– Senedd Cymru am 6:42 pm ar 2 Hydref 2019.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer—[Torri ar draws.] Os ydych chi'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Janet.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pwrpas y ddadl hon yw sbarduno sgwrs ynglŷn â sut y gallwn wneud mwy i ofalu am ein cartrefi gofal yng Nghymru. A hoffwn wahodd Jayne Bryant AC ac Angela Burns AC i siarad am funud neu fwy.
Mae dros 15,000 o bobl 65 oed a hŷn yn byw mewn cartref gofal. Yn ôl adroddiad cyflwr y genedl a lansiwyd ddoe, yr oedran cyfartalog pan fydd person hŷn yn symud i gartref gofal yw ychydig o dan 83 oed, ac mae pobl yn tueddu i fyw yn y cartref, ar gyfartaledd, am oddeutu dwy flynedd a phedwar mis. Fel y gwyddoch, ceir tri chategori bras o gartrefi gofal yng Nghymru: preswyl, nyrsio a henoed eiddil eu meddwl. Nawr, yn anffodus, wrth chwilio am gartref o unrhyw fath, ceir gormod o elfennau negyddol. Nawr, cred y Ceidwadwyr Cymreig fod diogelu ein preswylwyr yn allweddol ac yn hanfodol, ac rwy'n gwybod na fyddai'r un ohonom yn gorffwys hyd nes y gweithredir hyn mewn gwirionedd. Rwyf wedi mynegi pryderon am safonau gofal yng Nghymru, ond mae'n rhaid i ni hefyd—mae'r ddadl heno yn ymwneud â dathlu'r gofal da a'r angen inni gefnogi ein cartrefi gofal.
Beth bynnag, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddiffyg cydymffurfiaeth, hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud. Mae'r angen am hyn yn amlwg wrth ystyried bod gostyngiad o 30 wedi bod yn nifer y cartrefi gofal mewn llai na thair blynedd, ar ôl cyhoeddi 'The Care Home Market in Wales: Mapping the Sector' yn 2015. Fel y gwyddom gan Fforwm Gofal Cymru, mae'n dynodi dirywiad, gan yr amcangyfrifwyd y bydd 16 y cant o'r cartrefi sy'n weddill yn cau ymhen pum mlynedd. Felly, mae angen gosod cefnogaeth i'r sector gofal yn uchel ar yr agenda.
Ar ôl ymweld â nifer o gartrefi gofal yn Aberconwy, a ledled Cymru, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol rai o'r gwasanaethau rhyfeddol a ddarperir. Roedd yn wych cael dawnsio gyda phreswylydd oedrannus i 'Singing in the Rain', a chael llond ymbarél o addurniadau ar y nenfwd yn y brif ystafell fyw. Ac roedd hynny mewn cartref i henoed eiddil eu meddwl. Roeddwn hefyd yn falch o ymuno â dwy ddynes a oedd yn ymlacio ac yn sgwrsio yn yr haul mewn cartref nyrsio ar Ynys Môn. Ac ni allaf fyth anghofio canu deuawd gyda phreswylydd mewn cartref arall—deuawd o'r galon yr oedd y ddynes wedi'i chofio o ddyddiau ei phlentyndod, a minnau'n canu gyda hi.
Nawr, wrth ymweld â'r cartrefi hyn, gwelais angerdd staff ynghylch gofalu am eu cleifion a'u preswylwyr, ac roeddwn yn falch o wrando ar sut y maent hwy—y bobl sy'n gweithio yn y sector—yn meddwl y gallem wneud mwy i ofalu am gartrefi gofal. Daw hyn â mi at y ffordd gyntaf y gallem hyrwyddo cartrefi gofal: cyfathrebu. Mae dementia yn gyflwr sy'n effeithio ar allu ieithyddol, felly gall peidio â darparu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg arwain at rwystredigaeth a cholli urddas a pharch.
Rwyf wedi cyfarfod â staff Cymraeg eu hiaith mewn cartrefi gofal, ond mae Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas Alzheimer Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw gofal ar gael yn Gymraeg bob amser oni bai fod rhywun yn gofyn amdano. Ni all hyn fod yn iawn, felly hoffwn eich gweld chi, fel y Dirprwy Weinidog, yn rhoi mwy o gynlluniau ar waith i gynorthwyo cartrefi i ddatblygu gallu i wneud cynnig rhagweithiol o ofal yn Gymraeg—drwy gyfrwng y Gymraeg.
At hynny, mae gwir angen edrych ar wella cyfathrebu rhwng cartrefi gofal a byrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Er enghraifft, dylem edrych ar ddigideiddio cofnodion cleifion. Mae'n wir fod gennych system wybodaeth gofal cymunedol Cymru, ac rwy'n derbyn y gallai gweithredu'r system TGCh newydd ar draws awdurdodau lleol a byrddau iechyd helpu i sicrhau gwybodaeth hygyrch, ond beth am gartrefi gofal?
