7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:00, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwyf am dreulio'r rhan fwyaf o fy amser yn sôn am dwnnel Aber-nant sy'n cysylltu Cwm-bach â Merthyr, neu dwnnel Merthyr, fel y'i gelwir yn lleol. Roedd yr hen dwnnel rheilffordd hwn, a gynlluniwyd gan Brunel, yn rhan o Reilffordd Cwm Nedd ac mae'n un edefyn, un gangen, o'r rhwydwaith cyfoethog o seilwaith diwydiannol hanesyddol rydym yn ei fwynhau yng Nghymru. Yn wir, am 110 o flynyddoedd, prif swyddogaeth y strwythur rhyfeddol hwn oedd allforio glo o ardal Aberdâr i fodloni'r galw ymhellach i ffwrdd. Mae hyn yn ein hatgoffa o un o agweddau negyddol y dreftadaeth honno, ac o'r chwyldroadau diwydiannol eu hunain: y dyddodion mwynol gwerthfawr, brwydr a llafur y gweithwyr, yr amgylchedd naturiol, i gyd yn cael eu hecsbloetio er mwyn cyfoethogi'r lleiafrif.

Fodd bynnag, fel y mae ail bwynt y cynnig yn ei nodi, gallai ailagor y twneli hyn ddarparu cyfleoedd ar gyfer manteision gwirioneddol a pharhaol i'r lliaws, yn gyntaf, o ran trafnidiaeth integredig a chyfleoedd teithio llesol. Gwnaeth yr elusen cerdded a beicio, Sustrans, waith a edrychai ar yr 21 o dwneli rheilffordd nas defnyddir yn ne-ddwyrain Cymru. Canfuwyd mai twnnel Aber-nant a sgoriodd uchaf o dan offeryn asesu llwybrau a gwerthuso trafnidiaeth Sustrans.

Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, dyma'u dull o werthuso potensial cynlluniau cerdded a beicio. Ac fel y nododd Sustrans, gallai ddarparu llwybr teithio llesol uniongyrchol a di-draffig o Aberdâr i Ferthyr, rhywbeth nad oes gennym ar hyn o bryd. Yn wir, gwn am lawer o etholwyr sy'n beicio ar hyd ochr ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd gan nad oes dewis arall mewn gwirionedd, yn rhannol ar lwybr beicio ac yn rhannol ar lain o borfa arw wrth ymyl y ffordd er mwyn cymudo i'r gwaith. Felly, mae potensial yno.

Fel y dywed adroddiad Sustrans, hwn sydd â'r potensial uchaf o'r holl lwybrau a ddadansoddwyd i annog newid moddol drwy annog cymudo. Dim ond heddiw y nododd fy nghyd-Aelod, yr AC dros Ogwr, Huw Irranca-Davies, ein bod, mewn gwirionedd, ers dyfodiad y Ddeddf teithio llesol yng Nghymru, wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n cerdded ac yn beicio. Rwy'n ystyried y twneli hyn fel catalyddion a allai newid hynny'n llwyr a dod â'r Ddeddf teithio llesol yn fyw.

Gallai hybu iechyd a llesiant, fel y mae cyd-Aelodau eraill wedi'i nodi yn y ddadl hon, yn enwedig ymhlith plant a phobl hŷn hefyd. Mae'r twnnel ei hun yn cysylltu â chyfres o lwybrau cerdded ar ochr Cwm-bach sydd eisoes yn cael defnydd da iawn o ran beicio, cerdded a cherdded cŵn, a hefyd, ar ochr Merthyr, mae'r llwybr yn cysylltu'n agos iawn â BikePark Wales. Felly, mae cyfleoedd i dwristiaid yn y fan honno hefyd, a'r manteision ymarferol a fyddai'n dod yn sgil cysylltu ag ardaloedd difreintiedig iawn a dwysedd poblogaeth uchel.

Awgrymodd adroddiad Sustrans hefyd fod y twnnel mewn cyflwr hyfyw iawn, gan olygu y byddai'n opsiwn rhesymol o ran dadansoddiad cost a budd hefyd. Mae hynny'n rhywbeth a welais drosof fy hun pan gefais fynd ar daith i weld y twnnel gyda fy nghyd-Aelod, yr AC dros Ferthyr Tudful a Rhymni, Dawn Bowden. Mae'r twnnel, sydd â giât ar y naill ben a'r llall, fel rydych wedi'i weld mewn rhai o'r lluniau a ddangoswyd yn gynharach o bosibl, wedi'i gynnal yn dda iawn, gyda buddsoddiad o dros £100,000 ar y tu mewn i sicrhau ei fod mewn cyflwr diogel a hyfyw.

Yn hynny o beth, mae'n rhoi cyfle i mi dalu teyrnged i waith Hammond ECS Ltd, cwmni cynnal a chadw strwythurol arbenigol sydd wedi'i leoli ym mhentref Cwm-bach yn fy etholaeth. Mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae, y busnes teuluol hwn, yn sicrhau bod twnnel Aber-nant, a gweddill y rhwydwaith hefyd—sydd, fel y gwyddom, yn eiddo i Highways England ar hyn o bryd—wedi'i gadw mewn cyflwr addas, gan mai hwy a gafodd eu contractio i wneud hynny.  

Mae hyn, i mi, yn elfen bwysig arall o'r ddadl o blaid adfer y twneli, oherwydd nid yn unig y byddai agor y twneli hyn yn cynnig cyfleoedd trafnidiaeth, ond maent hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer adfywio a datblygu economaidd, fel y mae'r cynnig yn nodi, a chyfleoedd busnes i gwmnïau fel Hammond ECS, cwmnïau sy'n cyflogi pobl leol mewn swyddi medrus. Yn wir, mae Sustrans yn nodi ffigur o 0.74 o swyddi ar gyfer pob cilometr o lwybr teithio llesol a grëir. Pan edrychwn ar dwneli eraill a addaswyd, megis Two Tunnels Greenway yng Ngwlad yr Haf, mae pobl wedi heidio o bob cwr i ddathlu eu hagoriad.