Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 2 Hydref 2019.
Diolch, Weinidog. Mae llawer o bethau yn y ddogfen rydym yn cytuno â hwy, ond buaswn yn annog y Gweinidog i weld yr iaith honno yng nghyd-destun polisi amgylchedd gelyniaethus y Swyddfa Gartref. Mae cyflwyno, neu—. Nid siarad am gardiau adnabod cenedlaethol yw'r unig agwedd ar y ddogfen hon a fyddai hefyd yn peri pryder i ddinasyddion yr UE yng Nghymru nad ydynt yn dod o'r DU sydd eisoes yn teimlo dan fygythiad. Mae'r ddogfen yn argymell olrhain mudwyr gan ddefnyddio yswiriant gwladol fel y gellir monitro eu gweithgarwch economaidd—gyda'r bwriad, rwy'n tybio, o'i gwneud yn haws casglu tystiolaeth a allai arwain at allgludo. Ddoe, gwadodd y Trefnydd fod y ddogfen yn argymell allgludo gorfodol. Buaswn yn gofyn i chi sut y mae hyn yn cyd-fynd â'r ffaith bod brawddegau sy'n cyfeirio at alltudio mudwyr yn gyfreithlon a thwristiaeth budd-daliadau wedi'u cynnwys. O gofio bod eich Llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun i wneud Cymru'n genedl noddfa, rhywbeth a groesewir gennym, a'ch bod wedi beirniadu Llywodraeth y DU yn y gorffennol am eu polisi amgylchedd gelyniaethus gwarthus, a ydych bellach yn credu mai camgymeriad oedd cynnwys iaith yn y ddogfen hon sydd â'r potensial i achosi trallod pellach i fudwyr o'r UE sy'n byw yng Nghymru?