Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 2 Hydref 2019.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Roeddwn gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y bore yma yng Nghyngor Partneriaeth Cymru, lle y cynrychiolwyd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sawl cyngor unigol. Cyfeiria at yr adroddiad ym mis Chwefror gan yr archwilydd cyffredinol, a oedd yn trafod cyfnod o ymchwil, a oedd, o reidrwydd, yn rhagflaenu'r adroddiad hwnnw.
Credaf ei bod yn deg dweud bod ansawdd y gwaith craffu ymhlith cynghorau lleol at ei gilydd mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â Brexit wedi gwella’n sylweddol dros y cyfnod hwnnw, ac efallai y bydd wedi gweld yr adroddiad dilynol a gyhoeddwyd gan yr archwilydd cyffredinol ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, a oedd yn canmol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru ac eraill am barhau i gynyddu'r gwaith paratoi. A chredaf iddo gyfeirio'n benodol at faterion yn ymwneud â chraffu ar Brexit yn ymddangos yn amlach yn y cyfamser ar agendâu cabinetau a phwyllgorau craffu eraill mewn cynghorau lleol.
Efallai y bydd hefyd yn cofio bod Grant Thornton wedi comisiynu adolygiad diagnostig ym mis Mawrth mewn perthynas â pharodrwydd a bod cais wedi'i wneud am ddiweddariad i'r adolygiad hwnnw. Ac mae peth o'r gwaith a ariannwyd gennym mewn perthynas â llywodraeth leol wedi canolbwyntio'n benodol ar graffu am y rheswm a awgrymwyd yn ei gwestiwn, sef ei bod yn agwedd bwysig ar atebolrwydd democrataidd mewn perthynas â'r mater hanfodol hwn.