Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:29, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Rwyf i fel arfer—. Rydym fel arfer yn cael ein beirniadu am ddarparu cymaint o gyfle yn y Siambr i ddisgrifio ein polisi Brexit, ond rwy'n fwy na pharod i wneud hynny. Ein safbwynt yma yw ein bod yn awyddus i aros—y dylai Cymru barhau i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, a chredwn y dylid rhoi'r mater yn ôl i'r bobl mewn refferendwm fel y gall y bobl roi eu barn, ac yn y refferendwm hwnnw, bydd Llywodraeth Cymru yn argymell y dylent bleidleisio dros barhau i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd.