Amddiffyn Buddiannau Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:48, 2 Hydref 2019

Wel, mae'r cwestiwn yn gwestiwn pwysig iawn. Wrth gwrs, mae angen sicrhau bod trafodaethau yn eu lle i ddelio gyda'r math yma o bethau, ble bynnag ac ym mha bynnag gyd-destun wnawn nhw godi. Rwy'n cydnabod y cyfeiriad y mae'r Aelod yn ei wneud.

O ran enghreifftiau penodol, sbesiffig does gyda ni ddim gwybodaeth am hynny ar hyn o bryd, ond mae'r broses civil contingencies o gydweithio ar draws y Deyrnas Gyfunol yn ei le, ac mae hwnnw'n un o'r enghreifftiau lle mae'r rhyngweithio ar ei gryfaf gyda'r awdurdodau ar draws y Deyrnas Unedig. Ac fe wnaeth e efallai weld yn ddiweddar ein bod ni wedi cyfeirio at y rheini yn ein papur ar baratoadau cyffredinol, wnaethon ni ei gyhoeddi. Ond rwy'n sicrhau'r Aelod bod hyn wastad yn un o'n blaenoriaethau, i sicrhau bod trefniadau ar y cyd gyda'r local resilience forums a gyda'r gwasanaethau eraill i sicrhau ein bod ni'n cadw llygad ar hyn ac yn barod i ymateb pan fydd y galw yn codi.