Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 2 Hydref 2019.
Byddwch chi'n ymwybodol, rwy'n siŵr, o'r rhybuddion—ac mi glywon ni rhai gan y sector amaeth dros yr haf—am y posibilrwydd o aflonyddwch sifil yn sgil set benodol o amgylchiadau a fyddai'n codi yn dilyn gadael heb gytundeb. Gaf i ofyn pa baratoadau a pha drafodaethau ŷch chi wedi eu cael gyda'r awdurdodau perthnasol yng ngoleuni'r fath bosibilrwydd, achos po agosaf ŷn ni'n dod at Brexit heb gytundeb, yna, byddwn i'n tybio, po agosaf ŷn ni'n dod at y posibilrwydd o hynna'n cael ei wireddu?