7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:38, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ac rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i ac yn enwau Leanne Wood a Vikki Howells. Cyn i mi ddechrau, rwy'n ymddiheuro am fy llais—yn anffodus, fel y gallech fod wedi'i ddyfalu, nid wyf wedi bod yn dda yn ddiweddar, ond rwyf am fwrw ymlaen.

Nawr, mae Cymru'n genedl a chanddi hanes gwych. Ac mae gennym lawer o adeiladau o'r oesoedd canol sy'n adlewyrchu'r hanes hwnnw—boed yn gestyll niferus sydd i'w gweld o hyd, neu'r nifer o safleoedd crefyddol ledled ein gwlad. Ond symudwn ymlaen ychydig gannoedd o flynyddoedd ac mae gennym dreftadaeth ddiwydiannol enfawr a rhyfeddol hefyd, yn enwedig o adeg pan oedd Cymru'n gyrru allforion pwysig fel glo, copr, haearn a dur. Ond nid yr adeiladau a gynhyrchodd yr allforion hynny yn unig—y pyllau glo a'r gwaith haearn, ac ati—sy'n ein hatgoffa o'r gorffennol diwydiannol hwnnw, ond hefyd y seilwaith a roddwyd yn ei le i ganiatáu i'r cynhyrchion hynny gael eu cludo. Nawr, mae rhywfaint o'r seilwaith hwnnw i'w weld o hyd. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, gallwn weld bwâu enfawr traphont y rheilffordd a'r draphont ddŵr, ym Mhontrhyd-y-fen, neu saith bwa'r bont yn y Cymer. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau, pan fyddant yn siarad y prynhawn yma, yn tynnu sylw at strwythurau ac adeiladau o'r fath yn eu hetholaethau eu hunain. Ac rydym i gyd yn adnabod rhai ohonynt, boed yn draphont Pontcysyllte, Big Pit, neu'r gwaith haearn ym Merthyr. Ond yn ogystal â'r agweddau gweladwy ar ein treftadaeth ddiwydiannol yr adferwyd llawer ohonynt a'u hailsefydlu ar gyfer twristiaeth neu gerdded a seiclo, mae llawer o agweddau ar ein treftadaeth ddiwydiannol sy'n anweledig—pyllau glo sydd wedi'u cau, llwybrau hen reilffyrdd wedi'u tynnu, camlesi sydd wedi tyfu'n wyllt, a rhwydwaith enfawr o dwneli, yn ogystal ag enghreifftiau eraill o seilwaith a fu ar un adeg yn cario cyfoeth Cymru i'n porthladdoedd i'w ddosbarthu ledled y byd.  

Mae dirywiad ein gorffennol diwydiannol wedi effeithio ar y rhain ledled Cymru, ac yn enwedig yng Nghymoedd de Cymru. At hynny, mae'r camau a gymerwyd yn dilyn adroddiad Beeching yn y 1960au, gan gynnwys lleihau rhwydwaith y llwybrau ac ailstrwythuro'r rheilffyrdd ledled y DU—ac nid oedd hynny'n boblogaidd, cofiwch, oherwydd arweiniodd llawer o brotestiadau at achub rhai o'r gorsafoedd a'r rheilffyrdd hynny mewn gwirionedd, ond caewyd y mwyafrif yn ôl y bwriad, ac mae enw Beeching yn parhau i fod yn gysylltiedig â chau rheilffyrdd ar raddfa fawr a cholli llawer o wasanaethau lleol yn y cyfnod a ddilynodd. Nawr, mae rhai o'r llwybrau hyn wedi ailagor ers hynny. Mae rhai rhannau byr wedi'u cadw fel rheilffyrdd treftadaeth—rheilffordd Gwili, rheilffordd Mynydd Brycheiniog, i enwi ond ychydig ohonynt yng Nghymru—rheilffordd Colwyn, Llangollen. Mae eraill wedi'u hymgorffori mewn rhwydweithiau beicio a cherdded, ac mae'r gweddill naill ai wedi'u troi nôl yn ffermdir naturiol neu'n dal i fod yn ddiffaith.

