2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 2 Hydref 2019.
4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit heb gytundeb ar sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru? OAQ54420
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r trydydd sector. Comisiynwyd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru gennym i gynnal ymchwil i effaith Brexit ar y sector, ac mae hyn wedi arwain at adroddiad 'Grymuso Cymunedau yng Nghyd-destun Brexit', a gyhoeddwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar 20 Medi.
Diolch. Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi, fel finnau, wedi gweld y llythyr a anfonwyd gan nifer o sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys llawer iawn o Gymru, at Brif Weinidog y DU, yn rhybuddio am y pryderon dybryd ynghylch Brexit heb gytundeb. Mae'r llythyr yn dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn niweidiol i gymdeithas sifil a'r cymunedau y gweithiwn gyda hwy. Mae'r ansicrwydd, y sioc economaidd a ragwelir, y perygl o ansicrwydd cyfreithiol, yn ogystal â'r atchweliad mewn hawliau a safonau, yn creu risg ddifrifol i'r gwerthoedd y mae cymdeithas sifil yn eu harddel. A ydych yn cydnabod y disgrifiad yn y llythyr hwnnw? A ydych yn cydnabod bod Brexit heb gytundeb yn creu risg arbennig i'n cymunedau mwyaf difreintiedig? A beth arall y gallwch ei wneud fel Llywodraeth Cymru i sicrhau, pe bai'r Llywodraeth Dorïaidd yn bwrw ymlaen â'r cam byrbwyll hwn, ein bod mor barod ag y gallwn fod?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol pwysig. Pan fydd sefydliadau fel Tenovus, Plant yng Nghymru, y Migrants' Rights Network, Cyngres Undebau Llafur Iwerddon—pan fydd cyrff o'r fath yn mynegi pryderon, a dyna a wnânt yn y llythyr hwnnw, credaf ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i wrando ar hynny. Roeddwn mewn digwyddiad a drefnwyd gan Charles Whitmore, a oedd â rhan yn llunio'r llythyr rwy'n credu, yn Belfast ychydig fisoedd yn ôl. Ni chredaf fod effaith Brexit ar gymdeithas ddinesig, a rôl y trydydd sector, wedi cael digon o sylw ar yr agenda ar draws y DU. Rydym wedi gwneud yr hyn a allwn yma i gefnogi sefydliadau'r trydydd sector, yn rhannol drwy gronfa bontio'r UE. Ond credaf mai'r rheswm pam fod y llythyr mor bwerus yw fod y rhain yn sefydliadau sy'n gweithio ar y rheng flaen ym mywydau pobl, ac sy'n aml yn gweithio gyda phobl agored i niwed—ac rydym yn pryderu'n ddirfawr am effaith gronnol nifer o ganlyniadau niweidiol a fyddai'n deillio iddynt yng nghyd-destun Brexit. Un o'r pethau rydym yn ceisio'u gwneud mewn perthynas â sicrhau cydnerthedd y trydydd sector pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yw eu cynnwys yn uniongyrchol iawn yn y gwaith o gynllunio'r hyn a ddaw yn lle'r cronfeydd strwythurol yma. Mae grŵp llywio ar waith, sy'n cael ei gynnull gan Huw Irranca-Davies, ac mae ganddynt rôl ganolog yn y grŵp hwnnw. Mae angen i'r egwyddor o bartneriaeth rhwng y trydydd sector a sectorau eraill a fu'n sail i'r gwaith a wnaethom fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd oroesi wrth i ni adael.