Part of the debate – Senedd Cymru am 6:58 pm ar 2 Hydref 2019.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr heno. Rwy'n credu ei bod yn gyfle gwych i gydnabod pwysigrwydd cartrefi gofal a'r sector gofal cymdeithasol yn gyffredinol, ac rwy'n falch iawn fod Janet wedi gallu tynnu sylw at rywfaint o'r gwaith da iawn sy'n cael ei wneud yn y sector gofal, oherwydd rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom i roi cymaint o hwb ag y gallwn i'r sector hwnnw. Felly, rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r ddadl hon heno, oherwydd mae'n gwbl glir fod cartrefi gofal yn gwneud cyfraniad hanfodol i fywydau pobl sydd angen gofal a chymorth yng Nghymru. Mae hefyd yn caniatáu i mi rannu rhai o'r meysydd y mae'r Llywodraeth hon a'n partneriaid yn canolbwyntio arnynt er mwyn sicrhau bod y sector gofal cymdeithasol yn cael ei gefnogi'n effeithiol ac yn y sefyllfa orau bosibl i ofalu amdano'i hun.
Yn amlwg, nid yw, ac ni all, y sector weithredu a ffynnu ar ei ben ei hun. Rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan yn genedlaethol, yn lleol ac ar lefel darparwyr gwasanaethau yn wir, ac mae gennym rôl glir fel Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector a deall y broblem y mae'n ei hwynebu, a sicrhau ansawdd y gwasanaethau y mae'n eu darparu. Mae gan ein partneriaid, yn enwedig awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, fel comisiynwyr gwasanaethau cartrefi gofal, gyfrifoldebau pwysig ar lefel leol. Mae gan y sector ei hun hefyd ran hanfodol i'w chwarae. Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gefnogi cartrefi gofal mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyllid a'r gweithlu, yn ogystal â mesurau i gefnogi ansawdd a chynaliadwyedd gwasanaethau.
Mae'r heriau ariannol sy'n wynebu'r sector yn hysbys ac wedi'u dogfennu'n dda, ac rydym yn llwyr gydnabod hyn, ac yn gweithio i gyflawni model ariannu mwy cynaliadwy ar gyfer y sector dros y blynyddoedd nesaf. Mae ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', yn ein hymrwymo i ddatblygu modelau ariannu arloesol er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i ymateb i'r heriau hyn a'r galwadau cynyddol ar ofal cymdeithasol. Felly, i fwrw ymlaen â hyn, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadeirio grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol i ystyried y potensial ar gyfer cronfa gofal cymdeithasol wedi'i chreu o ardoll bosibl neu amrywiadau treth incwm yng Nghymru. Byddai hyn yn codi arian ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn y tymor hir. Hyd yma, mae'r grŵp wedi ystyried egwyddor y dulliau posibl o godi a dosbarthu unrhyw arian ychwanegol a godir yn y ffordd hon ac yn fuan, fe fydd yn ystyried egwyddor y meysydd blaenoriaeth ar gyfer unrhyw gyllid a godir.
Fodd bynnag, yn y tymor hwy y mae hynny. Mae unrhyw gyllid a godir yn y modd hwn yn dal i fod beth amser i ffwrdd, ac felly, yn y cyfamser, rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, er gwaethaf y pwysau real a hysbys iawn ar ein cyllidebau yn gyffredinol. Rydym wedi dyrannu £50 miliwn ychwanegol i wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn ariannol hon i helpu i ddiwallu'r galw cynyddol am wasanaethau gofal a chymorth. O'r arian hwn, cafodd £30 miliwn ei roi fel grant i gynorthwyo llywodraeth leol i ddarparu gofal cymdeithasol, yn benodol i fynd i'r afael â phwysau ar y gweithlu ac i gynnal cynaliadwyedd ehangach gwasanaethau.
Nid yw'r sector cartrefi gofal yn ddim heb weithlu medrus ac ymroddgar, a gwn fod yna heriau o ran recriwtio a chadw staff, a nododd Angela Burns nifer o'r problemau hynny yn ei chyfraniad. Rwy'n parhau'n gwbl ymrwymedig i godi statws a phroffil gweithwyr gofal cymdeithasol fel bod gofal cymdeithasol yn dod yn ddewis gyrfa cadarnhaol lle y caiff pobl eu gwerthfawrogi a'u cefnogi mewn ffordd gyfrifol. Rydym wedi cymryd camau i helpu i wneud y sector gofal cymdeithasol yn fwy deniadol i weithio ynddo, gan gyflwyno rheoliadau yn 2018 i wella telerau ac amodau'r gweithlu. Mae'r rheoliadau hyn yn cyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau ac yn sicrhau bod darparwyr yn gwahaniaethu'n amlwg rhwng amser gofalu ac amser teithio.
Bydd ein hymgyrch i broffesiynoli'r gweithlu yn sicrhau bod gennym weithwyr gofal cymdeithasol diogel sydd â'r cymwysterau priodol i ddarparu gofal a chymorth o safon i oedolion a phlant yn ein cymdeithas. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi ymestyn cofrestr y gweithlu ar sail wirfoddol i gynnwys gweithwyr gofal cartref, cyn eu cofrestru'n orfodol o Ebrill 2020 ymlaen. Yn yr un modd, bydd gweithwyr gofal preswyl i oedolion, a drafodir gennym heno, yn gallu cofrestru'n wirfoddol o 2020 ymlaen, cyn eu cofrestru'n orfodol o 2022. Credaf y bydd cofrestru'n gwella statws y gweithwyr gofal. A lle y gwelsom fod y sector yn wynebu anawsterau, rydym wedi cymryd camau uniongyrchol i helpu i'w lliniaru—