Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 2 Hydref 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb? Mewn ymateb gan y Gweinidog economi a thrafnidiaeth ddoe, ymddengys mai cymharol ychydig o fusnesau sydd wedi ceisio cyngor busnes gan borth Brexit swyddogol Llywodraeth Cymru. Ym mha ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ymgysylltu â busnesau bach a chanolig yn arbennig, yn enwedig busnesau nad ydynt efallai'n aelodau o gyrff eraill hefyd, i'w helpu i ddeall yr heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit? Tybed faint o bobl sy'n ymwybodol—neu yn hytrach faint o fusnesau bach a chanolig sy'n ymwybodol—fod porth Brexit yn bodoli mewn gwirionedd.