Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 2 Hydref 2019.
Diolch. Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi, fel finnau, wedi gweld y llythyr a anfonwyd gan nifer o sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys llawer iawn o Gymru, at Brif Weinidog y DU, yn rhybuddio am y pryderon dybryd ynghylch Brexit heb gytundeb. Mae'r llythyr yn dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn niweidiol i gymdeithas sifil a'r cymunedau y gweithiwn gyda hwy. Mae'r ansicrwydd, y sioc economaidd a ragwelir, y perygl o ansicrwydd cyfreithiol, yn ogystal â'r atchweliad mewn hawliau a safonau, yn creu risg ddifrifol i'r gwerthoedd y mae cymdeithas sifil yn eu harddel. A ydych yn cydnabod y disgrifiad yn y llythyr hwnnw? A ydych yn cydnabod bod Brexit heb gytundeb yn creu risg arbennig i'n cymunedau mwyaf difreintiedig? A beth arall y gallwch ei wneud fel Llywodraeth Cymru i sicrhau, pe bai'r Llywodraeth Dorïaidd yn bwrw ymlaen â'r cam byrbwyll hwn, ein bod mor barod ag y gallwn fod?