Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 2 Hydref 2019.
Mae'n rhaid i mi ddweud, pan ymddangosodd y ddadl hon ar y papur trefn, roedd teitl y ddadl yn ennyn fy chwilfrydedd ac rwyf wedi mwynhau'r cyfle a gawsom y prynhawn yma i rannu rhai o'n hatgofion, mewn rhai achosion, ond hefyd ein huchelgeisiau a'n dyheadau ar gyfer ailddyfeisio'r cymunedau rydym yn byw ynddynt. Oherwydd pan fyddaf yn meddwl am y bensaernïaeth ddiwydiannol a'r seilwaith diwydiannol y cefais fy magu gyda hwy, mae'n dweud cyfrolau am bwy ydym ni fel pobl heddiw.
Cefais fy magu, a mynychais yr ysgol, yng nghysgod gwaith haearn Sirhywi, un o'r gweithfeydd haearn mwyaf yng Nghymru pan gafodd ei sefydlu ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Roeddwn yn chwarae rygbi a phêl-droed ar gaeau yng nghysgod y naw bwa, a oedd, wrth gwrs, yn cario rheilffordd Blaenau'r Cymoedd o Dredegar i Ferthyr ac yna i lawr i'r Fenni. A'r hyn a wnaeth, wrth gwrs, oedd ein dysgu, nid yn unig am y grymoedd economaidd mawr, enfawr, byd-eang a luniodd economi de Cymru, ond hefyd fe'n dysgodd sut rydym wedi ein cysylltu â'n gilydd. Mewn llawer o wahanol ddadleuon gwleidyddol, credaf ein bod yn aml yn ceisio canolbwyntio ar y pethau sy'n ein rhannu, ond yr hyn y mae ein seilwaith diwydiannol yn ei ddweud wrthyf yw sut y mae pob un ohonom yn gysylltiedig â'n gilydd. Buom yn siarad mewn dadl yn gynharach yn y flwyddyn ynglŷn â'r modd y mae tramffordd Bryn Oer yn cysylltu Tal-y-bont yn sir Frycheiniog â Threfil a Thredegar, ond os edrychwch ar draws un neu ddau o'r Cymoedd tuag at Fryn-mawr, mae gennych dramffordd Disgwylfa hefyd, a oedd yn cario deunyddiau o chwareli Llangatwg yn sir Frycheiniog, unwaith eto, yn nyffryn Wysg, i Nant-y-glo, ac a ddefnyddiwyd wedyn gan Bailey i greu gwaith haearn Nant-y-glo. Mae'r rhain yn gysylltiadau pwysig sy'n bodoli heddiw. Rwy'n gallu beicio ar hyd tramffordd Bryn Oer, rwyf wedi cerdded ar hyd tramffordd Disgwylfa, a gallwch ddeall ein hanes a deall pwy ydym fel pobl a chymuned.
Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn yn ddigon lwcus i ymuno â grŵp o drigolion o Lanhiledd a oedd wedi ailagor lle o'r enw Granny's Wood. Nawr, enw'r nain dan sylw oedd Margaret Griffiths ac fe alluogodd hi ei hwyrion a'i hwyresau, a oedd yno yr wythnos diwethaf, fel mae'n digwydd, i chwarae ar ddarn o dir a oedd yn arfer bod yn rhan o chwarel Llanhiledd gynt. Os cerddwch i lawr—ni allwch ddod o hyd iddo oni bai eich bod yn chwilio amdano—o'r hen olchfeydd pen pwll i ble'r oedd y siafftiau, yr hen ben pyllau i lawr ffordd Burma, fel roeddent yn ei disgrifio, lle byddai'r glowyr yn cerdded ar hyd-ddi, wrth gwrs, ar ddiwedd y sifft, ac yna ar hyd y llwybr y byddai'r glowyr yn cerdded arno i ac o'r gwaith pan oedd pyllau Llanhiledd ar eu hanterth, wrth gwrs, byddai cannoedd o ddynion wedi bod yn cerdded yn ôl ac ymlaen yno bob dydd. Heddiw, mae'n rhan heddychlon a thawel o'n treftadaeth a'n lleoedd a ail-ddarganfuwyd gennym, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau, fel rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd, fod y profiadau hyn, y lleoedd hyn, yr hanesion hyn a'r cysylltiadau hyn yn dod yn rhan o bwy ydym am fod yn y dyfodol hefyd.
Mae deall hanes, yn fy marn i, yn gwbl hanfodol i ddyfodol polisi cyhoeddus. Pan fyddaf yn meddwl am y ffordd y mae'r tramffyrdd, y rheilffyrdd a'r ffyrdd hyn wedi ein cysylltu, rwyf hefyd yn meddwl am rywbeth arall, sy'n fath llawer hŷn o drafnidiaeth wrth gwrs, sef ein hafonydd. Nid ydynt wedi cael eu crybwyll yn y ddadl y prynhawn yma, ac anaml iawn y crybwyllir ein hafonydd, yn enwedig yn ne Cymru, ond os siaradwch chi byth â'r Cynghorydd Malcolm Cross yn Nhredegar, bydd yn sôn sut y mae'n credu mai afonydd de Cymru yw'r ased rydym wedi'i esgeuluso fwyaf. Ac a wyddoch chi beth? Rwy'n credu ei fod yn iawn. Os edrychwch ar Vale Terrace yn Nhredegar, mae wedi'i adeiladu i wynebu'r afon oherwydd mai'r afon honno oedd un o'r prif fathau o drafnidiaeth ar y pryd, cyn i ni ddechrau defnyddio camlesi a—. Fe dderbyniaf ymyriad.