Eglurodd un rheolwr wrthyf y byddent yn elwa'n fawr o allu cael gwybodaeth am eu cleientiaid oddi ar system y bwrdd iechyd—yr un cleientiaid ag y maent yn gofalu amdanynt yn ddyddiol—er mwyn diwallu eu holl anghenion, gan gynnwys eu hanghenion iechyd. Nid Llywodraeth Cymru sy'n goruchwylio cynnwys platfformau rhyngrwyd y byrddau iechyd, ond mae ganddi'r gallu i osod lefel gliriach o ddisgwyliadau. Gallai hyn olygu bod cartrefi gofal yn cael gafael ar wybodaeth yn haws mewn gwirionedd, gan arwain at wella'u gofal.
Ffordd arall o gryfhau'r cysylltedd rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yw drwy weithredu ar alwadau gan Age Cymru am ddyletswydd i gydweithredu yn hyn o beth. Rwy'n cytuno â'r sefydliad, ac yn credu y gallai dyletswydd fynd gryn dipyn o'r ffordd tuag at hybu ansawdd gofal i bobl sy'n cael eu trosglwyddo o gartref gofal i leoliad ysbyty ac fel arall. Cefais fy syfrdanu mewn gwirionedd o weld y gall cleifion adael eu cartref gofal am fod rhaid iddynt fynd i'r ysbyty, a bod angen llawer mwy o ofal arnynt wedi iddynt ddychwelyd.
Mae'r angen am ddeialog gryfach yn amlwg wrth ystyried digwyddiadau fel staff cartrefi gofal nad ydynt yn cael gwybod pa drefniadau adsefydlu a roddwyd i'w preswylwyr yn yr ysbyty, cleifion sy'n cael eu rhyddhau i gartrefi gofal heb unrhyw wybodaeth o gwbl, a staff cartrefi gofal na ofynnir iddynt am wybodaeth bwysig, megis sut y mae unigolyn yn nodi eu hangen am doiled ac a ydynt yn hoffi yfed o gwpan penodol, gan gyfrannu at sefyllfa lle mae rhai cleifion yn dychwelyd i gartrefi o'r ysbyty mewn cyflwr llawer gwaeth na phan aethant yno. Clywais—wyddoch chi, peth syml fel dannedd gosod yn mynd ar goll yn yr ysbyty. Felly, mae cleifion yn dychwelyd i gartref gofal heb eu dannedd gosod—rhywbeth mor syml ac angen mor sylfaenol, ond mor bwysig, fel y nododd Angela Burns yma yn gynharach ar ofal iechyd deintyddol.
Mae gan staff cartrefi gofal gyfoeth o wybodaeth a allai drawsnewid gofal rhai cleifion yn yr ysbyty. Fodd bynnag, fel y dywedodd Age Cymru, mae ffiniau proffesiynol presennol yn milwrio yn erbyn ymwneud staff cartrefi gofal, a hyd yn oed yn erbyn rhoi gwybod iddynt ar lefel sylfaenol iawn sut mae eu preswylydd tra bydd y preswylydd yn yr ysbyty. Mae yna doriad—pan aiff preswylydd i'r ysbyty, ychydig iawn o ddeialog sy'n parhau wedyn gyda'r cartref gofal. Cyfrifoldeb y cartref gofal yw cysylltu â'r ysbyty. Ni all hynny fod yn iawn. Mae'n rhaid i hyn newid a rhoddwyd camau ar waith i sicrhau bod GIG Cymru yn cydnabod gwerth y cyfraniad y gall staff cartrefi gofal ei wneud, a chymaint y maent yn malio am eu preswylwyr eu hunain.
Mae wal o'r fath wedi bod yn destun pryder o ran hyfforddi staff hefyd, sy'n dod â mi at ffordd arall y gallem wneud mwy i gefnogi cartrefi gofal. Mae ar Gymru angen tua 20,000 yn fwy o bobl i weithio ym maes gofal erbyn 2030. Nawr, rwy'n sylweddoli eich bod wedi cydnabod hyn, ac nid yw ond yn deg fy mod yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud i ddenu, cadw a recriwtio staff yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Gofalwn Cymru. Fodd bynnag, gellid cyflawni mwy drwy edrych ar yr hyfforddiant a ddarperir i staff nyrsio. Mae sefydliadau wedi sôn wrthyf am yr angen i sicrhau bod hyfforddiant nyrsys yn cynnwys profiad yn y GIG ac yn y sector gofal cymdeithasol. Cafwyd y rhaniad hwn rhwng y ddau ers gormod o amser; mae angen eu dwyn ynghyd.
