Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 2 Hydref 2019.
Mae gogledd Cymru wedi'i bendithio â rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o seilwaith diwydiannol hanesyddol. Mae'r arwyr a anghofir yn rhy aml mewn grwpiau lleol sy'n ymdrechu i fanteisio i'r eithaf ar yr adfywio economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil y seilwaith hwn yn haeddu cydnabyddiaeth a chefnogaeth. Maent yn brwydro bob dydd gyda'r heriau ymarferol ac ariannol o sicrhau y gall seilwaith o'r fath gael ei ddefnyddio gan y gymuned unwaith eto. Yn hytrach na pherchnogaeth Llywodraeth Cymru, maent yn chwilio am bartneriaeth wirioneddol â Llywodraethau wrth archwilio a darparu'r cyfleoedd ymarferol ar gyfer ailagor seilwaith o'r fath.
Traphont ddŵr Pontcysyllte yw'r draphont ddŵr hiraf ym Mhrydain a'r draphont ddŵr camlas uchaf yn y byd. Ar ôl ennill statws treftadaeth y byd yn 2009, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn creu gweithgor i sefydlu gogledd-ddwyrain Cymru fel cyrchfan ar gyfer ymwelwyr o gwmpas y draphont ddŵr, gyda'r trydydd sector wedi'i gynrychioli gan Glandŵr Cymru, yr ymddiriedolaeth gamlesi ac afonydd. Rydym yn dal i aros ddegawd yn ddiweddarach, ac mae grwpiau treftadaeth eraill y trydydd sector yn dweud wrthyf nad ymgysylltwyd â hwy.
Wrth siarad yma y llynedd, cyfeiriais at bennod olaf cyfres Great Rail Restorations a ymddangosodd ar Channel 4, rhaglen a hyrwyddai'r rheilffordd wych rhwng Llangollen a Charrog, ond mae bellach yn mynd i Gorwen hefyd, ac ymdrechion pawb a oedd yn rhan o'r ymddiriedolaeth wirfoddol. Fel y dywedais ar y pryd, rydym angen cynnig twristiaeth cydgysylltiedig, gyda thocynnau drwodd i alluogi ymwelwyr rhanbarthol i ymestyn eu harosiadau a chael yr amser gwych y gwyddom y gallant ei gael.
Mae Rheilffordd Llangollen wedi dweud dro ar ôl tro eu bod yn dymuno cynnig tocynnau ar y cyd â'r cwmnïau bysiau a rheilffyrdd eraill yn eu hardal. Mae eu cynigion ar gyfer tocynnau drwodd hefyd yn ymwneud â rheoli cyrchfannau yn ehangach a chyrchfannau sy'n datblygu profiad ymwelwyr drwy bartneru gyda lleoliadau eraill ac atyniadau treftadaeth ddiwydiannol yn y rhanbarth. Mae Rheilffordd Llangollen yn un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal a'r unig reilffordd dreftadaeth led safonol yng ngogledd Cymru. Maent yn ymestyn y rheilffordd i Gorwen ac yn adeiladu gorsaf newydd yno fel eu terfynfa orllewinol, a fydd yn helpu i agor tref Corwen i fwy o ymwelwyr ac yn helpu pobl leol i deithio rhwng Llangollen a Chorwen. Arweiniwyd y prosiect hwn yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr gyda chymorth proffesiynol yn ôl yr angen.
Roedd tramffordd dyffryn Glyn yn rheilffordd gul a gysylltai'r Waun â Glyn Ceiriog ac mae ymddiriedolaeth tramffordd dyffryn Glyn yn gweithio tuag at ailsefydlu'r dramffordd o'r Waun. Wrth siarad yma yn 2014, ac eto y llynedd, gelwais ar Lywodraeth Cymru i ystyried cefnogi cynlluniau i ailagor y rheilffordd o'r Gaerwen i Langefni fel cyswllt treftadaeth. Fis diwethaf, ymwelais â Welsh Slate ym Methesda, sy'n dyddio'n ôl dros 400 o flynyddoedd. Ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi gweithio gydag ymddiriedolaeth a grŵp treftadaeth Brymbo, sy'n gweithio i hyrwyddo hanes diwydiannol Brymbo ac ardaloedd cyfagos a datblygu'r safle fel atyniad i ymwelwyr, gan gynnwys adeiladau craidd y gwaith haearn a choedwig ffosil Brymbo.
Mae Shotton Point yn rhan bwysig o dreftadaeth Glannau Dyfrdwy, yn enwedig mewn perthynas â chynhyrchu dur. Roedd y Gymdeithas Fictoraidd yn cynnwys hen swyddfa gwaith dur John Summers, gan gynnwys ei thŵr cloc rhestredig gradd II eiconig, ar eu rhestr 10 uchaf ar gyfer adeiladau a oedd mewn perygl yn 2018. Yn ddiweddar, ymwelais â sefydliad dielw Enbarr yn Queensferry i drafod eu prosiect safle cyffrous yn John Summers, Shotton Point, sy'n dod â phobl leol, busnesau a mudiadau cymunedol at ei gilydd i gynllunio, datblygu ac adeiladu dyfodol y safle.
Roedd yr ardal rhwng Wrecsam a'r Wyddgrug, lle rwy'n byw, yn cynnwys llawer o byllau glo ar un adeg. Mae canolfan dreftadaeth glowyr Llai wedi ymroi i adrodd hanes y diwydiant glo yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae Fforwm Treftadaeth Gogledd Ddwyrain Cymru yn dathlu, yn gwarchod ac yn hyrwyddo treftadaeth gyfoethog y rhanbarth, a mynychais eu ffair dreftadaeth yn Wrecsam ar 27 Gorffennaf. Bu'r Rhufeiniaid yn cloddio plwm yn Helygain, cloddiwyd am dywodfaen yng Ngwespyr ac mae mentrau diwydiannol yn nyffryn Maes-glas, yn amrywio o gopr i gotwm, yn darlunio'r chwyldro diwydiannol. Rwy'n cymeradwyo'r teithiau treftadaeth drwy ddyffryn Maes-glas ac ymweliadau â'i barc treftadaeth. Hefyd, mynychais ddiwrnod hanes Grŵp Treftadaeth Llaneurgain ar 21 Medi, a oedd yn amrywio o lwybrau dyddiau'r goetsh fawr i wneud brics, ym Mwcle.
Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd perfformiadau Theatr Clwyd o derfysgoedd yr Wyddgrug 150 o flynyddoedd yn ôl yn cofio'r aflonyddwch cymdeithasol ar ôl i ddau löwr gael eu dedfrydu i garchar am ymosod ar reolwr pwll glo Leeswood Green, digwyddiad a ddylanwadodd ar ddyfodol plismona aflonyddwch cyhoeddus ar draws Prydain. Gyda'i gilydd, dengys hyn oll ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru droi geiriau'n gamau gweithredu drwy ddod â phŵer yr holl bobl hyn at ei gilydd i ddatgloi'r potensial ar gyfer adfywio rhanbarthol a arweinir gan y dreftadaeth ddiwydiannol. Diolch yn fawr.