2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 2 Hydref 2019.
11. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch y cynigion sy'n dod i'r amlwg ar gyfer dewis amgen i'r trefniadau wrth gefn, 'backstop', ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE? OAQ54440
Er bod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) wedi cyfarfod ar 12 Medi a chyfarfod â James Duddridge AS ar 23 Medi, nid ydym wedi derbyn unrhyw fanylion ynglŷn â'r cynigion, gan gynnwys y papurau trafod answyddogol a drafodwyd gyda'r UE. Rwy’n parhau i alw am i'r rhain gael eu rhannu â Gweinidogion Cymru, ond rwy’n bwriadu cael sgwrs yn ddiweddarach heddiw gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd, gobeithio, ynglŷn â'r pwnc hwn.
Diolch i'r Gweinidog am ei ymateb. Yn wir, bu James Duddridge gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yr wythnos diwethaf, ac roedd yn gwrtais iawn a cheisiodd roi cymaint o wybodaeth ag y gallai, ond roedd hi'n amlwg o'i ymatebion fod lefel yr ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y materion hollbwysig hyn—. Yn syml iawn, nid oedd yn fater yr ystyriai ei fod yn ddigon pwysig i godi'r ffôn, dod i gyfarfod neu drafod hyn gyda Llywodraeth Cymru, ac eto, ar yr adeg honno, un o'r opsiynau a oedd yn cael eu crybwyll, y bu sôn amdanynt, oedd ailgyflwyno rhyw fath o rwystr tollau, rhyw fath o linell drwy ganol môr y Gogledd a fyddai’n effeithio nid yn unig ar Lerpwl, ond ar leoedd fel Aberdaugleddau, ac ati. Clywn yn awr mai'r hyn sy'n cael ei drafod yw'r syniad o orsafoedd tollau posibl nad ydynt ar y ffin ei hun ond o fewn ychydig gilometrau i'r ffin yng Ngogledd Iwerddon, sy'n mynd i wraidd cytundeb Belfast a'r broses heddwch, rhaid i mi ddweud. Felly, a yw'n peri pryder iddo ef a Llywodraeth Cymru nad yw Llywodraeth y DU yn ymroi i drafod y materion hyn yn fanwl gyda'i phartneriaid datganoledig yn y Deyrnas Unedig, oherwydd nid ar Lywodraeth y DU yn unig y mae'r goblygiadau'n effeithio; bydd y goblygiadau i'r difidend heddwch yr ydym yn ei fwynhau ar hyn o bryd, neu i ffiniau masnach a thariffau a lle yr effeithiant yn benodol ar borthladdoedd, yn effeithio ar yr holl wledydd a rhanbarthau datganoledig, nid Lloegr yn unig?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig tu hwnt yn ei gwestiwn atodol. Mae Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yn bodoli i roi cyfle i Lywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig ddod ynghyd i geisio cytuno ar rai agweddau ar drosolwg ar y trafodaethau hyn. Ymddengys i ni ei bod yn hanfodol fod hynny fan lleiaf yn cynnwys proses o rannu gwybodaeth ddigonol er mwyn i'r broses honno fod yn ystyrlon yn hytrach nag yn ymddangosiadol. A chredaf fod y methiant i gytuno i rannu'r papurau trafod answyddogol hynny yn siomedig tu hwnt yng nghyd-destun y cylch gorchwyl hwnnw. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod fod hwnnw'n bwynt a wneuthum yn yr union dermau hynny yn uniongyrchol i James Duddridge yn y cyfarfod a gefais gydag ef, ac rwyf wedi gwneud y pwynt hwnnw wedi hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol ei hun hefyd.
Mewn perthynas â'r dyfalu a welsom hyd yma ynglŷn â'r cynnig posibl o ran Gogledd Iwerddon, mae safbwynt y Llywodraeth yn glir iawn: os ydym yn mynd i adael, mae'n well inni adael gyda chytundeb. Felly, rydym yn dymuno pob llwyddiant i Lywodraeth y DU wrth geisio negodi cytundeb gan fod hynny'n well na sefyllfa heb gytundeb, ond yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw ei bod yn teimlo'n hwyr iawn i fod yn gwneud cynnig cychwynnol o'r math hwn. Buaswn hefyd yn dweud nad yw gwneud hynny'n debygol o fod yn gynhyrchiol yng nghyd-destun gosod wltimatwm ar fater mor bwysig. Ac felly, byddem wedi gwneud y sylwadau hynny pe baem wedi cael cyfle i gymryd rhan, fel y mae strwythurau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn awgrymu y dylem fod wedi'i gael.