Er enghraifft, dylem annog lleoliadau nyrsio mewn cartrefi gofal, gan y gallai hynny helpu i fynd i'r afael â diffyg croesbeillio rhwng sgiliau nyrsio a sgiliau gofalu. Mae pobl yn tybio na all nyrs ond hyfforddi mewn ysbyty. Nid yw'n wir. Gallent ddysgu llawer o sgiliau drwy hyfforddi mewn cartrefi gofal mewn gwirionedd. Hefyd, ni allwch wadu nad oes llawer y gellir ei ddysgu mewn cartrefi gofal, gan fod llawer ohonynt yn fwrlwm o weithgaredd. Yn wir, mae ganddynt botensial i fod yn ganolfannau cymunedol pwysicach fyth.
Rwyf eisoes wedi cael cadarnhad ysgrifenedig fod byrddau iechyd yn cael trefnu clinigau galw i mewn mewn lleoliad heblaw lleoliadau'r GIG, a'u bod yn gwybod bod rhai cartrefi'n awyddus i agor y rhain i'r gymuned leol lle y gallant wneud hynny, megis cynnal clinigau therapi mewnwythiennol, clinigau profion gwaed. Mae'r syniad hwn yn sicr yn werth ei ystyried. Gallai cydweithrediad o'r fath sicrhau gwerth am arian, yn enwedig i'r defnyddiwr gwasanaeth lle byddai'n rhaid iddynt deithio gryn dipyn yn bellach fel arall nag i gartref i weld nyrs. Mae gweithwyr proffesiynol cartrefi gofal wedi'u hyfforddi'n dda, a lle mae ewyllys i wneud hynny, dylai fod yn rhan o genhadaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ffordd i gartrefi gynnal y clinigau hyn a gwneud tasgau y mae eu staff yn fwy na chymwys i'w gwneud.
Er enghraifft, mae'n chwerthinllyd fod rhai aelodau o staff cartrefi gofal wedi gorfod aros am oriau i feddyg teulu fesur tymheredd a phwysedd gwaed, ac mae'n dorcalonnus fod rhai cartrefi'n gorfod aros yn hir pan fydd rhywun yn cwympo. Dylem i gyd gefnogi staff i wneud darlleniadau o'r fath, gan edrych ar uwchraddio modelau sydd wedi'u profi megis pecyn cymorth I-Stumble gwasanaeth ambiwlans Cymru ar gyfer cartrefi gofal. Mae synnwyr cyffredin yn dweud y byddai cynyddu'r ymyriadau clinigol sydd ar gael mewn cartrefi yn lleihau'r angen i anfon cleifion i'r ysbyty yn y lle cyntaf, neu'r angen i alw am ambiwlans neu feddyg teulu, felly dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â hyn.
Daw hyn â mi at fy awgrym olaf ynglŷn â sut y gallem wneud mwy dros gartrefi gofal. Gwn am gartref lle mae'r awdurdod lleol yn talu i breswylydd gael aros yno, ac o ganlyniad i ddirywiad yn eu hiechyd, bydd y ffioedd yn cael eu talu yn awr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'n frawychus deall y bydd llai o arian yn cael ei dalu i'r cartref er y bydd yn darparu gofal mwy dwys. Mewn gwirionedd, mae'r bwrdd iechyd yn talu llai nag y mae awdurdodau lleol yn ei dalu yng ngogledd Cymru, gan osod un cartref gofal ar y trywydd i fod £155,000 yn waeth eu byd yn eu cyllideb eleni, oherwydd y gwahaniaeth rhwng ffioedd awdurdodau lleol a ffïoedd gofal iechyd parhaus.
Mae'n amlwg fod yn rhaid i chi geisio sicrhau y telir cost wirioneddol y gofal i gartrefi gofal, ac yn bendant, dylech geisio sicrhau o leiaf fod y ffi gofal iechyd parhaus yn cyfateb i'r ffi a delir gan awdurdodau lleol. Yn ddiamau, dylid ystyried hwn yn ateb tymor byr, oherwydd credaf fod angen adolygiad llawn o'r modd y cyllidir cartrefi gofal, ac mae ei angen yn awr. Serch hynny, byddai camau o'r fath tuag at ariannu cynaliadwy a theg yn hwb i gartrefi'r sector preifat sy'n teimlo fel pe baent yn cael eu cosbi dro ar ôl tro. Ddirprwy Weinidog, mae'n bryd inni ddechrau dangos ein gofal tuag at gartrefi gofal a rhoi camau ar waith, camau fel y rhai a amlinellais heddiw, i ddangos ein bod o ddifrif, a bwriad Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau dyfodol cadarnhaol i gartrefi mwy na 15,000 o bobl yng Nghymru. Diolch.
Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw ac am y cyfle i siarad heno. Yr wythnos diwethaf, cynhaliais ddigwyddiad i lansio adroddiad Live Music Now ar effaith cerddoriaeth fyw ar gartrefi gofal. Mae'r adroddiad a luniwyd gan Brifysgol Caerwynt yn cyflwyno tystiolaeth arloesol ynglŷn â sut y gall cerddoriaeth fod o fudd i bobl sy'n byw ac yn gweithio ym maes gofal. Ni ddylai cerddoriaeth fyw mewn cartrefi gofal gael ei gweld fel adloniant yn unig. Dengys tystiolaeth gynyddol yr effaith ar y preswylwyr mewn cartrefi. Mae cerddoriaeth o fudd i'r cartref gofal cyfan ac yn cyfrannu at ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r adroddiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn argymell y dylai cerddoriaeth fod yn hanfodol i bob cartref gofal. Ar ben hynny, hoffwn ganmol gwaith gwych côr Forget-me-not. Elusen wych yw hon sy'n gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd, gan ddod â hwy at ei gilydd i ganu, heb unrhyw bwysau, dim ond hwyl. Mae llawer o deuluoedd wedi disgrifio'r sesiynau fel 'dos o hapusrwydd', gyda phawb yn cymryd rhan hyd eithaf eu gallu. Maent yn dod â phobl at ei gilydd bob wythnos, ac rwyf wedi gweld drosof fy hun, lawer gwaith, yr effaith y mae eu gwaith wedi'i chael oddi mewn a thu allan i gartrefi gofal, ac un o'r rhain yw Capel Grange ym Mhilgwenlli yn fy etholaeth. Mae'r côr yn ffordd wych o gefnogi pobl gyda dementia neu bobl yr effeithiwyd arnynt gan ddementia, ac mae'n sicr o gynhesu eich calon a gwneud i chi dapio'ch traed.
Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl bwysig hon, oherwydd mae angen inni ddangos ein bod yn gwerthfawrogi'r staff yn ein sector cartrefi gofal. Yn rhy aml, caiff y sector cartrefi gofal ei weld mewn ffordd ddifrïol, heb fod cystal â nyrsys a'r proffesiynau meddygol eraill, ac eto maent yn gwbl hanfodol i barhad a chydlyniant ein cymdeithas, ac i ofalu am gynifer o bobl sy'n agored i niwed. Felly, Weinidog, mae gennyf ychydig o gwestiynau cyflym iawn y gobeithiaf y gallwch eu hateb heno. A fyddech yn ystyried, neu a ydych yn ystyried, ymgyrch genedlaethol i ddenu pobl i yrfa yn y sector cartrefi gofal? A fyddech yn ystyried datblygu datblygiad proffesiynol parhaus, sut y gallem gynnwys a datblygu staff a galluogi staff cartrefi gofal i gamu ymlaen yn eu gyrfa? Ac mae gweithio hyblyg, wrth gwrs, yn eithriadol o bwysig i lawer iawn o staff cartrefi gofal. Beth y gallem ei wneud i hyrwyddo gweithio hyblyg ac i annog perchnogion cartrefi gofal i fod yn llawer mwy hyblyg eu syniadau ynglŷn â sut y gallent ddenu pobl i weithio iddynt?
Ac wrth gwrs, yn olaf, ni fyddwn yn gallu gorffen fy nghyfraniad heb sôn am elfen nyrsio cartrefi gofal. Mae'n hynod o bwysig, ond mae angen i ni wella'r ddarpariaeth nyrsio mewn cartrefi gofal oherwydd bod prinder sylweddol o nyrsys ar gyfer y sector cartrefi gofal. Un o'r ffyrdd fyddai fod angen mynd ati o ddifrif i sicrhau bod telerau ac amodau gofal cymdeithasol yn cyd-fynd â'r 'Agenda ar gyfer Newid', ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddai modd i chi gyffwrdd â hynny efallai. A hoffwn wybod hefyd a ydych chi'n credu y gallai cael mwy o leoliadau clinigol i fyfyrwyr nyrsio yn y sector cartrefi gofal yn ystod eu hyfforddiant gradd fod yn fuddiol, nid yn unig ar gyfer cartrefi gofal, ond ar gyfer yr holl anghenion hyfforddi orthogeriatrig/geriatrig, oherwydd mae arnom angen mwy o nyrsys yn y sector pobl hŷn. Diolch.
