Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 2 Hydref 2019.
Weinidog, fel byddwch chi'n ymwybodol mae yna ddau borthladd yn fy etholaeth i—porthladd Abergwaun a phorthladd Aberdaugleddau—y ddau ohonynt yn strategol bwysig i'r economi leol ac, yn wir, i'r economi genedlaethol. Dangosodd adroddiad Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad i mewn i effeithiau Brexit ar borthladdoedd Cymru fod Cymru ddim wedi cymryd mantais ar y cyllid oedd ar gael yn y gorffennol, a oedd yn gysylltiedig â'r rhwydwaith trafnidiaeth draws-Ewropeaidd. Yn wir, dywedodd Ian Davies o Stena wrth y pwyllgor mai dim ond mân gyllid a gafwyd, ond dim byd o unrhyw arwyddocad gwirioneddol dros y 15 mlynedd diwethaf. O ystyried bod cysylltedd â phorthladdoedd Cymru yn hanfodol i'w llwyddiant, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gwrdd ag argymhelliad 12 y pwyllgor, a wnaeth yn glir y dylai Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiadau clir ar ddatblygu seilwaith yn y dyfodol, gan gynnwys priffyrdd?