– Senedd Cymru am 3:38 pm ar 2 Hydref 2019.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl gan Aelod unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(v) ar seilwaith diwydiannol hanesyddol. Dwi'n galw ar David Rees i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM7143 David Rees, Vikki Howells, Leanne Wood
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o seilwaith diwydiannol hanesyddol ledled Cymru.
2. Yn nodi'r potensial o ran yr economi, adfywio a thrafnidiaeth integredig o ail-agor hen linellau rheilffordd a thwneli segur ledled Cymru.
3. Yn cydnabod yr heriau ymarferol ac ariannol o ddod â seilwaith o'r fath yn ôl i ddefnydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i anelu at gael perchenogaeth ar seilwaith o'r fath a fyddai'n helpu i chwilio am gyfleoedd ariannu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i chwarae eu rhan wrth archwilio'r cyfleoedd ymarferol ar gyfer ailagor seilwaith o'r fath ledled Cymru.
Diolch, Lywydd. Ac rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i ac yn enwau Leanne Wood a Vikki Howells. Cyn i mi ddechrau, rwy'n ymddiheuro am fy llais—yn anffodus, fel y gallech fod wedi'i ddyfalu, nid wyf wedi bod yn dda yn ddiweddar, ond rwyf am fwrw ymlaen.
Nawr, mae Cymru'n genedl a chanddi hanes gwych. Ac mae gennym lawer o adeiladau o'r oesoedd canol sy'n adlewyrchu'r hanes hwnnw—boed yn gestyll niferus sydd i'w gweld o hyd, neu'r nifer o safleoedd crefyddol ledled ein gwlad. Ond symudwn ymlaen ychydig gannoedd o flynyddoedd ac mae gennym dreftadaeth ddiwydiannol enfawr a rhyfeddol hefyd, yn enwedig o adeg pan oedd Cymru'n gyrru allforion pwysig fel glo, copr, haearn a dur. Ond nid yr adeiladau a gynhyrchodd yr allforion hynny yn unig—y pyllau glo a'r gwaith haearn, ac ati—sy'n ein hatgoffa o'r gorffennol diwydiannol hwnnw, ond hefyd y seilwaith a roddwyd yn ei le i ganiatáu i'r cynhyrchion hynny gael eu cludo. Nawr, mae rhywfaint o'r seilwaith hwnnw i'w weld o hyd. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, gallwn weld bwâu enfawr traphont y rheilffordd a'r draphont ddŵr, ym Mhontrhyd-y-fen, neu saith bwa'r bont yn y Cymer. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau, pan fyddant yn siarad y prynhawn yma, yn tynnu sylw at strwythurau ac adeiladau o'r fath yn eu hetholaethau eu hunain. Ac rydym i gyd yn adnabod rhai ohonynt, boed yn draphont Pontcysyllte, Big Pit, neu'r gwaith haearn ym Merthyr. Ond yn ogystal â'r agweddau gweladwy ar ein treftadaeth ddiwydiannol yr adferwyd llawer ohonynt a'u hailsefydlu ar gyfer twristiaeth neu gerdded a seiclo, mae llawer o agweddau ar ein treftadaeth ddiwydiannol sy'n anweledig—pyllau glo sydd wedi'u cau, llwybrau hen reilffyrdd wedi'u tynnu, camlesi sydd wedi tyfu'n wyllt, a rhwydwaith enfawr o dwneli, yn ogystal ag enghreifftiau eraill o seilwaith a fu ar un adeg yn cario cyfoeth Cymru i'n porthladdoedd i'w ddosbarthu ledled y byd.
Mae dirywiad ein gorffennol diwydiannol wedi effeithio ar y rhain ledled Cymru, ac yn enwedig yng Nghymoedd de Cymru. At hynny, mae'r camau a gymerwyd yn dilyn adroddiad Beeching yn y 1960au, gan gynnwys lleihau rhwydwaith y llwybrau ac ailstrwythuro'r rheilffyrdd ledled y DU—ac nid oedd hynny'n boblogaidd, cofiwch, oherwydd arweiniodd llawer o brotestiadau at achub rhai o'r gorsafoedd a'r rheilffyrdd hynny mewn gwirionedd, ond caewyd y mwyafrif yn ôl y bwriad, ac mae enw Beeching yn parhau i fod yn gysylltiedig â chau rheilffyrdd ar raddfa fawr a cholli llawer o wasanaethau lleol yn y cyfnod a ddilynodd. Nawr, mae rhai o'r llwybrau hyn wedi ailagor ers hynny. Mae rhai rhannau byr wedi'u cadw fel rheilffyrdd treftadaeth—rheilffordd Gwili, rheilffordd Mynydd Brycheiniog, i enwi ond ychydig ohonynt yng Nghymru—rheilffordd Colwyn, Llangollen. Mae eraill wedi'u hymgorffori mewn rhwydweithiau beicio a cherdded, ac mae'r gweddill naill ai wedi'u troi nôl yn ffermdir naturiol neu'n dal i fod yn ddiffaith.
Nawr, un o'r rheilffyrdd yr effeithiwyd arni gan doriadau Beeching oedd rheilffordd bae Abertawe i'r Rhondda. Pan oedd yn weithredol, roedd y llwybr hwn yn mynd drwy fy etholaeth, o Lansawel, ac mae'n bosib nad yw pobl yn sylweddoli ei fod yn arfer bod yn borthladd enfawr ar un adeg, yn mynd drwy Bort Talbot ac Aberafan i fyny cwm Afan, lle roedd yn rhannu'n nifer o lwybrau eraill. Nawr, roedd y llwybrau hyn angen twneli niferus yn aml, i'w galluogi i deithio i fyny'r cwm a rhwng cymoedd. Mae'r rhan fwyaf bellach yn segur ac wedi'u cau, gan gynnwys twnnel y Gelli, twnnel y Gilfach, twnnel y Cymer i Gaerau, ac un o'r twneli hiraf yn y DU, twnnel y Rhondda, sy'n rhedeg rhwng Blaengwynfi a Blaen-cwm, ac ar y sgriniau fe welwch luniau o rai o nodweddion y twnnel penodol hwnnw. Nawr, caniataodd y rheilffordd honno inni ymuno â'r rheilffyrdd yng nghwm Rhondda. Ac felly mae angen i ni edrych ar seilwaith diwydiannol ledled Cymru fel cyfle i fod yn uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Ni ddylem golli golwg ar yr hyn y mae'r seilweithiau hyn yn ei gynnig i ni.
Nawr, bydd gweddill fy nghyfraniad y prynhawn yma yn canolbwyntio ar y trysorau cudd hyn, ac yn arbennig, twnnel y Rhondda, sy'n gallu cynnig cyfleoedd i gymunedau lleol gael budd o'u hadfywio. Ac mae twnnel y Rhondda yn 3,443 llath o hyd, neu ychydig o dan 2 filltir, 1,000 o droedfeddi o dan y ddaear ar ei ddyfnaf, gyda siafft awyru 58 troedfedd. Ac roedd yn waith enfawr, a chefais fy ngollwng i lawr i'r twnnel drwy'r siafft awyru mewn gwirionedd, a gallwch weld y beirianneg Fictoraidd wych a'i hadeiladodd. Fe'i hadeiladwyd rhwng 1885 a 1890, a'i hagor yn swyddogol ym 1890, ac roedd yn elfen hanfodol o'r rheilffordd honno, gan gysylltu pyllau glo'r Rhondda â'r porthladdoedd a bae Abertawe. Daeth hefyd yn llwybr i deithwyr yn ddiweddarach. Felly, cawsom gyfle, wrth i amser fynd yn ei flaen, nid yn unig i gael rheilffordd ddiwydiannol, ond rheilffordd i deithwyr hefyd, i ganiatáu'r cysylltiad hwnnw rhwng y ddwy gymuned. Mewn gwirionedd, roedd y rheilffordd yn llinell ddeuol—os ydych yn gwybod llawer am reilffyrdd—roedd y twnnel ei hun yn llinell sengl ond roedd yn ddeuol yn y ddau ben.
Nawr, yn anffodus, ym 1968, gwnaed penderfyniad i gau'r twnnel dros dro, gan fod angen gwaith i'w atgyweirio. Ond ym mis Rhagfyr 1970, penderfynodd yr Adran Drafnidiaeth gau'r twnnel hwnnw'n barhaol, gan ddweud bod y costau atgyweirio yn waharddol—roedd yn rhyfedd sut roedd yn cyd-daro, mewn gwirionedd, â'r cynlluniau i gau gorsafoedd Blaengwynfi a Blaenrhondda fel rhan o doriadau Beeching. Ni allwn ond tybio mai cyd-ddigwyddiad yn unig ydoedd. Felly, digwyddodd hynny, ac ym 1980, o ganlyniad, caewyd y ddau ben a'u blocio i atal pobl rhag mynd i mewn heb ganiatâd. Oherwydd gwyddom fod yn rhaid iddynt gael eu diogelu, gan fod llawer o blant yn tueddu i gerdded i mewn i lefydd fel twneli fel profiad cyffrous ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn eu hamddifyn a'u diogelu.
