12. Dadl Fer: Gofalu am gartrefi gofal: Sut y gallem wneud mwy i ofalu am gartrefi gofal yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:05 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 7:05, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

O ran cefnogi'r gwaith o wella ansawdd gwasanaethau, rydym yn ariannu rhaglen gwella cartrefi gofal Cymru dros gyfnod o dair blynedd. Ei nod yw adeiladu amgylcheddau gofal cartref cefnogol sy'n symud oddi wrth y dull cydymffurfio o'r brig i lawr ac yn dechrau gyda'r hyn sy'n bwysig i bobl sy'n byw yn y cartrefi, pobl sy'n ymweld, neu bobl sy'n gweithio yn y cartref neu'n rheoli gwasanaeth cartref gofal. Fe'm trawyd gan yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders am natur fywiog y cartref gofal, a faint sy'n digwydd mewn cartref gofal mewn gwirionedd. Mae'r rhaglen hon yn ymwneud â phob rhan o'r sefydliad, gan gynnwys staff rheng flaen, preswylwyr a theuluoedd, i ddeall cyfraniad ei gilydd tuag at gyflawni canlyniadau i bobl.

Credaf hefyd fod y pwynt pwysig iawn hwnnw wedi'i wneud gan Janet Finch-Saunders ynghylch y cysylltiad rhwng yr ysbyty a'r cartref, oherwydd credaf mai yn ystod y cyfnodau pontio hynny y mae pethau'n digwydd, fel dannedd gosod yn mynd ar goll, a'r holl bethau hynod o bwysig sydd mor bwysig i fywydau pobl. Mae'r newid hwnnw'n hanfodol, felly rwy'n falch iawn eich bod wedi gwneud y pwyntiau hynny mor gryf. Yn sicr, mae hynny'n rhywbeth y credaf fod yn rhaid inni ei bwysleisio yn y gefnogaeth a roddwn i gartrefi gofal.

Felly, fel y dywedaf, mae rhaglen gwella cartrefi gofal Cymru yn ymgysylltu ar bob lefel. Rydym hefyd yn bwriadu cefnogi darparwyr cartrefi gofal drwy ddatblygu cyfleuster ar-lein fel rhan o wefan Dewis, a fydd yn caniatáu iddynt arddangos swyddi gwag mewn amser real. Gwelwn y manteision gwirioneddol yma o ran yr amser a arbedir ac ymgysylltiad â chomisiynwyr a chyfleoedd i farchnata eu gwasanaethau. Ond mae hyn yn ei gamau cynnar, a byddwn yn gweithio gyda darparwyr ac eraill ar ei ddatblygu.

Rwy'n ymwybodol iawn fod ychwanegu'r posibilrwydd o adael yr UE i mewn i'r gymysgedd yn creu ansicrwydd pellach i ddarparwyr. Roeddwn mewn fforwm heddiw lle roeddem yn trafod effeithiau gadael yr UE ar ddarparwyr cartrefi gofal ac mae cynnal ansawdd a chynaliadwyedd cartrefi gofal a darpariaeth gofal cymdeithasol arall yn brif flaenoriaeth drwy gydol y broses gythryblus hon. Felly, rydym yn cyflawni ystod o fesurau mewn cydweithrediad â threfniadau cynllunio wrth gefn ehangach, i gefnogi darparwyr ac i liniaru effaith gadael yr UE heb gytundeb. Dwy enghraifft sy'n arbennig o berthnasol i gartrefi gofal yw bwyd a chyflenwadau meddygol.

