Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 2 Hydref 2019.
Rŷm ni, wrth gwrs, yn cydweithio gyda'r porthladdoedd yn sir Benfro yng nghyd-destun penodol Brexit i sicrhau ein bod ni'n cadw trosolwg o'r impact ar y porthladdoedd o adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni wedi bod yn cydweithio, fel y gwnes i sôn yn y cwestiwn, gyda'r fforwm cydnerthedd lleol sydd wedi bod yn trafod cynlluniau i sicrhau llefydd i oedi petasai angen trefniadau gwahanol yn y dyfodol ar gyfer y porthladdoedd hynny. Ond o safbwynt cwestiwn penodol yr Aelod ynglŷn â'r argymhelliad penodol hwnnw, fe wnaf i sicrhau fy mod yn ysgrifennu ato fe gydag ateb.FootnoteLink