Nawr, mae bron i 130 o flynyddoedd wedi bod ers agor y twnnel hwnnw. Dyma'r twnnel segur hiraf yng Nghymru, ac mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda—gwn fod rhai o'r aelodau yn yr oriel y prynhawn yma—wedi sefydlu eu hunain ac mae ganddynt weledigaeth—gweledigaeth, Ddirprwy Weinidog, rwy'n ei rhannu gyda hwy; gweledigaeth a fydd yn sicrhau bod twnnel y Rhondda'n cael ei gadw ar gyfer dyfodol ein plant, gan ailgysylltu cwm Afan a'r Rhondda Fawr ar gyfer cerddwyr a beicwyr, nid yn unig ar gyfer pobl yn y ddau gwm, ond ar gyfer pobl eraill o fannau eraill a thu hwnt.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
A gaf fi ymuno ag ef i ganmol gwaith yr holl bobl sydd wedi rhoi o'u hamser a'u hymdrech i ailagor twnnel y Rhondda? Gwyddom am y cynnydd sydd wedi'i wneud, ond faint yn fwy sydd i'w wneud eto. Ond hoffwn groesawu'r cynlluniau, yn sgil hynny—ac rwy'n siŵr y byddai pobl twnnel y Rhondda eu hunain yn eu croesawu hefyd—yn y dyfodol, i ailagor yr hyn a adwaenir mewn cylchoedd peirianneg fel twnnel Maesteg—twnnel y Cymer i Gaerau. A'r peth diddorol am y twnnel hwnnw yw ei fod wedi'i wneud mewn dwy ffordd wahanol. Roedd pen Caerau yn hollol wahanol i ben y Cymer. Dynameit oedd pen y Cymer, a arweiniodd at farwolaeth 11 o ddynion, ond cafodd pen Caerau ei wneud gan ddefnyddio'r math o dechnoleg a ddefnyddiwyd yn nhwnnel y Sianel ac mewn mannau eraill, gan beiriant a dyllodd y twll. Felly, mae rhesymau hanesyddol da dros agor y twneli hyn hefyd, yn ogystal â'r hyn y gallai ei wneud ar gyfer beicio a hamdden.
A gaf fi ddiolch i'm cyd-Aelod, yr Aelod dros Ogwr, am dynnu sylw at y twneli amrywiol sy'n bodoli? Mae'r twnnel o Caerau i'r Cymer, yn amlwg, yn un o'r rhai y soniais amdanynt yn gynharach. Mae'n un o'r twneli yn y Cymoedd sydd wedi'u hystyried yn ofalus iawn. Fe dynnoch chi sylw at y pwynt, mewn gwirionedd, ei fod yn ymwneud â mwy na'r hyn y gallwn ei wneud pan fyddwn yn adnewyddu'r twneli hynny, mae hefyd yn ein hatgoffa am hanes y twneli hynny a'r technegau a'r dechnoleg a ddefnyddiwyd i'w datblygu.
Nawr, mae'r gallu i gynnig profiad a fydd yn caniatáu i bobl ddefnyddio'r seilwaith beicio a cherdded sy'n bodoli eisoes—a siaradodd yr Aelod am feicio yn ei ddatganiad 90 eiliad heddiw mewn gwirionedd—dylem fachu ar y weledigaeth a'r cyfle hwnnw. Mewn perthynas â chwm Afan, byddai'n cynnwys annog beicwyr i deithio ymhellach i lawr y cwm—i lawr at y traeth gwych 3 milltir o hyd sydd gennym, a pharc Margam, ac os ydynt yn anturus iawn, gallent feicio ar hyd ardal bae Abertawe, yr holl ffordd i'r Mwmbwls. Ond mae'n cynnig cyfle y mae'n rhaid i ni fanteisio o ddifrif arno. Mae'r cyfleoedd yn ddiddiwedd, mae'r posibiliadau'n niferus, a gall y prosiect hwn roi bywyd newydd i gwm lle mae pobl yn aml yn teimlo eu bod wedi'u datgysylltu a'u hanghofio.
Rwyf fi a llawer o bobl eraill yn rhagweld y bydd y twnnel yn ganolbwynt i ddigwyddiadau beicio a rhedeg, a chafwyd enghreifftiau o'r rhain: mae twneli Caerfaddon yn un enghraifft, lle'r ydym wedi'u gweld yn cael eu defnyddio fel canolbwynt ar gyfer rasys 5K, 10K, hanner marathon a marathon llawn. Mae'n fwy na chyfle i gerdded neu feicio drwyddynt. Gellid eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau eraill, sy'n denu mwy i'r gymuned. Ras 10K Richard Burton, y byddaf yn ei hyrwyddo—ar 3 Tachwedd, gyda llaw, os ydych am roi cynnig arni—daw dros 1,000 o redwyr i fy mhentref ar y diwrnod hwnnw, ac maent yn aros. Ac mae hwn yn gyfle, unwaith eto, i edrych ar yr hyn y gall ei ddenu i gwm Rhondda a chwm Afan. Mae pobl yn aros ar gyfer yr ymweliadau hynny. Felly, mae'n ymwneud â mwy nag adfer twnnel; mae'n ymwneud â chynnig gweledigaeth newydd a phrofiad newydd i bobl leol ac ymwelwyr. Rwyf wedi gweld y ffigurau ar gyfer Caerfaddon, ac maent yn anhygoel. Ond i'r gymuned ehangach, gallai'r manteision sy'n deillio o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn fywiogi'r economi leol—gweithgaredd yr effeithiwyd yn ddifrifol arno ar ôl cau'r pyllau glo, a oedd ar y pryd yn darparu cymaint o waith i'r rhai oedd yn byw yn y cymunedau hynny.
Ceir heriau bob amser wrth adeiladu gweledigaeth o amgylch ein treftadaeth ddiwydiannol, ond yn yr achos hwn, mae un o'r heriau mwyaf yn deillio o berchnogaeth y twnnel hwn a thwneli eraill. Mae hyn wedi atal unrhyw ddatblygu pellach ar dwnnel y Rhondda am y tro. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn ogystal â chodi mater perchnogaeth yma yn y Siambr ar sawl achlysur, ac nid ydym yn nes at ddatrys y mater heddiw nag yr oeddem dair blynedd yn ôl. Rwy'n ddiolchgar am yr arian gan Lywodraeth Cymru, ac mae eisoes wedi cael effaith bwysig ar y prosiect hwnnw. Fodd bynnag, heb drosglwyddo perchnogaeth y twnnel o ddwylo'r Adran Drafnidiaeth i Gymru, mae'n bosibl fod hyn i gyd wedi bod yn ofer. Ni ellir dod o hyd i gyllid pellach o ffynonellau eraill—ac nid wyf yn gofyn am gyllid gan Lywodraeth Cymru—i gwblhau'r gwaith hyd nes y byddwn wedi mynd i'r afael â mater perchnogaeth.
Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn pryderu am faterion atebolrwydd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi gofio, ar hyn o bryd, fod y twnnel wedi'i gau. Prin fod unrhyw faterion atebolrwydd yn codi pe bai mynydd yn disgyn i mewn arno a neb y tu mewn. Felly, nid oes llawer i boeni yn ei gylch ar hyn o bryd. Nawr, mewn llythyr ataf fi a'm cydweithiwr Stephen Kinnock AS, mae'r Farwnes Vere o Norbiton, sy'n Weinidog trafnidiaeth yn Llundain dros ffyrdd a diogelwch, yn datgan bod yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros drafnidiaeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn 2017 i ddweud y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn barod i drosglwyddo'r twnnel i berchnogaeth Llywodraeth Cymru a thalu'r swm o £60,000 i adlewyrchu'r arbedion ar gostau arolygon yn y dyfodol—cynnig sy'n dal yn agored i Lywodraeth Cymru yn ôl yr hyn a ddywedir wrthyf. Felly, efallai y bydd yr opsiynau i archwilio'r cyllid i ailagor y twnnel yn cael eu harchwilio ac mae angen inni edrych ar hyn o ddifrif.
Gadewch i ni gael y twnnel beicio hiraf yn Ewrop—yr ail hiraf yn y byd—yn agored i feicwyr a cherddwyr, nid yn unig ar gyfer teithio llesol ac nid yn unig ar gyfer twristiaeth, ond er mwyn adfywio ein cymoedd a sicrhau bod Caerdydd ar gael yn rhwydd i bobl yng nghwm Afan, oherwydd ar hyn o bryd, mae'n rhaid iddynt fynd i Faesteg a dal trên Maesteg. Oni fyddai'n braf pe gallent feicio drwy'r twnnel a dal trên yn Nhreherbert? Gadewch i ni fod yn flaengar a rhannu'r weledigaeth sydd gennyf fi a Chymdeithas Twnnel y Rhondda, ynghyd â llawer o rai eraill. Gadewch i ni gael uchelgais. Ddirprwy Weinidog, mae'r ddadl heddiw yn gyfle i chi rannu gweledigaeth gyda ni, gweledigaeth i adfywio cymunedau ledled Cymru, i rannu awydd fy nghymuned, cwm Afan, i agor y twnnel ar gyfer twristiaeth, datblygu economaidd a chyflogaeth. Gadewch i ni feddwl am y dyfodol. Gadewch inni gymryd ychydig o risg. Gadewch inni fod yn uchelgeisiol. Gadewch i ni sôn am y trysor sydd yng nghwm Afan er mwyn i genedlaethau'r dyfodol fwynhau a gwerthfawrogi hanes ein gorffennol diwydiannol.