O ran bwyd, rydym wedi sefydlu trefniadau i ganiatáu i ddarparwyr roi gwybod yn gyflym ac yn hwylus am unrhyw darfu ar gyflenwad bwyd lleol i awdurdodau lleol. Yn eu tro, gallant hwy uwchgyfeirio'r mater i fforymau cydnerthedd lleol os oes angen. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd rhan lawn ym mhroses gynllunio Llywodraeth y DU ar gyfer mewnforio a dosbarthu nwyddau hanfodol, gan gynnwys cyflenwadau meddygol a defnyddiau traul clinigol. Rydym wedi caffael capasiti storio ychwanegol, gan gynnwys darparu cyflenwad 12 i 15 wythnos o'r cynhyrchion hyn, a fydd yn helpu i gynyddu cydnerthedd yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan fod y rhain yn faterion sy'n cael eu dwyn i'n sylw gan y darparwyr gofal cymdeithasol, a chredwn ei bod yn bwysig ceisio mynd i'r afael â'r materion hynny gymaint ag y gallwn.

Gan droi yn awr at ein partneriaid a'u cyfraniad, mae ein rheoleiddwyr, Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi gwneud gwaith sylweddol i weithredu'r fframwaith rheoleiddio a sefydlwyd gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Fel rhan o'r broses o drosglwyddo i'r system reoleiddio newydd, mae'r arolygiaeth wedi ailgofrestru 1,550 o wasanaethau ers mis Ebrill diwethaf, ac mae hon yn gryn gamp ac yn ychwanegol at ei chyfrifoldebau a'i gweithgareddau arolygu o ddydd i ddydd. Rwy'n hynod falch o'r adborth cadarnhaol iawn a gafodd yr arolygiaeth ynglŷn â'r broses hon, a lefel y cymorth a roddodd gan ddarparwyr eu hunain.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gyfle cyffrous i ni i gyd. Mae'n cydnabod rôl darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol fel gweithwyr proffesiynol sy'n gyfrifol ac yn atebol am y gwasanaethau gofal a chymorth y maent yn eu darparu. Yn fwriadol, nid yw'n ceisio rheoli gwasanaethau hyd braich, ond mae'n galluogi darparwyr i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i unigolion, eu lles a'u canlyniadau personol. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi gwelliant drwy eu rolau rheoleiddio.

Crybwyllais bwysigrwydd y gweithlu'n gynharach, ac mae hynny wedi'i grybwyll gan Janet Finch-Saunders a chan Angela—pwysigrwydd y gweithlu. Rwy'n credu bod yna gonsensws fod angen i ni gael gwell dealltwriaeth o'r gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys mewn gwasanaethau cartrefi gofal. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn datblygu strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i nodi gofynion o ran capasiti a gallu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a sut y gellir diwallu'r rhain. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gennym y nifer gywir o bobl yn gallu darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hyblyg ac ystwyth sy'n diwallu anghenion pobl Cymru. Gwn fod Angela wedi sôn am bwysigrwydd cael ffordd broffesiynol o gamu i fyny yn y gwasanaeth, ac mae hynny'n un o'r pethau rydym yn eu hystyried, oherwydd mae gwahaniaethu'n digwydd rhwng swyddi a wneir yn y gwasanaeth gofal cymdeithasol a swyddi a wneir yn y gwasanaeth iechyd, a mannau eraill hefyd. Felly, rwy'n credu bod hwn yn un o'r meysydd y byddwn edrych arnynt.  

Crybwyllwyd y gwasanaeth iechyd wrth gwrs. Mae gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd rôl allweddol yma hefyd, o ran eu cyfrifoldebau statudol ac fel comisiynwyr gwasanaethau cartrefi gofal. Gwn fod Janet wedi codi'r mater ar ddiwedd ei chyfraniad, a buaswn yn ddiolchgar pe gallech ysgrifennu ataf ynghylch yr hyn a ddigwyddodd gyda'r unigolyn a sut y digwyddodd y gwahaniaeth hwnnw. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd weithio gyda darparwyr i sicrhau bod y gofal a'r cymorth cywir ar gael i ddiwallu anghenion pobl yn y cartref gofal y maent wedi'i gontractio i ddarparu gofal effeithiol. Rwyf hefyd yn disgwyl iddynt chwarae eu rhan i gefnogi cynaliadwyedd cartrefi gofal drwy dalu ffioedd sy'n ddyledus i'r darparwyr yn gyflym ac yn effeithlon er mwyn helpu i osgoi pwysau diangen ar y llif arian, sy'n gallu digwydd.  

Y llynedd, cyhoeddwyd y pecyn cymorth 'Let's agree to agree' i helpu comisiynwyr a darparwyr gofal preswyl i bobl hŷn ar gyfer cytuno ar ffioedd priodol am leoliadau. Datblygwyd hyn mewn cydweithrediad â darparwyr a chomisiynwyr. Mae'r adborth cychwynnol gan awdurdodau lleol yn awgrymu bod y pecyn cymorth yn cael ei ystyried fel rhan o'u modelau ffioedd ar gyfer cartrefi gofal, gyda rhai'n ei fabwysiadu'n llawn neu'n rhannol. Cynhelir adolygiad manylach o'r pecyn cymorth gan y bwrdd comisiynu cenedlaethol y flwyddyn nesaf, ac rwyf am annog pob awdurdod lleol i ddefnyddio'r adnodd hwn. Yna, yn olaf, mae'r sector ei hun, gan gynnwys y rhai sy'n berchen ar wasanaethau a'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny, yn rhan annatod o ansawdd gwasanaethau cartrefi gofal yn ogystal â'u cynaliadwyedd yn y dyfodol. Rwy'n awyddus iawn i gydnabod yma ar ddiwedd fy nghyfraniad y cyfraniad sylweddol y maent wedi'i wneud i addasu i'r fframwaith rheoleiddio newydd ac i wneud eu cyfraniad eu hunain tuag at leihau pwysau costau a thrwy fuddsoddi yn y gweithlu.  

Rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu dangos bod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn sawl ffordd i gydnabod pwysigrwydd y gwasanaethau gofal cartref a bod gennym gynlluniau i geisio ehangu a chefnogi'r gweithlu ar adeg anodd ac ansicr iawn ar hyn o bryd. Ond rwy'n credu ein bod am orffen ar y nodyn optimistaidd a gafwyd gan Janet ar y cychwyn ynglŷn â'r gwasanaeth gwych a ddarperir mewn cymaint o gartrefi a'r arferion da iawn a geir. Roeddwn yn arbennig o werthfawrogol o'r sylwadau a wnaed gan Jayne Bryant hefyd a'i chyfeiriad at y gwaith gyda phobl â dementia, ac yn arbennig ei chyfeiriad at gôr Forget-me-not, oherwydd cefais brofiad personol o gôr Forget-me-not yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd. Fel y dywedodd Jayne, credaf fod gwrando ar gôr Forget-me-not yn un o'r profiadau mwyaf teimladwy a gewch. Gwn eu bod yn gweithio mewn nifer o gartrefi.  

Rwyf hefyd yn ystyried yr argymhelliad y dylai fod modd cynnal clinigau yng nghartrefi awdurdodau lleol, oherwydd rwy'n credu bod angen rhywfaint o hyblygrwydd. Ac fel y dywedwyd, nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na ddylai hynny ddigwydd. Mewn gwirionedd, mae'n digwydd mewn rhai lleoliadau gwirfoddol yng Nghaerdydd yn awr. Gwn fod yr awdurdod iechyd yn darparu clinigau mewn lleoliadau sector gwirfoddol. Po fwyaf o hynny y gellir ei wneud—oherwydd po agosaf y mae'n eu darparu at gartrefi, ac at gartrefi pobl eu hunain, mae'n eu gwneud yn fwy tebygol o fanteisio. Felly, rwyf am orffen yn awr. Rhaid inni barhau i gydweithio i sicrhau bod y sector hynod bwysig hwn yn ffynnu ac yn mynd o nerth i nerth wrth ddarparu'r gofal a'r cymorth gorau posibl i bobl yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.