A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl hon? Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr heno. Rwy'n credu ei bod yn gyfle gwych i gydnabod pwysigrwydd cartrefi gofal a'r sector gofal cymdeithasol yn gyffredinol, ac rwy'n falch iawn fod Janet wedi gallu tynnu sylw at rywfaint o'r gwaith da iawn sy'n cael ei wneud yn y sector gofal, oherwydd rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i roi cymaint o hwb ag y gallwn i'r sector hwnnw. Felly, rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r ddadl hon heno, oherwydd mae'n gwbl glir fod cartrefi gofal yn gwneud cyfraniad hanfodol i fywydau pobl sydd angen gofal a chymorth yng Nghymru. Mae hefyd yn caniatáu i mi rannu rhai o'r meysydd y mae'r Llywodraeth hon a'n partneriaid yn canolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau bod y sector gofal cymdeithasol yn cael ei gefnogi'n effeithiol ac yn y sefyllfa orau bosibl i ofalu amdano'i hun.
Yn amlwg, nid yw, ac ni all, y sector weithredu a ffynnu ar ei ben ei hun. Rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan yn genedlaethol, yn lleol ac ar lefel darparwyr gwasanaethau yn wir, ac mae gennym rôl glir fel Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector a deall y broblem y mae'n ei hwynebu, a sicrhau ansawdd y gwasanaethau y mae'n eu darparu. Mae gan ein partneriaid, yn enwedig awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, fel comisiynwyr gwasanaethau cartrefi gofal, gyfrifoldebau pwysig ar lefel leol. Mae gan y sector ei hun hefyd ran hanfodol i'w chwarae. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gefnogi cartrefi gofal mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyllid a'r gweithlu, yn ogystal â mesurau i gefnogi ansawdd a chynaliadwyedd gwasanaethau.
Mae'r heriau ariannol sy'n wynebu'r sector yn hysbys ac wedi'u dogfennu'n dda, ac rydym yn llwyr gydnabod hyn, ac yn gweithio i gyflawni model ariannu mwy cynaliadwy ar gyfer y sector dros y blynyddoedd nesaf. Mae ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', yn ein hymrwymo i ddatblygu modelau ariannu arloesol er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i ymateb i'r heriau hyn a'r galwadau cynyddol ar ofal cymdeithasol. Felly, i fwrw ymlaen â hyn, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadeirio grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol i ystyried y potensial ar gyfer cronfa gofal cymdeithasol wedi'i chreu o ardoll bosibl neu amrywiadau treth incwm yng Nghymru. Byddai hyn yn codi arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn y tymor hir. Hyd yma, mae'r grŵp wedi ystyried egwyddor y dulliau posibl o godi a dosbarthu unrhyw arian ychwanegol a godir yn y ffordd hon ac yn fuan, fe fydd yn ystyried egwyddor y meysydd blaenoriaeth ar gyfer unrhyw gyllid a godir.
Fodd bynnag, yn y tymor hwy y mae hynny. Mae unrhyw gyllid a godir yn y modd hwn yn dal i fod beth amser i ffwrdd, ac felly, yn y cyfamser, rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, er gwaethaf y pwysau real a hysbys iawn ar ein cyllidebau yn gyffredinol. Rydym wedi dyrannu £50 miliwn ychwanegol i wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn ariannol hon i helpu i ddiwallu'r galw cynyddol am wasanaethau gofal a chymorth. O'r arian hwn, cafodd £30 miliwn ei roi fel grant i gynorthwyo llywodraeth leol i ddarparu gofal cymdeithasol, yn benodol i fynd i'r afael â phwysau ar y gweithlu ac i gynnal cynaliadwyedd ehangach gwasanaethau.
Nid yw'r sector cartrefi gofal yn ddim heb weithlu medrus ac ymroddgar, a gwn fod yna heriau o ran recriwtio a chadw staff, a nododd Angela Burns nifer o'r problemau hynny yn ei chyfraniad. Rwy'n parhau'n gwbl ymrwymedig i godi statws a phroffil gweithwyr gofal cymdeithasol fel bod gofal cymdeithasol yn dod yn ddewis gyrfa cadarnhaol lle y caiff pobl eu gwerthfawrogi a'u cefnogi mewn ffordd gyfrifol. Rydym wedi cymryd camau i helpu i wneud y sector gofal cymdeithasol yn fwy deniadol i weithio ynddo, gan gyflwyno rheoliadau yn 2018 i wella telerau ac amodau'r gweithlu. Mae'r rheoliadau hyn yn cyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau ac yn sicrhau bod darparwyr yn gwahaniaethu'n amlwg rhwng amser gofalu ac amser teithio.
