Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 2 Hydref 2019.
Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Onid yw'n cydnabod peryglon posibl defnyddio Cymru fel gwystl gwleidyddol yn y gemau y mae'n eu chwarae gyda Phlaid Cymru? Mae llawer iawn o amheuaeth ynglŷn â'r ffordd y mae Plaid Lafur Cymru yn cwtsho lan at Blaid Cymru cyn etholiad 2021, etholiad y credaf eu bod yn rhagweld y byddant yn ei cholli, ac felly maent bellach yn chwilio am gefnogaeth gan Blaid Cymru. Dywedodd yn ddiweddar mai
'cymdeithas wirfoddol o genhedloedd yw’r DU' ac os yw Brexit yn mynd rhagddo, y
'byddai’n rhaid i unrhyw lywodraeth synhwyrol ailasesu safle Cymru yn y DU newydd', gan gyfeirio, yn amlwg, at annibyniaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn ddiweddar nad yw cefnogaeth Cymru i'r undeb yn ddiamod, ac yng nghynhadledd Llafur Cymru eleni, cynhaliwyd cyfarfod ymylol o'r enw 'Llafur dros annibyniaeth' a fynychwyd gan y cyn Brif Weinidog a fu'n siarad yno. A dywedodd Vaughan Roderick o’r BBC yn ddiweddar na fyddai cyfarfod ymylol o'r fath erioed wedi cael ei ganiatáu ychydig flynyddoedd yn ôl, ac na fyddai Llafur Cymru wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod YesCymru ychydig flynyddoedd yn ôl. A wnaiff ymrwymo Llafur yn ddiamwys i barhau i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig a rhoi'r gorau i'r fflyrtian hwn â Phlaid Cymru, sy'n rhoi hygrededd diangen i'r posibilrwydd o annibyniaeth?