Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 2 Hydref 2019.
Wel, nid wyf yn siŵr ble mae hyn yn ffitio i'r trafodaethau gyda'r gwrthbleidiau. Mae'r rhain yn ddadleuon y byddai pob plaid aeddfed yn disgwyl eu cael mewn cyd-destun datganoledig. Rwyf wedi dweud yn gwbl glir: rwy'n credu, mae Llywodraeth Cymru yn credu, mai'r dyfodol gorau i Gymru yw fel rhan o DU ddiwygiedig a ffyniannus. Mae'r pwysau yn sgil Brexit wedi datgelu ffawtiau yng nghyfansoddiad y DU y ceisiais eu nodi yn fy ateb i gwestiwn Hefin David yn gynharach. Buaswn yn dweud wrtho mai'r bygythiad mwyaf i'r undeb yw'r math o Brexit heb gytundeb y mae ef ei hun o'i blaid. Mae ef ac eraill yn ceisio dinistrio'r cyfansoddiad, ac mae'r rhai ohonom sydd ag ymrwymiad mwy o lawer i ddyfodol Cymru yn ceisio gwneud popeth a allwn i gryfhau'r cyfansoddiad er mwyn ymdopi â rhai o'r canlyniadau hynny.