Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 2 Hydref 2019.
Er bod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) wedi cyfarfod ar 12 Medi a chyfarfod â James Duddridge AS ar 23 Medi, nid ydym wedi derbyn unrhyw fanylion ynglŷn â'r cynigion, gan gynnwys y papurau trafod answyddogol a drafodwyd gyda'r UE. Rwy’n parhau i alw am i'r rhain gael eu rhannu â Gweinidogion Cymru, ond rwy’n bwriadu cael sgwrs yn ddiweddarach heddiw gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, gobeithio, ynglŷn â'r pwnc hwn.