Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 2 Hydref 2019.
Diolch, Lywydd. Weinidog, pam fod eich Papur Gwyn sydd newydd gael ei gyhoeddi ar Brexit, ‘Dyfodol mwy disglair i Gymru’, yn cyfeirio at gardiau adnabod cenedlaethol? Mae'r ddogfen yn nodi, a dyfynnaf:
'Mae rhai wedi dadlau y gallai cerdyn adnabod cenedlaethol fod yn bris gwerth ei dalu i fynd i’r afael â phryderon am fudo ‘heb reolaeth’ o’r AEE.'
Ai dyma farn Llywodraeth Cymru—eich bod am wario biliynau o bunnoedd ar ddogfennaeth y bydd yn rhaid i bobl dalu amdani yn ôl pob tebyg, ac a fyddai’n cyfyngu ar eu hawliau sifil er mwyn mynd i’r afael â’r hyn y cyfaddefwch eu bod yn bryderon di-sail? Os nad dyma farn Llywodraeth Cymru, a gobeithiaf nad dyna yw eich barn, pam cyfeirio at gardiau adnabod yn y ddogfen hon o gwbl?