Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 2 Hydref 2019.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn ôl ym mis Awst, cefais y fraint o ddathlu canlyniadau arholiadau gyda'r dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd ar ddiwrnod safon uwch, ac fel y dywedodd Nick Ramsay gynnau, gyda'r disgyblion yn Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII yn y Fenni ar ddiwrnod TGAU—diwrnod pan oedd yr ysgol honno'n dathlu ei set orau erioed o ganlyniadau TGAU. Ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod ar draws y Siambr yn dymuno llongyfarch dysgwyr ar draws ein gwlad am y cyflawniadau aruthrol a manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n hathrawon ac i'w canmol am eu gwaith caled, yn enwedig y rhai sydd wedi gweithio mor ddiflino i addasu i newidiadau wrth gyflwyno cymwysterau TGAU newydd. Rwy'n falch iawn fod Jenny Rathbone wedi sôn am Teilo Sant yn ei hetholaeth ac Ysgol y Preseli yn etholaeth Paul Davies—cefais y fraint o ymweld â'r ddwy ysgol ac mae'n wych eu gweld yn parhau i wneud mor dda.
Ond rhaid i mi gyfaddef, Ddirprwy Lywydd, fy mod wedi meddwl tybed a oedd y Ceidwadwyr yn edrych ar y set gywir o ganlyniadau'r haf wrth ddrafftio'u cynnig, oherwydd credaf eu bod wedi manteisio ar y cyfle i ddibrisio cyflawniadau ein dysgwyr eleni. Gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn ymuno â mi yn lle hynny i groesawu cyflawniad gwell nag erioed ar y graddau uchaf yn y safon uwch, gyda 9 y cant o'r graddau a ddyfarnwyd yn A*, mwy na chwarter yn A*/A, a mwy na thri chwarter yn A* i C. Gobeithio y byddant hefyd yn croesawu'r ffaith bod Cymru bellach yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr a Gogledd Iwerddon o ran cyflawni graddau A*, ac mae'r canlyniadau hynny'n gynnyrch blynyddoedd lawer o waith caled gan ddysgwyr ac athrawon, a dylid eu cydnabod.