Bydd ein hymgyrch i broffesiynoli'r gweithlu yn sicrhau bod gennym weithwyr gofal cymdeithasol diogel sydd â'r cymwysterau priodol i ddarparu gofal a chymorth o safon i oedolion a phlant yn ein cymdeithas. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi ymestyn cofrestr y gweithlu ar sail wirfoddol i gynnwys gweithwyr gofal cartref, cyn eu cofrestru'n orfodol o Ebrill 2020 ymlaen. Yn yr un modd, bydd gweithwyr gofal preswyl i oedolion, a drafodir gennym heno, yn gallu cofrestru'n wirfoddol o 2020 ymlaen, cyn eu cofrestru'n orfodol o 2022. Credaf y bydd cofrestru'n gwella statws y gweithwyr gofal. A lle y gwelsom fod y sector yn wynebu anawsterau, rydym wedi cymryd camau uniongyrchol i helpu i'w lliniaru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Dim ond pwynt o eglurhad, oherwydd mae hynny'n wirioneddol gadarnhaol. A yw hynny'n cynnwys yr holl weithwyr gofal, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau cartref yn ogystal â chartrefi gofal? Eisiau eglurhad ar hynny oeddwn i.
Ar hyn o bryd, rydym wedi ymestyn y gofrestr ar sail wirfoddol i gynnwys gweithwyr gofal cartref cyn iddynt orfod cofrestru. Felly, ydy, mae'n mynd i gynnwys y ddau—gweithwyr gofal cartref a gweithwyr gofal mewn cartrefi. Felly, fel y dywedaf, dylai hyn fod yn gadarnhaol iawn o ran rhoi mwy o statws iddynt a chydnabod eu bod yn broffesiwn. Oherwydd pa swydd bwysicach y gallai unrhyw un fod yn ei gwneud mewn gwirionedd?
Lle y gwelwyd bod y sector yn wynebu anawsterau, rydym wedi cymryd camau uniongyrchol i helpu i'w lliniaru. Un enghraifft yw'r cyflog byw cenedlaethol. Rydym wedi buddsoddi £19 miliwn o gyllid rheolaidd i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu helpu darparwyr gwasanaethau i reoli effaith gweithredu'r cyflog byw cenedlaethol. Mae prosiect peilot gofal cymdeithasol Busnes Cymru yn enghraifft arall o'n hymrwymiad i gefnogi cynaliadwyedd y sector cartrefi gofal. Mae'n darparu pecyn cymorth busnes rhad ac am ddim a luniwyd yn arbennig, sy'n cynnwys cyngor ar amrywiaeth o faterion megis tendro, adnoddau dynol a chyllid. Mae'n ateb ymarferol sy'n cydnabod bod cartrefi gofal yn fusnesau ac yn cynnig yr help y gallai fod ei angen arnynt i fod yn fwy cydnerth ac i dyfu'n gynaliadwy. Hoffwn ddiolch i'r darparwyr sydd wedi cymryd rhan ac wedi rhoi adborth gwerthfawr iawn. Ac er ei fod, yn wreiddiol, yn canolbwyntio ar ardal tasglu'r Cymoedd, mae ar gael ar draws rhanbarth busnes de-ddwyrain Cymru, gyda'r bwriad o werthuso sut i ehangu'r cynnig i ranbarthau eraill Cymru. Buaswn yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle hwn, gan gydnabod mai busnesau yw cartrefi gofal.
O ran cefnogi'r gwaith o wella ansawdd gwasanaethau, rydym yn ariannu rhaglen gwella cartrefi gofal Cymru dros gyfnod o dair blynedd. Ei nod yw adeiladu amgylcheddau gofal cartref cefnogol sy'n symud oddi wrth y dull cydymffurfio o'r brig i lawr ac yn dechrau gyda'r hyn sy'n bwysig i bobl sy'n byw yn y cartrefi, pobl sy'n ymweld, neu bobl sy'n gweithio yn y cartref neu'n rheoli gwasanaeth cartref gofal. Fe'm trawyd gan yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders am natur fywiog y cartref gofal, a faint sy'n digwydd mewn cartref gofal mewn gwirionedd. Mae'r rhaglen hon yn ymwneud â phob rhan o'r sefydliad, gan gynnwys staff rheng flaen, preswylwyr a theuluoedd, i ddeall cyfraniad ei gilydd tuag at gyflawni canlyniadau i bobl.
Credaf hefyd fod y pwynt pwysig iawn hwnnw wedi'i wneud gan Janet Finch-Saunders ynghylch y cysylltiad rhwng yr ysbyty a'r cartref, oherwydd credaf mai yn ystod y cyfnodau pontio hynny y mae pethau'n digwydd, fel dannedd gosod yn mynd ar goll, a'r holl bethau hynod o bwysig sydd mor bwysig i fywydau pobl. Mae'r newid hwnnw'n hanfodol, felly rwy'n falch iawn eich bod wedi gwneud y pwyntiau hynny mor gryf. Yn sicr, mae hynny'n rhywbeth y credaf fod yn rhaid inni ei bwysleisio yn y gefnogaeth a roddwn i gartrefi gofal.
