Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 2 Hydref 2019.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu, yn amlwg, i gyfleu'r cyngor a'r canllawiau sydd ar gael. Fel y cydnabu cwestiwn yr Aelod, rwy'n credu, ceir llawer o fusnesau y gallai fod yn anos eu cyrraedd gan nad ydynt yn aelodau gweithredol llawn, os mynnwch, o gymdeithasau masnach ac ati. Credaf ein bod wedi manteisio ar bob cyfle, pan fyddwn yn cyfarfod â'r rhanddeiliaid y mae gennym berthynas â hwy ac sydd eu hunain yn rhan o rwydweithiau busnes ehangach—i achub ar y cyfle i sicrhau eu bod yn tynnu sylw at argaeledd cyngor yn eu rhwydweithiau. Yn amlwg, rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â'r cyrff cynrychiadol, ond yn yr un modd, rydym wedi cyfarfod â chynghorwyr busnes proffesiynol fel cyfreithwyr a chyfrifwyr, y gallai busnesau llai droi atynt yn gyflymach, efallai, am gyngor. Felly, rydym wedi ceisio rhaeadru gwybodaeth drwy'r rhwydweithiau hynny hefyd, ac yn ychwanegol at hynny, edrych ar y rhwydweithiau sydd gennym drwy gyrff hyd braich, fel Banc Datblygu Cymru, Gyrfa Cymru ac ati, i sicrhau eu bod yn cyfleu gwybodaeth i'w rhwydwaith o fusnesau. Ond buaswn yn dweud y byddai unrhyw Aelodau sy'n barod ac yn awyddus i ledaenu'r ffynonellau cyngor hynny, buaswn yn eich annog i wneud hynny yn eich rhwydweithiau eich hun ac yn eich etholaethau eich hun hefyd. Diolch i'r Aelod am y cwestiwn.