Mae gogledd Cymru wedi'i bendithio â rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o seilwaith diwydiannol hanesyddol. Mae'r arwyr a anghofir yn rhy aml mewn grwpiau lleol sy'n ymdrechu i fanteisio i'r eithaf ar yr adfywio economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil y seilwaith hwn yn haeddu cydnabyddiaeth a chefnogaeth. Maent yn brwydro bob dydd gyda'r heriau ymarferol ac ariannol o sicrhau y gall seilwaith o'r fath gael ei ddefnyddio gan y gymuned unwaith eto. Yn hytrach na pherchnogaeth Llywodraeth Cymru, maent yn chwilio am bartneriaeth wirioneddol â Llywodraethau wrth archwilio a darparu'r cyfleoedd ymarferol ar gyfer ailagor seilwaith o'r fath.
Traphont ddŵr Pontcysyllte yw'r draphont ddŵr hiraf ym Mhrydain a'r draphont ddŵr camlas uchaf yn y byd. Ar ôl ennill statws treftadaeth y byd yn 2009, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn creu gweithgor i sefydlu gogledd-ddwyrain Cymru fel cyrchfan ar gyfer ymwelwyr o gwmpas y draphont ddŵr, gyda'r trydydd sector wedi'i gynrychioli gan Glandŵr Cymru, yr ymddiriedolaeth gamlesi ac afonydd. Rydym yn dal i aros ddegawd yn ddiweddarach, ac mae grwpiau treftadaeth eraill y trydydd sector yn dweud wrthyf nad ymgysylltwyd â hwy.
Wrth siarad yma y llynedd, cyfeiriais at bennod olaf cyfres Great Rail Restorations a ymddangosodd ar Channel 4, rhaglen a hyrwyddai'r rheilffordd wych rhwng Llangollen a Charrog, ond mae bellach yn mynd i Gorwen hefyd, ac ymdrechion pawb a oedd yn rhan o'r ymddiriedolaeth wirfoddol. Fel y dywedais ar y pryd, rydym angen cynnig twristiaeth cydgysylltiedig, gyda thocynnau drwodd i alluogi ymwelwyr rhanbarthol i ymestyn eu harosiadau a chael yr amser gwych y gwyddom y gallant ei gael.
Mae Rheilffordd Llangollen wedi dweud dro ar ôl tro eu bod yn dymuno cynnig tocynnau ar y cyd â'r cwmnïau bysiau a rheilffyrdd eraill yn eu hardal. Mae eu cynigion ar gyfer tocynnau drwodd hefyd yn ymwneud â rheoli cyrchfannau yn ehangach a chyrchfannau sy'n datblygu profiad ymwelwyr drwy bartneru gyda lleoliadau eraill ac atyniadau treftadaeth ddiwydiannol yn y rhanbarth. Mae Rheilffordd Llangollen yn un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal a'r unig reilffordd dreftadaeth led safonol yng ngogledd Cymru. Maent yn ymestyn y rheilffordd i Gorwen ac yn adeiladu gorsaf newydd yno fel eu terfynfa orllewinol, a fydd yn helpu i agor tref Corwen i fwy o ymwelwyr ac yn helpu pobl leol i deithio rhwng Llangollen a Chorwen. Arweiniwyd y prosiect hwn yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr gyda chymorth proffesiynol yn ôl yr angen.
Roedd tramffordd dyffryn Glyn yn rheilffordd gul a gysylltai'r Waun â Glyn Ceiriog ac mae ymddiriedolaeth tramffordd dyffryn Glyn yn gweithio tuag at ailsefydlu'r dramffordd o'r Waun. Wrth siarad yma yn 2014, ac eto y llynedd, gelwais ar Lywodraeth Cymru i ystyried cefnogi cynlluniau i ailagor y rheilffordd o'r Gaerwen i Langefni fel cyswllt treftadaeth. Fis diwethaf, ymwelais â Welsh Slate ym Methesda, sy'n dyddio'n ôl dros 400 o flynyddoedd. Ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi gweithio gydag ymddiriedolaeth a grŵp treftadaeth Brymbo, sy'n gweithio i hyrwyddo hanes diwydiannol Brymbo ac ardaloedd cyfagos a datblygu'r safle fel atyniad i ymwelwyr, gan gynnwys adeiladau craidd y gwaith haearn a choedwig ffosil Brymbo.
Mae Shotton Point yn rhan bwysig o dreftadaeth Glannau Dyfrdwy, yn enwedig mewn perthynas â chynhyrchu dur. Roedd y Gymdeithas Fictoraidd yn cynnwys hen swyddfa gwaith dur John Summers, gan gynnwys ei thŵr cloc rhestredig gradd II eiconig, ar eu rhestr 10 uchaf ar gyfer adeiladau a oedd mewn perygl yn 2018. Yn ddiweddar, ymwelais â sefydliad dielw Enbarr yn Queensferry i drafod eu prosiect safle cyffrous yn John Summers, Shotton Point, sy'n dod â phobl leol, busnesau a mudiadau cymunedol at ei gilydd i gynllunio, datblygu ac adeiladu dyfodol y safle.
Roedd yr ardal rhwng Wrecsam a'r Wyddgrug, lle rwy'n byw, yn cynnwys llawer o byllau glo ar un adeg. Mae canolfan dreftadaeth glowyr Llai wedi ymroi i adrodd hanes y diwydiant glo yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn dathlu, yn gwarchod ac yn hyrwyddo treftadaeth gyfoethog y rhanbarth, a mynychais eu ffair dreftadaeth yn Wrecsam ar 27 Gorffennaf. Bu'r Rhufeiniaid yn cloddio plwm yn Helygain, cloddiwyd am dywodfaen yng Ngwespyr ac mae mentrau diwydiannol yn nyffryn Maes-glas, yn amrywio o gopr i gotwm, yn darlunio'r chwyldro diwydiannol. Rwy'n cymeradwyo'r teithiau treftadaeth drwy ddyffryn Maes-glas ac ymweliadau â'i barc treftadaeth. Hefyd, mynychais ddiwrnod hanes Grŵp Treftadaeth Llaneurgain ar 21 Medi, a oedd yn amrywio o lwybrau dyddiau'r goetsh fawr i wneud brics, ym Mwcle.
Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd perfformiadau Theatr Clwyd o derfysgoedd yr Wyddgrug 150 o flynyddoedd yn ôl yn cofio'r aflonyddwch cymdeithasol ar ôl i ddau löwr gael eu dedfrydu i garchar am ymosod ar reolwr pwll glo Leeswood Green, digwyddiad a ddylanwadodd ar ddyfodol plismona aflonyddwch cyhoeddus ar draws Prydain. Gyda'i gilydd, dengys hyn oll ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru droi geiriau'n gamau gweithredu drwy ddod â phŵer yr holl bobl hyn at ei gilydd i ddatgloi'r potensial ar gyfer adfywio rhanbarthol a arweinir gan y dreftadaeth ddiwydiannol. Diolch yn fawr.
Nid yn aml y cytunaf yn llwyr â rhywbeth gan Aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill, ond mae hwn yn un o'r achlysuron hynny. Hoffwn hefyd gofnodi fy nghefnogaeth i agor twnnel Aber-nant yng nghwm Cynon, ac unrhyw dwnnel arall yng Nghymru a fyddai'n fuddiol i'r cymunedau lleol y byddai'n eu gwasanaethu.
Fel Aelod dros y Rhondda, rwy'n siŵr y byddech yn disgwyl i mi ganolbwyntio ar yr etholaeth honno am weddill fy nghyfraniad. Gallai'r twnnel rhwng Blaen-cwm a Blaengwynfi sicrhau effeithiau cadarnhaol diamheuol ar gyfer y Rhondda. Pan ffurfiwyd Cymdeithas Twnnel y Rhondda yn 2014, roedd eu penderfyniad, eu brwdfrydedd a'u momentwm yn ganmoladwy. Rwy'n aelod o Gymdeithas Twnnel y Rhondda, felly mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant yn ogystal â datgan fy nghefnogaeth gadarn i'r gymdeithas yn y ddadl hon.
Er bod llawer wedi'i gyflawni ers iddi gael ei sefydlu, mae'r cwestiwn o berchenogaeth wedi llesteirio'u hymdrechion. Mae gennyf lythyrau sy'n dyddio'n ôl fwy na thair blynedd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am yr ased hwn er mwyn i'r prosiect allu symud i'r cam nesaf, ac ni allaf ddweud wrthych pa mor rhwystredig yw hi nad yw'r mater hwn wedi'i ddatrys a ninnau'n nesáu at 2020. Gwn fod aelodau tra amyneddgar a maddeugar Cymdeithas Twnnel y Rhondda yn rhannu'r rhwystredigaeth honno.
Nid yw aelodau'r gymdeithas yn chwilio am siec wag gan Lywodraeth Cymru nac unrhyw addefiad o atebolrwydd. Maent yn fwy na pharod i dderbyn unrhyw drefniant sy'n rhyddhau Llywodraeth Cymru o gost ariannol fel y gallant sicrhau bod y twnnel yn ôl lle mae'n perthyn, mewn dwylo Cymreig. Bydd hyn yn caniatáu iddynt wneud cais wedyn am grantiau a chyllid o ffynonellau eraill. Os na chaiff y mater perchnogaeth ei ddatrys, byddwn yn parhau i fethu gwneud dim.