Felly, fel y dywedaf, mae rhaglen gwella cartrefi gofal Cymru yn ymgysylltu ar bob lefel. Rydym hefyd yn bwriadu cefnogi darparwyr cartrefi gofal drwy ddatblygu cyfleuster ar-lein fel rhan o wefan Dewis, a fydd yn caniatáu iddynt arddangos swyddi gwag mewn amser real. Gwelwn y manteision gwirioneddol yma o ran yr amser a arbedir ac ymgysylltiad â chomisiynwyr a chyfleoedd i farchnata eu gwasanaethau. Ond mae hyn yn ei gamau cynnar, a byddwn yn gweithio gyda darparwyr ac eraill ar ei ddatblygu.
Rwy'n ymwybodol iawn fod ychwanegu'r posibilrwydd o adael yr UE i mewn i'r gymysgedd yn creu ansicrwydd pellach i ddarparwyr. Roeddwn mewn fforwm heddiw lle roeddem yn trafod effeithiau gadael yr UE ar ddarparwyr cartrefi gofal ac mae cynnal ansawdd a chynaliadwyedd cartrefi gofal a darpariaeth gofal cymdeithasol arall yn brif flaenoriaeth drwy gydol y broses gythryblus hon. Felly, rydym yn cyflawni ystod o fesurau mewn cydweithrediad â threfniadau cynllunio wrth gefn ehangach, i gefnogi darparwyr ac i liniaru effaith gadael yr UE heb gytundeb. Dwy enghraifft sy'n arbennig o berthnasol i gartrefi gofal yw bwyd a chyflenwadau meddygol.
O ran bwyd, rydym wedi sefydlu trefniadau i ganiatáu i ddarparwyr roi gwybod yn gyflym ac yn hwylus am unrhyw darfu ar gyflenwad bwyd lleol i awdurdodau lleol. Yn eu tro, gallant hwy uwchgyfeirio'r mater i fforymau cydnerthedd lleol os oes angen. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd rhan lawn ym mhroses gynllunio Llywodraeth y DU ar gyfer mewnforio a dosbarthu nwyddau hanfodol, gan gynnwys cyflenwadau meddygol a defnyddiau traul clinigol. Rydym wedi caffael capasiti storio ychwanegol, gan gynnwys darparu cyflenwad 12 i 15 wythnos o'r cynhyrchion hyn, a fydd yn helpu i gynyddu cydnerthedd yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan fod y rhain yn faterion sy'n cael eu dwyn i'n sylw gan y darparwyr gofal cymdeithasol, a chredwn ei bod yn bwysig ceisio mynd i'r afael â'r materion hynny gymaint ag y gallwn.
Gan droi yn awr at ein partneriaid a'u cyfraniad, mae ein rheoleiddwyr, Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi gwneud gwaith sylweddol i weithredu'r fframwaith rheoleiddio a sefydlwyd gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Fel rhan o'r broses o drosglwyddo i'r system reoleiddio newydd, mae'r arolygiaeth wedi ailgofrestru 1,550 o wasanaethau ers mis Ebrill diwethaf, ac mae hon yn gryn gamp ac yn ychwanegol at ei chyfrifoldebau a'i gweithgareddau arolygu o ddydd i ddydd. Rwy'n hynod falch o'r adborth cadarnhaol iawn a gafodd yr arolygiaeth ynglŷn â'r broses hon, a lefel y cymorth a roddodd gan ddarparwyr eu hunain.
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gyfle cyffrous i ni i gyd. Mae'n cydnabod rôl darparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol fel gweithwyr proffesiynol sy'n gyfrifol ac yn atebol am y gwasanaethau gofal a chymorth y maent yn eu darparu. Yn fwriadol, nid yw'n ceisio rheoli gwasanaethau hyd braich, ond mae'n galluogi darparwyr i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i unigolion, eu lles a'u canlyniadau personol. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi gwelliant drwy eu rolau rheoleiddio.
Crybwyllais bwysigrwydd y gweithlu'n gynharach, ac mae hynny wedi'i grybwyll gan Janet Finch-Saunders a chan Angela—pwysigrwydd y gweithlu. Rwy'n credu bod yna gonsensws fod angen i ni gael gwell dealltwriaeth o'r gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys mewn gwasanaethau cartrefi gofal. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn datblygu strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i nodi gofynion o ran capasiti a gallu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a sut y gellir diwallu'r rhain. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gennym y nifer gywir o bobl yn gallu darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hyblyg ac ystwyth sy'n diwallu anghenion pobl Cymru. Gwn fod Angela wedi sôn am bwysigrwydd cael ffordd broffesiynol o gamu i fyny yn y gwasanaeth, ac mae hynny'n un o'r pethau rydym yn eu hystyried, oherwydd mae gwahaniaethu'n digwydd rhwng swyddi a wneir yn y gwasanaeth gofal cymdeithasol a swyddi a wneir yn y gwasanaeth iechyd, a mannau eraill hefyd. Felly, rwy'n credu bod hwn yn un o'r meysydd y byddwn edrych arnynt.
Crybwyllwyd y gwasanaeth iechyd wrth gwrs. Mae gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd rôl allweddol yma hefyd, o ran eu cyfrifoldebau statudol ac fel comisiynwyr gwasanaethau cartrefi gofal. Gwn fod Janet wedi codi'r mater ar ddiwedd ei chyfraniad, a buaswn yn ddiolchgar pe gallech ysgrifennu ataf ynghylch yr hyn a ddigwyddodd gyda'r unigolyn a sut y digwyddodd y gwahaniaeth hwnnw. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd weithio gyda darparwyr i sicrhau bod y gofal a'r cymorth cywir ar gael i ddiwallu anghenion pobl yn y cartref gofal y maent wedi'i gontractio i ddarparu gofal effeithiol. Rwyf hefyd yn disgwyl iddynt chwarae eu rhan i gefnogi cynaliadwyedd cartrefi gofal drwy dalu ffioedd sy'n ddyledus i'r darparwyr yn gyflym ac yn effeithlon er mwyn helpu i osgoi pwysau diangen ar y llif arian, sy'n gallu digwydd.
Y llynedd, cyhoeddwyd y pecyn cymorth 'Let's agree to agree' i helpu comisiynwyr a darparwyr gofal preswyl i bobl hŷn ar gyfer cytuno ar ffioedd priodol am leoliadau. Datblygwyd hyn mewn cydweithrediad â darparwyr a chomisiynwyr. Mae'r adborth cychwynnol gan awdurdodau lleol yn awgrymu bod y pecyn cymorth yn cael ei ystyried fel rhan o'u modelau ffioedd ar gyfer cartrefi gofal, gyda rhai'n ei fabwysiadu'n llawn neu'n rhannol. Cynhelir adolygiad manylach o'r pecyn cymorth gan y bwrdd comisiynu cenedlaethol y flwyddyn nesaf, ac rwyf am annog pob awdurdod lleol i ddefnyddio'r adnodd hwn. Yna, yn olaf, mae'r sector ei hun, gan gynnwys y rhai sy'n berchen ar wasanaethau a'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny, yn rhan annatod o ansawdd gwasanaethau cartrefi gofal yn ogystal â'u cynaliadwyedd yn y dyfodol. Rwy'n awyddus iawn i gydnabod yma ar ddiwedd fy nghyfraniad y cyfraniad sylweddol y maent wedi'i wneud i addasu i'r fframwaith rheoleiddio newydd ac i wneud eu cyfraniad eu hunain tuag at leihau pwysau costau a thrwy fuddsoddi yn y gweithlu.
Rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu dangos bod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn sawl ffordd i gydnabod pwysigrwydd y gwasanaethau gofal cartref a bod gennym gynlluniau i geisio ehangu a chefnogi'r gweithlu ar adeg anodd ac ansicr iawn ar hyn o bryd. Ond rwy'n credu ein bod am orffen ar y nodyn optimistaidd a gafwyd gan Janet ar y cychwyn ynglŷn â'r gwasanaeth gwych a ddarperir mewn cymaint o gartrefi a'r arferion da iawn a geir. Roeddwn yn arbennig o werthfawrogol o'r sylwadau a wnaed gan Jayne Bryant hefyd a'i chyfeiriad at y gwaith gyda phobl â dementia, ac yn arbennig ei chyfeiriad at gôr Forget-me-not, oherwydd cefais brofiad personol o gôr Forget-me-not yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd. Fel y dywedodd Jayne, credaf fod gwrando ar gôr Forget-me-not yn un o'r profiadau mwyaf teimladwy a gewch. Gwn eu bod yn gweithio mewn nifer o gartrefi.
Rwyf hefyd yn ystyried yr argymhelliad y dylai fod modd cynnal clinigau yng nghartrefi awdurdodau lleol, oherwydd rwy'n credu bod angen rhywfaint o hyblygrwydd. Ac fel y dywedwyd, nid oes unrhyw reswm o gwbl pam na ddylai hynny ddigwydd. Mewn gwirionedd, mae'n digwydd mewn rhai lleoliadau gwirfoddol yng Nghaerdydd yn awr. Gwn fod yr awdurdod iechyd yn darparu clinigau mewn lleoliadau sector gwirfoddol. Po fwyaf o hynny y gellir ei wneud—oherwydd po agosaf y mae'n eu darparu at gartrefi, ac at gartrefi pobl eu hunain, mae'n eu gwneud yn fwy tebygol o fanteisio. Felly, rwyf am orffen yn awr. Rhaid inni barhau i gydweithio i sicrhau bod y sector hynod bwysig hwn yn ffynnu ac yn mynd o nerth i nerth wrth ddarparu'r gofal a'r cymorth gorau posibl i bobl yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.