Nawr, un o'r rheilffyrdd yr effeithiwyd arni gan doriadau Beeching oedd rheilffordd bae Abertawe i'r Rhondda. Pan oedd yn weithredol, roedd y llwybr hwn yn mynd drwy fy etholaeth, o Lansawel, ac mae'n bosib nad yw pobl yn sylweddoli ei fod yn arfer bod yn borthladd enfawr ar un adeg, yn mynd drwy Bort Talbot ac Aberafan i fyny cwm Afan, lle roedd yn rhannu'n nifer o lwybrau eraill. Nawr, roedd y llwybrau hyn angen twneli niferus yn aml, i'w galluogi i deithio i fyny'r cwm a rhwng cymoedd. Mae'r rhan fwyaf bellach yn segur ac wedi'u cau, gan gynnwys twnnel y Gelli, twnnel y Gilfach, twnnel y Cymer i Gaerau, ac un o'r twneli hiraf yn y DU, twnnel y Rhondda, sy'n rhedeg rhwng Blaengwynfi a Blaen-cwm, ac ar y sgriniau fe welwch luniau o rai o nodweddion y twnnel penodol hwnnw. Nawr, caniataodd y rheilffordd honno inni ymuno â'r rheilffyrdd yng nghwm Rhondda. Ac felly mae angen i ni edrych ar seilwaith diwydiannol ledled Cymru fel cyfle i fod yn uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Ni ddylem golli golwg ar yr hyn y mae'r seilweithiau hyn yn ei gynnig i ni.  

Nawr, bydd gweddill fy nghyfraniad y prynhawn yma yn canolbwyntio ar y trysorau cudd hyn, ac yn arbennig, twnnel y Rhondda, sy'n gallu cynnig cyfleoedd i gymunedau lleol gael budd o'u hadfywio. Ac mae twnnel y Rhondda yn 3,443 llath o hyd, neu ychydig o dan 2 filltir, 1,000 o droedfeddi o dan y ddaear ar ei ddyfnaf, gyda siafft awyru 58 troedfedd. Ac roedd yn waith enfawr, a chefais fy ngollwng i lawr i'r twnnel drwy'r siafft awyru mewn gwirionedd, a gallwch weld y beirianneg Fictoraidd wych a'i hadeiladodd. Fe'i hadeiladwyd rhwng 1885 a 1890, a'i hagor yn swyddogol ym 1890, ac roedd yn elfen hanfodol o'r rheilffordd honno, gan gysylltu pyllau glo'r Rhondda â'r porthladdoedd a bae Abertawe. Daeth hefyd yn llwybr i deithwyr yn ddiweddarach. Felly, cawsom gyfle, wrth i amser fynd yn ei flaen, nid yn unig i gael rheilffordd ddiwydiannol, ond rheilffordd i deithwyr hefyd, i ganiatáu'r cysylltiad hwnnw rhwng y ddwy gymuned. Mewn gwirionedd, roedd y rheilffordd yn llinell ddeuol—os ydych yn gwybod llawer am reilffyrdd—roedd y twnnel ei hun yn llinell sengl ond roedd yn ddeuol yn y ddau ben.  

Nawr, yn anffodus, ym 1968, gwnaed penderfyniad i gau'r twnnel dros dro, gan fod angen gwaith i'w atgyweirio. Ond ym mis Rhagfyr 1970, penderfynodd yr Adran Drafnidiaeth gau'r twnnel hwnnw'n barhaol, gan ddweud bod y costau atgyweirio yn waharddol—roedd yn rhyfedd sut roedd yn cyd-daro, mewn gwirionedd, â'r cynlluniau i gau gorsafoedd Blaengwynfi a Blaenrhondda fel rhan o doriadau Beeching. Ni allwn ond tybio mai cyd-ddigwyddiad yn unig ydoedd. Felly, digwyddodd hynny, ac ym 1980, o ganlyniad, caewyd y ddau ben a'u blocio i atal pobl rhag mynd i mewn heb ganiatâd. Oherwydd gwyddom fod yn rhaid iddynt gael eu diogelu, gan fod llawer o blant yn tueddu i gerdded i mewn i lefydd fel twneli fel profiad cyffrous ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn eu hamddifyn a'u diogelu.  

Nawr, mae bron i 130 o flynyddoedd wedi bod ers agor y twnnel hwnnw. Dyma'r twnnel segur hiraf yng Nghymru, ac mae Cymdeithas Twnnel y Rhondda—gwn fod rhai o'r aelodau yn yr oriel y prynhawn yma—wedi sefydlu eu hunain ac mae ganddynt weledigaeth—gweledigaeth, Ddirprwy Weinidog, rwy'n ei rhannu gyda hwy; gweledigaeth a fydd yn sicrhau bod twnnel y Rhondda'n cael ei gadw ar gyfer dyfodol ein plant, gan ailgysylltu cwm Afan a'r Rhondda Fawr ar gyfer cerddwyr a beicwyr, nid yn unig ar gyfer pobl yn y ddau gwm, ond ar gyfer pobl eraill o fannau eraill a thu hwnt.