrru pethau yn eu blaen mewn gwirionedd, gan adeiladu ymddiriedaeth ac ysgogi hunanwella a chodi safonau ar gyfer pob dysgwr. Ac mae ein cynlluniau'n ymwneud â sicrhau bod y ffordd rydym yn asesu perfformiad ysgol yn dangos perfformiad yr ysgol yn ei holl agweddau, ac nid canlyniadau arholiadau'n unig. Bydd atebolrwydd o'r tu allan yn parhau i fod yn nodwedd o'r system. Bydd ysgolion yn parhau i gael eu harolygu, ac yn fwy rheolaidd na'r 13 blynedd a amlygwyd dros y ffin heddiw. A bydd rhieni a gwarcheidwaid yn parhau i gael adroddiadau ar gynnydd eu dysgwyr.

Nawr, gofynnodd Paul Davies pa gamau penodol rydym yn eu cymryd yn sgil canlyniadau'r haf. Mae angen inni weithio gyda'n bwrdd arholi, gyda Cymwysterau Cymru, gyda'n consortia rhanbarthol a'n haddysgwyr Saesneg, gan fod mwy o waith i'w wneud ar Saesneg, ac rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiad i'r Cynulliad cyn hir ar ddull newydd i ysgolion sy'n peri pryder a sut y gallwn gynorthwyo'r ysgolion hynny i sicrhau gwelliant cyflymach a chynnydd cyflym.

O ran y bwlch cyllido, heriwyd y ffigurau a ddyfynnwyd yma o sawl cyfeiriad. Dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn glir iawn ychydig wythnosau'n ôl yn unig fod y bwlch cyllido rhwng ysgolion Cymru ac ysgolion Lloegr yn diflannu bron yn llwyr pan hepgorwch Lundain o'r hafaliad. O ran adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwyf wedi derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad hwnnw, gan gynnwys yr argymhelliad sylfaenol ynghylch ymchwilio i gyllid addysg, a byddaf yn rhoi mwy o fanylion i'r Aelodau am natur y gwaith yr ymrwymais i'w gyflawni wrth ymateb yn llawn i adroddiad y pwyllgor, yn yr wythnosau nesaf rwy'n credu, pan gaiff ei drafod yma yn y Siambr.

Ond os ydych chi'n benderfynol o fychanu Cymru, fel roedd rhai i'w gweld yn ei wneud yn y Siambr hon y prynhawn yma, rydych yn methu cydnabod y newid sy'n sicr yn digwydd yn ein system addysg—trawsnewid gwirioneddol sy'n seiliedig ar gydgynhyrchu ar draws yr holl haenau a chyda rhanddeiliaid allweddol. Mae wedi'i wreiddio mewn arferion da, mae wedi'i wreiddio mewn ymchwil ac mae wedi'i wreiddio mewn tystiolaeth. Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr—wrth gwrs nad wyf—cynnig sy'n camliwio ac yn bychanu cynnydd ein dysgwyr a'n gweithwyr addysgol proffesiynol. Rwy'n gwybod—rwy'n gwybod—nad oes lle i laesu dwylo, a gwn y gallwn wneud yn well. Ond wedi ein sbarduno gan farn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod Cymru'n arwain y ffordd, a chan weithio gyda'r sector, byddwn yn parhau â chenhadaeth ein cenedl i godi safonau a chyflwyno system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac yn ennyn hyder pobl Cymru.