7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:45, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'm cyd-Aelod, yr Aelod dros Ogwr, am dynnu sylw at y twneli amrywiol sy'n bodoli? Mae'r twnnel o Caerau i'r Cymer, yn amlwg, yn un o'r rhai y soniais amdanynt yn gynharach. Mae'n un o'r twneli yn y Cymoedd sydd wedi'u hystyried yn ofalus iawn. Fe dynnoch chi sylw at y pwynt, mewn gwirionedd, ei fod yn ymwneud â mwy na'r hyn y gallwn ei wneud pan fyddwn yn adnewyddu'r twneli hynny, mae hefyd yn ein hatgoffa am hanes y twneli hynny a'r technegau a'r dechnoleg a ddefnyddiwyd i'w datblygu.

Nawr, mae'r gallu i gynnig profiad a fydd yn caniatáu i bobl ddefnyddio'r seilwaith beicio a cherdded sy'n bodoli eisoes—a siaradodd yr Aelod am feicio yn ei ddatganiad 90 eiliad heddiw mewn gwirionedd—dylem fachu ar y weledigaeth a'r cyfle hwnnw. Mewn perthynas â chwm Afan, byddai'n cynnwys annog beicwyr i deithio ymhellach i lawr y cwm—i lawr at y traeth gwych 3 milltir o hyd sydd gennym, a pharc Margam, ac os ydynt yn anturus iawn, gallent feicio ar hyd ardal bae Abertawe, yr holl ffordd i'r Mwmbwls. Ond mae'n cynnig cyfle y mae'n rhaid i ni fanteisio o ddifrif arno. Mae'r cyfleoedd yn ddiddiwedd, mae'r posibiliadau'n niferus, a gall y prosiect hwn roi bywyd newydd i gwm lle mae pobl yn aml yn teimlo eu bod wedi'u datgysylltu a'u hanghofio.  

Rwyf fi a llawer o bobl eraill yn rhagweld y bydd y twnnel yn ganolbwynt i ddigwyddiadau beicio a rhedeg, a chafwyd enghreifftiau o'r rhain: mae twneli Caerfaddon yn un enghraifft, lle'r ydym wedi'u gweld yn cael eu defnyddio fel canolbwynt ar gyfer rasys 5K, 10K, hanner marathon a marathon llawn. Mae'n fwy na chyfle i gerdded neu feicio drwyddynt. Gellid eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau eraill, sy'n denu mwy i'r gymuned. Ras 10K Richard Burton, y byddaf yn ei hyrwyddo—ar 3 Tachwedd, gyda llaw, os ydych am roi cynnig arni—daw dros 1,000 o redwyr i fy mhentref ar y diwrnod hwnnw, ac maent yn aros. Ac mae hwn yn gyfle, unwaith eto, i edrych ar yr hyn y gall ei ddenu i gwm Rhondda a chwm Afan. Mae pobl yn aros ar gyfer yr ymweliadau hynny. Felly, mae'n ymwneud â mwy nag adfer twnnel; mae'n ymwneud â chynnig gweledigaeth newydd a phrofiad newydd i bobl leol ac ymwelwyr. Rwyf wedi gweld y ffigurau ar gyfer Caerfaddon, ac maent yn anhygoel. Ond i'r gymuned ehangach, gallai'r manteision sy'n deillio o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn fywiogi'r economi leol—gweithgaredd yr effeithiwyd yn ddifrifol arno ar ôl cau'r pyllau glo, a oedd ar y pryd yn darparu cymaint o waith i'r rhai oedd yn byw yn y cymunedau hynny.

Ceir heriau bob amser wrth adeiladu gweledigaeth o amgylch ein treftadaeth ddiwydiannol, ond yn yr achos hwn, mae un o'r heriau mwyaf yn deillio o berchnogaeth y twnnel hwn a thwneli eraill. Mae hyn wedi atal unrhyw ddatblygu pellach ar dwnnel y Rhondda am y tro. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn ogystal â chodi mater perchnogaeth yma yn y Siambr ar sawl achlysur, ac nid ydym yn nes at ddatrys y mater heddiw nag yr oeddem dair blynedd yn ôl. Rwy'n ddiolchgar am yr arian gan Lywodraeth Cymru, ac mae eisoes wedi cael effaith bwysig ar y prosiect hwnnw. Fodd bynnag, heb drosglwyddo perchnogaeth y twnnel o ddwylo'r Adran Drafnidiaeth i Gymru, mae'n bosibl fod hyn i gyd wedi bod yn ofer. Ni ellir dod o hyd i gyllid pellach o ffynonellau eraill—ac nid wyf yn gofyn am gyllid gan Lywodraeth Cymru—i gwblhau'r gwaith hyd nes y byddwn wedi mynd i'r afael â mater perchnogaeth.

Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn pryderu am faterion atebolrwydd. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi gofio, ar hyn o bryd, fod y twnnel wedi'i gau. Prin fod unrhyw faterion atebolrwydd yn codi pe bai mynydd yn disgyn i mewn arno a neb y tu mewn. Felly, nid oes llawer i boeni yn ei gylch ar hyn o bryd. Nawr, mewn llythyr ataf fi a'm cydweithiwr Stephen Kinnock AS, mae'r Farwnes Vere o Norbiton, sy'n Weinidog trafnidiaeth yn Llundain dros ffyrdd a diogelwch, yn datgan bod yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros drafnidiaeth wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn 2017 i ddweud y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn barod i drosglwyddo'r twnnel i berchnogaeth Llywodraeth Cymru a thalu'r swm o £60,000 i adlewyrchu'r arbedion ar gostau arolygon yn y dyfodol—cynnig sy'n dal yn agored i Lywodraeth Cymru yn ôl yr hyn a ddywedir wrthyf. Felly, efallai y bydd yr opsiynau i archwilio'r cyllid i ailagor y twnnel yn cael eu harchwilio ac mae angen inni edrych ar hyn o ddifrif.

Gadewch i ni gael y twnnel beicio hiraf yn Ewrop—yr ail hiraf yn y byd—yn agored i feicwyr a cherddwyr, nid yn unig ar gyfer teithio llesol ac nid yn unig ar gyfer twristiaeth, ond er mwyn adfywio ein cymoedd a sicrhau bod Caerdydd ar gael yn rhwydd i bobl yng nghwm Afan, oherwydd ar hyn o bryd, mae'n rhaid iddynt fynd i Faesteg a dal trên Maesteg. Oni fyddai'n braf pe gallent feicio drwy'r twnnel a dal trên yn Nhreherbert? Gadewch i ni fod yn flaengar a rhannu'r weledigaeth sydd gennyf fi a Chymdeithas Twnnel y Rhondda, ynghyd â llawer o rai eraill. Gadewch i ni gael uchelgais. Ddirprwy Weinidog, mae'r ddadl heddiw yn gyfle i chi rannu gweledigaeth gyda ni, gweledigaeth i adfywio cymunedau ledled Cymru, i rannu awydd fy nghymuned, cwm Afan, i agor y twnnel ar gyfer twristiaeth, datblygu economaidd a chyflogaeth. Gadewch i ni feddwl am y dyfodol. Gadewch inni gymryd ychydig o risg. Gadewch inni fod yn uchelgeisiol. Gadewch i ni sôn am y trysor sydd yng nghwm Afan er mwyn i genedlaethau'r dyfodol fwynhau a gwerthfawrogi hanes ein gorffennol diwydiannol.