Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 2 Hydref 2019.
Wel, yn gyntaf, o ran y pwyntiau a gododd ynglŷn â'r ddogfen, hoffwn pe bai wedi codi'r pwyntiau hynny cyn i'r ddogfen gael ei chyhoeddi; byddem wedi bod yn fwy na pharod i ymgysylltu'n fanwl mewn perthynas â'r pwyntiau hynny er mwyn ceisio cytuno ar safbwynt gyda Phlaid Cymru. Ond ar y pwynt ehangach y mae'n ei wneud ynglŷn â threfniadau seneddol, nid wyf am ateb cwestiynau yma ynglŷn â safbwynt Llafur Cymru yn Senedd y DU. Mae'r rheini'n gwestiynau ar gyfer Senedd y DU. Rwy'n fwy na pharod i ateb cwestiynau mewn perthynas â pholisi Llywodraeth Cymru yma yng Nghymru.