Gwyddom nad oes unrhyw rwystr o gyfeiriad Lloegr o ran perchnogaeth y twnnel. Dair blynedd yn ôl, sefydlais nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i roi'r twnnel yn ôl i Gymru. Rwyf hefyd yn deall bod Adran Drafnidiaeth y DU wedi anfon gohebiaeth at Lywodraeth Cymru yn 2017 yn cynnig perchnogaeth twnnel y Rhondda a £60,000 i adlewyrchu arbedion i'r adran honno mewn costau arolygon. Mae Adran Drafnidiaeth y DU yn dal i aros am ateb i'r cynnig hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn roi terfyn ar y oedi yn awr a gwneud rhywfaint o gynnydd.
Gallai twnnel y Rhondda fod yn gatalydd i'r seilwaith beicio rydym wedi bod yn crefu amdano yn Rhondda Fawr ers blynyddoedd. Byddai'n helpu i hyrwyddo gweithgaredd, gan fynd i'r afael â'r epidemig o ordewdra a wynebwn fel cymdeithas. Byddai hefyd yn hwyluso teithiau lleol di-gar, gan ein helpu i gyflawni ein cyfrifoldeb i leihau'r carbon rydym yn ei allyrru i'r atmosffer. Mae ganddo'r potensial i fod yn atyniad mawr i dwristiaid—nid beicwyr yn unig, ond cerddwyr hefyd. Dychmygwch yr hwb y gallai ei roi i fusnesau lleol. Mae gwledydd eraill wedi manteisio i'r eithaf ar eu twristiaeth feicio, ac mae'n bryd i Gymru wneud yr un peth. Felly, er bod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn wastraff cyfle o ran y cwestiwn perchnogaeth, nid yw'n rhy hwyr i weld y prosiect hwn yn llwyddo. Beth am fachu ar y cyfle a gyflwynir i ni o waddol ein gorffennol diwydiannol a gwneud defnydd da ohono.
Rwyf mor falch fy mod wedi gallu cyd-gyflwyno'r cynnig heddiw, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod yr AC dros Aberafan a'i gyd-gyflwyno hefyd gyda Leanne Wood. Bu David Rees a Leanne Wood yn hyrwyddwyr go iawn dros dwnnel y Rhondda, ac rwy'n ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth i fy ngalwad mewn perthynas â thwnnel Aber-nant, yn ogystal ag aelodau Cymdeithas Twnnel y Rhondda a gynigiodd eu harbenigedd a phob math o gyngor i ni ar hynny yng Nghwm Cynon.
Rwyf am dreulio'r rhan fwyaf o fy amser yn sôn am dwnnel Aber-nant sy'n cysylltu Cwm-bach â Merthyr, neu dwnnel Merthyr, fel y'i gelwir yn lleol. Roedd yr hen dwnnel rheilffordd hwn, a gynlluniwyd gan Brunel, yn rhan o Reilffordd Cwm Nedd ac mae'n un edefyn, un gangen, o'r rhwydwaith cyfoethog o seilwaith diwydiannol hanesyddol rydym yn ei fwynhau yng Nghymru. Yn wir, am 110 o flynyddoedd, prif swyddogaeth y strwythur rhyfeddol hwn oedd allforio glo o ardal Aberdâr i fodloni'r galw ymhellach i ffwrdd. Mae hyn yn ein hatgoffa o un o agweddau negyddol y dreftadaeth honno, ac o'r chwyldroadau diwydiannol eu hunain: y dyddodion mwynol gwerthfawr, brwydr a llafur y gweithwyr, yr amgylchedd naturiol, i gyd yn cael eu hecsbloetio er mwyn cyfoethogi'r lleiafrif.
Fodd bynnag, fel y mae ail bwynt y cynnig yn ei nodi, gallai ailagor y twneli hyn ddarparu cyfleoedd ar gyfer manteision gwirioneddol a pharhaol i'r lliaws, yn gyntaf, o ran trafnidiaeth integredig a chyfleoedd teithio llesol. Gwnaeth yr elusen cerdded a beicio, Sustrans, waith a edrychai ar yr 21 o dwneli rheilffordd nas defnyddir yn ne-ddwyrain Cymru. Canfuwyd mai twnnel Aber-nant a sgoriodd uchaf o dan offeryn asesu llwybrau a gwerthuso trafnidiaeth Sustrans.
Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, dyma'u dull o werthuso potensial cynlluniau cerdded a beicio. Ac fel y nododd Sustrans, gallai ddarparu llwybr teithio llesol uniongyrchol a di-draffig o Aberdâr i Ferthyr, rhywbeth nad oes gennym ar hyn o bryd. Yn wir, gwn am lawer o etholwyr sy'n beicio ar hyd ochr ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd gan nad oes dewis arall mewn gwirionedd, yn rhannol ar lwybr beicio ac yn rhannol ar lain o borfa arw wrth ymyl y ffordd er mwyn cymudo i'r gwaith. Felly, mae potensial yno.
Fel y dywed adroddiad Sustrans, hwn sydd â'r potensial uchaf o'r holl lwybrau a ddadansoddwyd i annog newid moddol drwy annog cymudo. Dim ond heddiw y nododd fy nghyd-Aelod, yr AC dros Ogwr, Huw Irranca-Davies, ein bod, mewn gwirionedd, ers dyfodiad y Ddeddf teithio llesol yng Nghymru, wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n cerdded ac yn beicio. Rwy'n ystyried y twneli hyn fel catalyddion a allai newid hynny'n llwyr a dod â'r Ddeddf teithio llesol yn fyw.
Gallai hybu iechyd a llesiant, fel y mae cyd-Aelodau eraill wedi'i nodi yn y ddadl hon, yn enwedig ymhlith plant a phobl hŷn hefyd. Mae'r twnnel ei hun yn cysylltu â chyfres o lwybrau cerdded ar ochr Cwm-bach sydd eisoes yn cael defnydd da iawn o ran beicio, cerdded a cherdded cŵn, a hefyd, ar ochr Merthyr, mae'r llwybr yn cysylltu'n agos iawn â BikePark Wales. Felly, mae cyfleoedd i dwristiaid yn y fan honno hefyd, a'r manteision ymarferol a fyddai'n dod yn sgil cysylltu ag ardaloedd difreintiedig iawn a dwysedd poblogaeth uchel.
Awgrymodd adroddiad Sustrans hefyd fod y twnnel mewn cyflwr hyfyw iawn, gan olygu y byddai'n opsiwn rhesymol o ran dadansoddiad cost a budd hefyd. Mae hynny'n rhywbeth a welais drosof fy hun pan gefais fynd ar daith i weld y twnnel gyda fy nghyd-Aelod, yr AC dros Ferthyr Tudful a Rhymni, Dawn Bowden. Mae'r twnnel, sydd â giât ar y naill ben a'r llall, fel rydych wedi'i weld mewn rhai o'r lluniau a ddangoswyd yn gynharach o bosibl, wedi'i gynnal yn dda iawn, gyda buddsoddiad o dros £100,000 ar y tu mewn i sicrhau ei fod mewn cyflwr diogel a hyfyw.
Yn hynny o beth, mae'n rhoi cyfle i mi dalu teyrnged i waith Hammond ECS Ltd, cwmni cynnal a chadw strwythurol arbenigol sydd wedi'i leoli ym mhentref Cwm-bach yn fy etholaeth. Mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae, y busnes teuluol hwn, yn sicrhau bod twnnel Aber-nant, a gweddill y rhwydwaith hefyd—sydd, fel y gwyddom, yn eiddo i Highways England ar hyn o bryd—wedi'i gadw mewn cyflwr addas, gan mai hwy a gafodd eu contractio i wneud hynny.
Mae hyn, i mi, yn elfen bwysig arall o'r ddadl o blaid adfer y twneli, oherwydd nid yn unig y byddai agor y twneli hyn yn cynnig cyfleoedd trafnidiaeth, ond maent hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer adfywio a datblygu economaidd, fel y mae'r cynnig yn nodi, a chyfleoedd busnes i gwmnïau fel Hammond ECS, cwmnïau sy'n cyflogi pobl leol mewn swyddi medrus. Yn wir, mae Sustrans yn nodi ffigur o 0.74 o swyddi ar gyfer pob cilometr o lwybr teithio llesol a grëir. Pan edrychwn ar dwneli eraill a addaswyd, megis Two Tunnels Greenway yng Ngwlad yr Haf, mae pobl wedi heidio o bob cwr i ddathlu eu hagoriad.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Felly, gobeithiaf y gallwn weld cynnydd ar yr uchelgeisiau hyn a throi'r symbolau hyn o ddiwydiannaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn symbolau o ffyniant cynaliadwy'r unfed ganrif ar hugain.
Mae'n rhaid i mi ddweud, pan ymddangosodd y ddadl hon ar y papur trefn, roedd teitl y ddadl yn ennyn fy chwilfrydedd ac rwyf wedi mwynhau'r cyfle a gawsom y prynhawn yma i rannu rhai o'n hatgofion, mewn rhai achosion, ond hefyd ein huchelgeisiau a'n dyheadau ar gyfer ailddyfeisio'r cymunedau rydym yn byw ynddynt. Oherwydd pan fyddaf yn meddwl am y bensaernïaeth ddiwydiannol a'r seilwaith diwydiannol y cefais fy magu gyda hwy, mae'n dweud cyfrolau am bwy ydym ni fel pobl heddiw.
Cefais fy magu, a mynychais yr ysgol, yng nghysgod gwaith haearn Sirhywi, un o'r gweithfeydd haearn mwyaf yng Nghymru pan gafodd ei sefydlu ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Roeddwn yn chwarae rygbi a phêl-droed ar gaeau yng nghysgod y naw bwa, a oedd, wrth gwrs, yn cario rheilffordd Blaenau'r Cymoedd o Dredegar i Ferthyr ac yna i lawr i'r Fenni. A'r hyn a wnaeth, wrth gwrs, oedd ein dysgu, nid yn unig am y grymoedd economaidd mawr, enfawr, byd-eang a luniodd economi de Cymru, ond hefyd fe'n dysgodd sut rydym wedi ein cysylltu â'n gilydd. Mewn llawer o wahanol ddadleuon gwleidyddol, credaf ein bod yn aml yn ceisio canolbwyntio ar y pethau sy'n ein rhannu, ond yr hyn y mae ein seilwaith diwydiannol yn ei ddweud wrthyf yw sut y mae pob un ohonom yn gysylltiedig â'n gilydd. Buom yn siarad mewn dadl yn gynharach yn y flwyddyn ynglŷn â'r modd y mae tramffordd Bryn Oer yn cysylltu Tal-y-bont yn sir Frycheiniog â Threfil a Thredegar, ond os edrychwch ar draws un neu ddau o'r Cymoedd tuag at Fryn-mawr, mae gennych dramffordd Disgwylfa hefyd, a oedd yn cario deunyddiau o chwareli Llangatwg yn sir Frycheiniog, unwaith eto, yn nyffryn Wysg, i Nant-y-glo, ac a ddefnyddiwyd wedyn gan Bailey i greu gwaith haearn Nant-y-glo. Mae'r rhain yn gysylltiadau pwysig sy'n bodoli heddiw. Rwy'n gallu beicio ar hyd tramffordd Bryn Oer, rwyf wedi cerdded ar hyd tramffordd Disgwylfa, a gallwch ddeall ein hanes a deall pwy ydym fel pobl a chymuned.
Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn yn ddigon lwcus i ymuno â grŵp o drigolion o Lanhiledd a oedd wedi ailagor lle o'r enw Granny's Wood. Nawr, enw'r nain dan sylw oedd Margaret Griffiths ac fe alluogodd hi ei hwyrion a'i hwyresau, a oedd yno yr wythnos diwethaf, fel mae'n digwydd, i chwarae ar ddarn o dir a oedd yn arfer bod yn rhan o chwarel Llanhiledd gynt. Os cerddwch i lawr—ni allwch ddod o hyd iddo oni bai eich bod yn chwilio amdano—o'r hen olchfeydd pen pwll i ble'r oedd y siafftiau, yr hen ben pyllau i lawr ffordd Burma, fel roeddent yn ei disgrifio, lle byddai'r glowyr yn cerdded ar hyd-ddi, wrth gwrs, ar ddiwedd y sifft, ac yna ar hyd y llwybr y byddai'r glowyr yn cerdded arno i ac o'r gwaith pan oedd pyllau Llanhiledd ar eu hanterth, wrth gwrs, byddai cannoedd o ddynion wedi bod yn cerdded yn ôl ac ymlaen yno bob dydd. Heddiw, mae'n rhan heddychlon a thawel o'n treftadaeth a'n lleoedd a ail-ddarganfuwyd gennym, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau, fel rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd, fod y profiadau hyn, y lleoedd hyn, yr hanesion hyn a'r cysylltiadau hyn yn dod yn rhan o bwy ydym am fod yn y dyfodol hefyd.
Mae deall hanes, yn fy marn i, yn gwbl hanfodol i ddyfodol polisi cyhoeddus. Pan fyddaf yn meddwl am y ffordd y mae'r tramffyrdd, y rheilffyrdd a'r ffyrdd hyn wedi ein cysylltu, rwyf hefyd yn meddwl am rywbeth arall, sy'n fath llawer hŷn o drafnidiaeth wrth gwrs, sef ein hafonydd. Nid ydynt wedi cael eu crybwyll yn y ddadl y prynhawn yma, ac anaml iawn y crybwyllir ein hafonydd, yn enwedig yn ne Cymru, ond os siaradwch chi byth â'r Cynghorydd Malcolm Cross yn Nhredegar, bydd yn sôn sut y mae'n credu mai afonydd de Cymru yw'r ased rydym wedi'i esgeuluso fwyaf. Ac a wyddoch chi beth? Rwy'n credu ei fod yn iawn. Os edrychwch ar Vale Terrace yn Nhredegar, mae wedi'i adeiladu i wynebu'r afon oherwydd mai'r afon honno oedd un o'r prif fathau o drafnidiaeth ar y pryd, cyn i ni ddechrau defnyddio camlesi a—. Fe dderbyniaf ymyriad.
Diolch i chi am ildio, Alun. Gan eich bod wedi sôn am afonydd, fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar ddyfrffyrdd, buaswn yn esgeulus i beidio â sôn hefyd am y rôl bwysig y mae camlesi wedi'i chwarae yn ein hanes a'n treftadaeth ddiwydiannol. Felly, pan fyddwch yn sôn am afonydd, efallai y gallech—nid wyf yn siarad yn y ddadl hon heddiw mewn gwirionedd—efallai y gallech grybwyll ein camlesi hefyd.
Ond rydych wedi siarad yn y ddadl yn awr ac rydych wedi gwneud yn union hynny, ac rwy'n cymeradwyo'r Aelod dros sir Fynwy am wneud hynny.
Ond wrth gwrs, mae'r tramffyrdd a ddisgrifiais yn cysylltu â chamlas Mynwy a Brycheiniog hefyd, ac mae tramffordd Disgwylfa a Llangatwg yn cysylltu â'r glanfeydd yng Ngofilon sy'n gyfarwydd iawn iddo. Ond wrth i'r Llywodraeth fwrw ymlaen â gwaith ar dasglu'r Cymoedd, rwy'n gobeithio y byddwn yn edrych eto ar afonydd de Cymru.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae polisi cyhoeddus wedi'i dargedu tuag at lanhau'r dŵr yn yr afonydd hynny, a hynny'n briodol; mae'n bwysig. Pan oeddwn yn tyfu i fyny yn Nhredegar, roeddwn bob amser yn ystyried fy hun yn lwcus fod lliw disglair ar y dŵr y chwaraewn ynddo yn afon Sirhywi bob amser, ac erbyn hyn rwy'n gobeithio y byddai fy mab yn meddwl fel arall. Ond wrth ymateb i'r ddadl hon, rwy'n gobeithio y gallwn edrych eto ar afonydd de Cymru gan fod ein datblygiadau, dros ddegawdau a chanrifoedd efallai, wedi gwneud i ni droi cefn ar ein hafonydd, wedi gwneud i ni droi cefn ar yr amgylchedd naturiol, heb ddeall sut y maent wedi siapio ein hanesion. Ac rwy'n credu bod afonydd de Cymru—dyma y bydd Malcolm Cross yn ei ddweud wrthyf, ac mae'n iawn—yn drysorau mawr sydd heb eu darganfod ac sy'n cael ei hesgeuluso yn ein cymoedd ni.
Daeth y ddeddfwriaeth gyntaf i Gymru'n unig ar yr amgylchedd hanesyddol yn gyfraith yn 2016, ac mae'n faes hollbwysig i Gymru, i'n heconomi yn ogystal â'n diwylliant, ac mae'n amlwg fy mod yn ymddiddori'n arbennig yn fy etholaeth, sef Islwyn.
Mae Crymlyn yn Islwyn wedi'i leoli yng nghanol cymoedd Gwent ac mae'n ganolog i ddaearyddiaeth tasglu'r Cymoedd. Mae'n gymuned falch sydd â threftadaeth ddiwydiannol gref a chof diwydiannol cryf. Agorodd pwll glo Navigation yng Nghrymlyn yn 1907 ar ôl i'r perchnogion pyllau glo preifat, Partridge, Jones and Company Limited, dyllu yno, ac mae'n enghraifft o bensaernïaeth ddiwydiannol restredig eithriadol. Ym 1947, aeth i ddwylo'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, yn dilyn gwladoli gan Lywodraeth Lafur Attlee, ond caewyd y drysau yn y diwedd ym 1967. Yn y degawdau dilynol, roedd yr adeiladwaith mawreddog hwn—. Os oes unrhyw un wedi bod mor ffodus neu wedi cael y pleser a'r mwynhad o deithio drwy Grymlyn ar y ffordd i Lynebwy, fe welwch gyfres o adeiladau brics coch tebyg i arddull cyfnod y rhaglywiaeth, gyda'r corn simnai nodedig, sy'n araf ddechrau dadfeilio'n adfail ers i'r draphont fynd, ond maent yn dal i fod yn rhai o'r adeiladau glofaol sydd wedi goroesi orau yng Nghymru.
Rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelod, Dai Rees, ac eraill am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr oherwydd mae Crymlyn yn parhau i fod yn gymuned lofaol falch sydd â photensial adfywio economaidd enfawr i elwa'n uniongyrchol o fuddsoddiad—a dyna'r gair: buddsoddiad—yn ei seilwaith diwydiannol hanesyddol ac eiconig. Fel y cyfryw, rwy'n falch iawn fod y Gweinidog trafnidiaeth, Ken Skates, wedi cadarnhau y bydd rheilffordd Glynebwy, sy'n rhedeg yn uniongyrchol drwy gymunedau Trecelyn, Crosskeys a'r Rhisga yn fy etholaeth, yn gwasanaethu dinas bwysig Casnewydd yng Ngwent ac Islwyn yn 2020. Ac rwy'n credu bod yn rhaid gwireddu'r posibilrwydd o ailagor gorsaf reilffordd Crymlyn i wasanaethu'r gymuned hon a'i hatyniadau. Gwyddom fod agor gorsafoedd rheilffordd newydd yn broses gymhleth sy'n dal i fod wedi'i llunio a'i rheoli'n wael gan brosesau'r DU, ac rydym angen cynyddu ein gallu ar fyrder yng Nghymru i ailagor gorsafoedd ac ailddefnyddio rheilffyrdd a gollwyd i'r genedl yn ystod y 1960au, ar ôl i doriadau Beeching chwalu ein cysylltiadau trafnidiaeth a gwanhau ein heconomïau lleol.
Felly, yma yng Nghrymlyn, ym mhwll glo Navigation, mae criwiau ymroddedig o ddynion a menywod lleol wedi ymrwymo i gynnal a dod â bywyd newydd i bwll glo Navigation, a adeiladwyd i safon rhagorol. Mae'n elusen gofrestredig sy'n gweithio gyda pherchennog y safle, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau De Cymru, i gynnal ac atal dirywiad pellach yr adeiladau hyn a darparu cynlluniau adnewyddu effeithiol. Mae'n cynnwys adeiladau gradd II eiconig a hardd fel y nodais, adeiladau a allai ffurfio calon gweithgarwch adfywio yng nghanol ardal tasglu'r Cymoedd gan fod yr amgylchedd diwydiannol hanesyddol a'i seilwaith yn adrodd stori Cymru ac yn adrodd hanes ein pobl. Y rhain yw ein hetifeddiaeth a'n dyfodol.
Maent yn cyflwyno cof cyfunol, sy'n fregus ac yn werthfawr, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn trosglwyddo ein cof cyfunol a'n hetifeddiaeth ddiwylliannol o un genhedlaeth i'r llall. Nid ydym yn dymuno byw yn y gorffennol, ond mae'r gorffennol yn rhan o bwy ydym fel pobl, a phwy ydym fel cenedl. Maent yn adrodd hanes Cymru, naratif heb ei gyffwrdd yn ei holl ogoniant, y da a'r drwg, y cyfoethog a'r tlawd, y lliaws a'r ychydig, ac yn adrodd am ymdrechion ein pobl.
Mae Crymlyn, gyda phwll glo mawreddog Navigation a'r draphont goll enwog a hen orsaf drenau'r gwaith, yn galw am gamau gweithredu a gweledigaeth i'w hadfer er budd economaidd, diwylliannol, cymdeithasol a lles cenedlaethau'r dyfodol.
Fe fyddaf yn gryno, Ddirprwy Lywydd, oherwydd rwy'n croesawu'r penderfyniad hwn, a'r rhan bwysicaf ohono i mi yw'r darn sy'n sôn am adennill rheolaeth dros rywfaint o'r seilwaith diwydiannol sydd gennym. Cyfeiriaf yn benodol at y rhwydwaith sy'n dal i fodoli ar nifer enfawr o hen reilffyrdd o amgylch de Cymru i gyd ac yn sawl rhan arall o Gymru hefyd wrth gwrs. Yn sicr, yn rhan Taf-Elái o fy etholaeth, lle roedd llawer iawn o ddatblygiadau preswyl ar y gweill, gwyddom mai trafnidiaeth gyhoeddus, mewn gwirionedd, yw'r unig ateb hyfyw o ran ymdrin â'r tagfeydd ar ein ffyrdd, ac mae hynny'n galw am ryw fath o fysiau, yn ogystal ag ailagor rheilffyrdd, ac rwy'n credu mai ailagor rheilffyrdd yw un o'r cyfleoedd mawr sydd gennym mewn gwirionedd.
Mae hen reilffordd sy'n mynd o Gaerdydd, drwy Creigiau, ac arferai fod yn gysylltiedig â chainc Beddau ac yna drwodd i Lantrisant a Phont-y-clun. Rwy'n falch iawn bod cynllun busnes ar y gweill, sy'n gobeithio adrodd yn weddol fuan, a allai arwain at ailagor y rheilffordd honno, un o'r hen reilffyrdd cyntaf i gael eu hailagor ond i ddarparu ateb modern i'n hanghenion trafnidiaeth gyhoeddus.
Y peth allweddol a ddigwyddodd fwyaf pan oeddem yn edrych ar hyn, ac rwy'n gwybod ei fod yn fater sy'n berthnasol i lawer rhan arall o Gymru, yw bod yn rhaid i ni gadw'r hyn sydd yno mewn gwirionedd, gan ei fod yn prysur ddiflannu. Mae rhannau ohono'n cael ei golli, mae adeiladu'n digwydd ar rannau o'r hen reilffyrdd hyn mewn gwahanol ffyrdd, ac mae'r cyfleoedd sydd gennym ar gyfer rheilffyrdd newydd, neu lwybrau pwrpasol newydd, boed ar gyfer teithio llesol, boed ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, mewn perygl o ddiflannu. Felly, mae mapio'r llwybrau hyn a sicrhau diogelwch a pherchnogaeth ar y llwybrau hyn yn hanfodol, a chredaf fod y cynnig hwn yn cyfrannu at y dasg honno.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi longyfarch David Rees, Leanne Wood a Vikki Howells am gyflwyno'r ddadl hon? Fel y mae eu cynnig yn cydnabod, mae cryn botensial yn y rhwydwaith o seilwaith diwydiannol hanesyddol ledled Cymru, yn enwedig yr hen dwneli rheilffordd ar draws Cymoedd de Cymru, a all wasanaethu'r cymunedau o'u cwmpas unwaith eto, gan ddarparu seilwaith economaidd a chymdeithasol pwysig.
Ond fel y mae'r cynnig hefyd yn ei nodi, mae eu defnyddio eto yn creu heriau ymarferol ac ariannol real iawn. Ceir enghreifftiau llwyddiannus y gallwn eu nodi lle mae gwaddol ein gorffennol diwydiannol wedi'i harneisio er mwyn sicrhau manteision i ni heddiw. Mae rheilffordd Ffestiniog a thraphont ddŵr Pontcysyllte yn enghreifftiau o asedau treftadaeth eithriadol sy'n denu twristiaid ac yn creu gwaith yn lleol, yn ogystal ag adrodd hanes y gorffennol. Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi £7 miliwn o gyllid ar gyfer pyrth i Barc Rhanbarthol y Cymoedd a fydd yn ychwanegu at hynny hefyd. Wrth gwrs, ni chafodd y rhain eu hail-greu’n drysorau fel y maent heddiw dros nos, ond wrth inni edrych ar gyfleoedd eraill i ddod â gwaddol ein treftadaeth ddiwydiannol yn ôl yn fyw, mae angen i ni gofio na chafodd Blaenau Ffestiniog ei adeiladu mewn diwrnod.
Mae'r Aelodau wedi siarad yn llawn perswâd y prynhawn yma am y potensial sydd gan y rhwydwaith o hen dwneli rheilffordd ar draws de Cymru fel coridorau trafnidiaeth, fel y mae Mick Antoniw newydd ei grybwyll. Mae hen reilffyrdd eraill wedi cael bywyd newydd fel llwybrau cerdded a beicio. Mae llwybr Taf, er enghraifft, rhwng Aberhonddu a Chaerdydd, a llwybr Ystwyth, sy'n cysylltu Aberystwyth â Thregaron, yn enghreifftiau rhagorol.
Nid oes angen i unrhyw un fy mherswadio i gefnogi egwyddorion y cynnig. Yn wir, tua 10 mlynedd yn ôl, bûm yn rhan o'r ymarfer cwmpasu a oedd yn edrych ar botensial y twneli hyn i newid deinameg teithio rhwng y Cymoedd. Gall y llwybrau eithaf uniongyrchol a gwastad a dyllwyd drwy ein mynyddoedd gan beirianwyr â gweledigaeth i gario trenau yn yr oes ddiwydiannol helpu i ail-beiriannu'r ffordd y meddyliwn am deithio yn yr oes fodern. Efallai fod beic trydan dros fynydd Merthyr yn gofyn gormod gan y rhan fwyaf o bobl, ond mae llwybr cyflym, uniongyrchol oddi tano yn gais llawer mwy realistig—ond dim ond os yw'r twneli wedi'u cysylltu â rhwydwaith o lwybrau sy'n cysylltu cyrchfannau y mae pobl eisiau teithio iddynt. Wedi'r cyfan, mae teithio llesol yn ymwneud â beicio a cherdded yn cymryd lle ceir ar gyfer teithiau bob dydd. Er mwyn ymateb i her yr argyfwng yn yr hinsawdd, mae angen i ddewisiadau carbon isel neu ddi-garbon gymryd lle teithiau car cyn gynted â phosibl.
Mae'n rhaid i ni roi blaenoriaeth, felly, i fuddsoddi lle y gellir cael yr adenillion cyflymaf a mwyaf sylweddol. Yn aml, gallai gwrthlif dinod i lawr stryd unffordd neu balmant lletach newid amgylchedd i wneud cerdded a beicio yn opsiwn gweladwy. Mewn achosion eraill, yr hyn sydd ei angen yw ymyrraeth beirianyddol galetach fel llwybr beicio ar wahân ar brif ffordd i wahanu beiciau a cheir. Ar ôl beicio i lawr Ffordd Senghennydd yng Nghaerdydd yn ddiweddar, gallaf dystio i effaith ddramatig y lôn feicio ar wahân sy'n cael ei hadeiladu yno. Pan fydd y llwybr hwnnw wedi'i gwblhau, rwy'n siŵr y gwelwn gynnydd mawr iawn mewn beicio yn y rhan honno o'r ddinas.
Felly, mae angen y seilwaith cywir arnom yn y mannau cywir. Law yn llaw â hynny, rydym angen hyfforddiant a hyrwyddo er mwyn newid diwylliant. Wrth i ni edrych ar y gyfres o ymyriadau sydd eu hangen i gyflawni hyn, rwy'n sicr bod gan y rhwydwaith o hen dwneli ran i'w chwarae. Ond gydag adnoddau cyfyngedig, mae'n rhaid i ni flaenoriaethu. Mae'r cynnig heddiw yn gofyn i Lywodraeth Cymru gael perchnogaeth ar y rhwydwaith hwn o dwneli, a chwilio wedyn am gyfleoedd ariannu. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelodau na allaf gefnogi'r dull hwn o weithredu. Yn fy marn i, dyna'r ffordd anghywir o fynd o'i chwmpas hi. Byddai ysgwyddo rhwymedigaethau enfawr yr hen dwneli hyn yn galw am fuddsoddiad mawr iawn o ran arian a chapasiti ar adeg pan fo angen i ni ganolbwyntio ar sicrhau llwyddiannau cynnar i'r Ddeddf teithio llesol. Ynddynt eu hunain, ni fydd y twneli'n arwain at newid moddol, ac mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar hynny wrth i ni geisio cyrraedd ein targedau uchelgeisiol iawn ar gyfer lleihau carbon. Gallant chwarae rhan, ond mewn dull integredig yn unig.
Mae'r Ddeddf teithio llesol, a basiwyd gan y Siambr hon chwe blynedd yn ôl i'r wythnos hon, yn nodi dull o greu rhwydwaith o lwybrau—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—a fydd yn helpu i wneud teithio llesol yn ddewis realistig i'r rhan fwyaf o bobl. Gadewch i mi orffen yr adran hon ac fe wnaf.
Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ymgynghori â phobl ar lwybrau yr hoffent eu gweld dros y 15 mlynedd nesaf ar draws eu cymunedau, i'w cysylltu'n ddiogel â chyrchfannau bob dydd ar droed neu ar feic. Yna, bydd cynghorau'n ymgorffori'r llwybrau a ddymunant mewn map rhwydwaith integredig, a fydd yn sail i geisiadau am gyllid yn y dyfodol.
Fe ildiaf i Bethan Sayed.
Roedd yn ymwneud â'r pwynt roeddech yn ei orffen ynglŷn â'r gost. Felly, rwy'n meddwl tybed a ydych wedi llwyddo i gael unrhyw sgyrsiau am y twneli gyda Llywodraeth y DU. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli na fyddai rhoi costau yswiriant yn unig yn ddigon, ac y byddai angen—. Mae'n rhwymedigaeth enfawr. Felly, a allwch dweud wrthym a ydych yn cael y sgyrsiau hynny?
Dof at hynny, os caf, wrth i mi wneud rhywfaint o gynnydd.
Felly, rydym bellach wedi cael y set gyntaf o fapiau teithio llesol ar gyfer ein trefi a'n pentrefi mwyaf, ac mae gennym swm rhesymol o arian cyfalaf i ddechrau adeiladu a gwella'r llwybrau hynny. Ac fel y mae pwyllgor economi'r Cynulliad wedi'i nodi, nid yw'r fersiynau cyntaf hyn o'r mapiau yn berffaith. Rwy'n benderfynol y bydd y fersiynau nesaf o'r cynlluniau, sydd i ddod ar ddechrau 2021, yn well ac yn seiliedig ar ymgysylltiad gwirioneddol â phobl na fyddai'n ystyried mynd ar feic ar hyn o bryd o bosibl.
Mae angen i'r twneli ymddangos ar y mapiau os ydynt yn seilwaith teithio llesol, a thwnnel Aber-nant yn unig sy'n ymddangos ar hyn o bryd. Ond er nad oes gan y rhan fwyaf o'r twneli botensial sylweddol ar gyfer teithio llesol, mae iddynt werth gwirioneddol serch hynny. Rwyf eisiau archwilio sut y gellir ariannu'r gwaith o addasu, yn ogystal â chynnal a chadw a'r rhwymedigaethau a ddaw gyda phob un. Mae dod o hyd i ddyfodol cynaliadwy ar gyfer strwythurau diwydiannol yn gallu bod yn heriol, yn enwedig os oes llygredd trwm ar y safle. Ond rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan, fel y gwn y mae llywodraeth leol. Yr wythnos diwethaf, siaradais â'r Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Rhondda Cynon Taf, a dywedodd wrthyf am y gwaith sylweddol y mae ei awdurdod eisoes wedi'i wneud i edrych ar agor twnnel y Rhondda, a'i ymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i oresgyn y rhwystrau ymarferol.
Er mwyn gwireddu potensial ein seilwaith diwydiannol hanesyddol, bydd yn rhaid i wahanol gyrff gydweithio, a bydd yn rhaid cydgysylltu agendâu gwahanol. Mae'n bosibl y byddai defnyddio'r hen dwneli rheilffordd, er enghraifft, yn gallu arwain at greu rhwydwaith o lwybrau sy'n cynnig cyfleoedd hamdden a thwristiaeth, yn ogystal ag adfywio ardal. Fel cadeirydd tasglu'r Cymoedd, mae hwnnw'n botensial rwy'n ei gydnabod yn llawn. Rwyf wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, sy'n cefnogi'r cynlluniau i ailagor y twneli, cynlluniau sy'n cyd-fynd â'i gynllun gweithredu arfaethedig ar gyfer twristiaeth yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac mae wedi cadarnhau wrthyf fod Croeso Cymru yn awyddus i fod yn rhan o unrhyw ddatblygiad, gan wneud yr achos twristaidd ar gyfer y prosiect. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yr un mor gefnogol i botensial ailagor y twneli ar gyfer adfywio cymunedau, ac ymwneud y gymuned oedd yr enghraifft fwyaf drawiadol yn yr ymgyrch ardderchog i ailagor twnnel y Rhondda. Mae'r uchelgais i greu'r llwybr cerdded a beicio hiraf drwy dwnnel rheilffordd yn Ewrop, a fyddai'n dod yn atyniad ynddo'i hun, yn un a gefnogwn, ac rydym yn cymeradwyo Cymdeithas Twnnel y Rhondda am eu gwaith. Ac rydym wedi gweithio gyda hwy i edrych ar ymarferoldeb agor y twnnel. Rydym wedi ariannu gwaith ar achos busnes lefel uchel ar gyfer y prosiect, yn ogystal â darparu cyllid ar gyfer datblygu achos busnes newydd, asesiad ecolegol, a gwella mynediad at y twnnel er mwyn gallu gwneud gwaith arolygu. Felly, rydym wedi gwneud cryn dipyn, ond hyd yma, nid yw Llywodraeth y DU na Highways England wedi cynnig unrhyw gyllid y tu hwnt i'r swm symbolaidd o £60,000, y soniodd rhai o'r Aelodau amdano gan awgrymu ei fod yn sylweddol. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthynt nad yw hynny'n wir.
Ar hyn o bryd, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r twnnel yn y tymor hir. Byddai trosglwyddo'r atebolrwydd hwnnw o fudd iddynt, ond mae ganddynt rwymedigaeth hefyd i sicrhau bod cymunedau'n llwyddo i reoli'r asedau hyn yn y dyfodol, ac mae'r cynnig pitw o £60,000 yn un chwerthinllyd. Rwy'n gobeithio y byddant yn chwarae eu rhan gyda ni, a'u cynghorau lleol, i sicrhau bod y prosiect yn llwyddiant. Ni allwn gymryd cyfrifoldeb llawn am rwymedigaeth lawn y twnnel oddi wrth Highways England, ac ni allwn ariannu'r prosiect yn llawn, ac rwyf eisiau gwneud hynny'n glir i'r Aelodau. [Torri ar draws.] Mae arnaf ofn mai ychydig iawn o amser sydd gennyf. Ond byddwn yn gwneud ein rhan.
Yn 2015, comisiynwyd Sustrans—os caf orffen, Ddirprwy Lywydd; mae gennyf gyhoeddiad i'w wneud. Comisiynwyd Sustrans yn 2015 i wneud astudiaeth bwrdd gwaith o nifer o dwneli yn ne-ddwyrain Cymru i archwilio'r posibilrwydd o'u hailagor, a heddiw rwyf wedi gofyn i Sustrans ddiweddaru'r gwaith hwnnw, gan ddefnyddio'r gwaith a wnaed ar dwnnel y Rhondda a thwnnel Aber-nant yn y cyfamser. Byddant hefyd yn defnyddio mapiau rhwydwaith teithio llesol a data awdurdodau lleol o brosiectau tebyg, fel cynllun dau dwnnel Caerfaddon, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gostau gweithredu a chynnal a chadw hirdymor, sy'n hanfodol cyn inni fynd i'r afael â mater perchnogaeth.
Mae cyfle i greu partneriaeth agos gyda phartneriaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd, awdurdodau lleol, a phartneriaid twristiaeth, treftadaeth a hamdden i ymchwilio i'r posibilrwydd o ailagor y strwythurau. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y gwersi y gallwn eu dysgu o'r profiad o ailagor twnnel Combe Down, twnnel 1 filltir o hyd, ger Caerfaddon yn 2013. Arweiniwyd y prosiect hwnnw gan Sustrans ac roedd angen swm sylweddol o arian y loteri i'w ailagor. Rwyf wedi cael sgwrs gychwynnol gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ariannu prosiect tebyg yn ne Cymru. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a minnau wedi cytuno ar y cyd i ariannu Sustrans i arwain cais partneriaeth ar gyfer sicrhau cyllid allanol ar gyfer ailagor a chynnal twnnel y Rhondda a thwnnel Aber-nant. Yn amlwg, byddai angen i'r cyllid ddod o ystod eang o ffynonellau a'r unig ffordd o gyflawni hynny yw drwy sicrhau bod ystod eang o gyrff yn gweithio gyda'i gilydd, ac mae hyn yn cynnwys y gymuned, ac rwy'n talu teyrnged iddi eto am hyrwyddo'r achos hwn. Rwy'n credu bod pethau ymarferol y gallwn eu gwneud, Ddirprwy Lywydd, i wneud y cyfle hwn yn un go iawn, ond nid yw'n hawdd, ac ni allwn ei wneud ar ein pennau ein hunain.
Diolch. Galwaf ar David Rees i ymateb i'r ddadl hon.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi yn gyntaf ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd, ac nid yr Aelodau hynny a gyfrannodd heddiw yn unig, ond hefyd y rhai sydd wedi cyfrannu mewn dadleuon eraill ar dreftadaeth ddiwydiannol? Oherwydd rydych chi i gyd wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o amlygu sut y mae treftadaeth ddiwydiannol yn bwysig i ni, a sut y gall helpu i adfywio cymunedau ledled Cymru. Tynnodd Mark sylw at y nifer fawr o safleoedd sy'n bodoli yng ngogledd Cymru, ac sydd wedi bod o fudd i'r cymunedau hynny, a symud ymlaen. Cefais fy atgoffa gan Leanne fod angen i mi ddatgan fy mod yn aelod o Gymdeithas Twnnel y Rhondda hefyd, ond mae'n dangos bod y twnnel yn effeithio ar ddau gwm mewn gwirionedd, a pha mor bwysig y gall fod i'r ddau gwm. Nid yw'n ymwneud â theithio llesol yn unig, ond mae'n rhan o'r gymysgedd. Gall teithio llesol chwarae rhan ynddo, ond mae hefyd—. Gallwn ei archwilio ar gyfer twristiaeth a cherdded a phopeth arall. Mae'r twnnel hwnnw'n cynnig cyfuniad o bethau; fe ddychwelaf at dwnnel y Rhondda tuag at y diwedd pan fydd gennyf amser.
Atgoffodd Vikki ni o un peth: pan fyddwn yn sôn am ein hanes—ac roedd ychydig o'r ddadl yn ymwneud â'n hanes ni hefyd—mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio ochr negyddol yr hanes hwnnw, sef yr effaith gymdeithasol ar ein cymunedau, lle y cawsom ein hysbeilio, yn y bôn, am gyfoeth a ai i nifer fach o bobl. Ac mae hynny hefyd yn rhan o hanes ein treftadaeth yr hoffem atgoffa pobl amdani. Nid yw'n fater syml o ddweud, 'Hei, edrychwch arnom ni—edrychwch ar y cyfleusterau gwych a gawsom.' Edrychwch ar y cymunedau a'r bywydau cymdeithasol a oedd ganddynt, a'r heriau y bu'n rhaid iddynt eu hwynebu tra bod yr arian yn mynd i ychydig iawn o bobl. Mae hynny'n ein hatgoffa'n gryf o dreftadaeth ddiwydiannol ar draws de Cymru a gogledd Cymru.
Soniodd Alun am afonydd. Nid oes unrhyw ffordd y byddech yn gallu teithio ar gwch i lawr afon Afan i ddechrau, ond tynnodd sylw at y ffaith bod amryw o seilweithiau'n bodoli. Nid hen reilffyrdd yn unig yw'r rhain—maent yn cynnwys camlesi, afonydd a mathau eraill yn ogystal, ac mae hynny'n bwysig iawn. Ond atgoffodd ni hefyd o un peth y mae'n ymddangos ein bod wedi'i anghofio—sef bod ein treftadaeth ddiwydiannol, mewn gwirionedd, yn arfer cysylltu ein cymunedau â'i gilydd i raddau helaeth iawn. A phan fyddwch yn gwrando ar y ddadl y prynhawn yma, rwy'n credu eich bod yn clywed hynny, mewn gwirionedd, yng nghyfraniadau'r Aelodau, o ran sut y daeth â'r cymunedau hynny at ei gilydd a sut y gwelwn hynny. Oherwydd tynnodd Rhianon sylw at y gwaith yng Nghrymlyn, pwll glo Navigation yng Nghrymlyn, a bodolaeth—. Wel, tynnodd sylw, mewn gwirionedd, at ba mor falch oedd y gymuned honno o'r adeilad hwnnw hefyd. Felly, mae'n ymwneud â mwy nag adfywio economi ein cymunedau—mae'n ymwneud ag adfywio ein cymunedau hefyd, a rhoi bywyd newydd iddynt.
A dangosodd Mick—hen reilffyrdd—ein bod wedi bod yn sôn am reilffyrdd a phethau eraill at ddibenion gwahanol mewn gwirionedd. Mae Mick eisiau mynd yn ôl at y diben gwreiddiol: ei droi'n rheilffordd eto fel y gallwn gael trafnidiaeth gyhoeddus i weithio. Ac nid oes dim o'i le ar hynny—dyna'n union y dylem fod yn edrych arno. Oherwydd mae'n rhoi—. Unwaith eto, mae'r seilwaith yn rhoi cyfle i ni ei ddefnyddio at ddibenion fel hwnnw.
A gaf fi ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei gyfraniad, yn enwedig diwedd y cyfraniad, pan dynnodd sylw at y ffaith ei fod yn bwriadu creu tîm gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog tai i edrych ar sut y gallwn wneud y gwaith hwnnw? Rwy'n siomedig nad yw wedi cymryd perchnogaeth. Rwy'n deall y dadleuon am atebolrwydd, ond rwy'n siomedig. Roeddwn wedi gobeithio y byddent yn edrych ar y cwestiwn perchnogaeth. Ond os yw wedi dod i'r casgliad bod angen iddynt edrych yn ofalus iawn ar sut y gallant gefnogi cymdeithasau fel Cymdeithas Twnnel y Rhondda—. Oherwydd gadewch i ni gofio un peth—rydym wedi sôn am wahanol sefydliadau ac amryw o safleoedd heddiw, sy'n cael eu cynnal yn bennaf gan wirfoddolwyr yn eu cymuned. Ac felly mae'n bwysig ein bod yn edrych ar sut y gallwn gefnogi'r gwirfoddolwyr hynny a'r mudiadau cymunedol hynny. Ac rwy'n croesawu ei sylwadau diwethaf ar hynny a sut y mae'n bwriadu gwneud hynny. Ac mae'n hollol iawn—nid yw'n digwydd dros nos. Mae'n digwydd dros amser. Mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda wedi bod wrthi ers ychydig o flynyddoedd, felly mae gennym rywfaint o'r amser hwnnw y tu ôl i ni eisoes. Mae hefyd yn iawn ynglŷn â'r mapiau teithio llesol, ond pan fydd Sustrans yn edrych ar hyn, rwy'n awyddus iddynt beidio ag edrych ar y mapiau teithio llesol presennol, oherwydd nid ydynt yn wych. Mewn gwirionedd, os edrychwch ar un cwm Afan, mae rhan fawr o lwybr beicio cwm Afan heb ei gynnwys ar y map teithio llesol, a dylai fod wedi cael ei gynnwys, oherwydd mae pobl yn ei ddefnyddio at ddibenion hamdden ac i deithio i'r gwaith; nid yw ar gyfer dibenion hamdden yn unig. Felly, rydym angen hynny. Ac mae hefyd yn iawn i ddweud bod angen newid diwylliannol.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau heddiw. Mae hon yn ddadl sydd wedi ein hatgoffa o'n gorffennol, yn ogystal â'r rôl bwysig y mae'r gorffennol yn gallu ei chwarae yn ein dyfodol os oes gennym uchelgais a gweledigaeth i fwrw ymlaen ag ef. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.