Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 2 Hydref 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi longyfarch David Rees, Leanne Wood a Vikki Howells am gyflwyno'r ddadl hon? Fel y mae eu cynnig yn cydnabod, mae cryn botensial yn y rhwydwaith o seilwaith diwydiannol hanesyddol ledled Cymru, yn enwedig yr hen dwneli rheilffordd ar draws Cymoedd de Cymru, a all wasanaethu'r cymunedau o'u cwmpas unwaith eto, gan ddarparu seilwaith economaidd a chymdeithasol pwysig.
Ond fel y mae'r cynnig hefyd yn ei nodi, mae eu defnyddio eto yn creu heriau ymarferol ac ariannol real iawn. Ceir enghreifftiau llwyddiannus y gallwn eu nodi lle mae gwaddol ein gorffennol diwydiannol wedi'i harneisio er mwyn sicrhau manteision i ni heddiw. Mae rheilffordd Ffestiniog a thraphont ddŵr Pontcysyllte yn enghreifftiau o asedau treftadaeth eithriadol sy'n denu twristiaid ac yn creu gwaith yn lleol, yn ogystal ag adrodd hanes y gorffennol. Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi £7 miliwn o gyllid ar gyfer pyrth i Barc Rhanbarthol y Cymoedd a fydd yn ychwanegu at hynny hefyd. Wrth gwrs, ni chafodd y rhain eu hail-greu’n drysorau fel y maent heddiw dros nos, ond wrth inni edrych ar gyfleoedd eraill i ddod â gwaddol ein treftadaeth ddiwydiannol yn ôl yn fyw, mae angen i ni gofio na chafodd Blaenau Ffestiniog ei adeiladu mewn diwrnod.
Mae'r Aelodau wedi siarad yn llawn perswâd y prynhawn yma am y potensial sydd gan y rhwydwaith o hen dwneli rheilffordd ar draws de Cymru fel coridorau trafnidiaeth, fel y mae Mick Antoniw newydd ei grybwyll. Mae hen reilffyrdd eraill wedi cael bywyd newydd fel llwybrau cerdded a beicio. Mae llwybr Taf, er enghraifft, rhwng Aberhonddu a Chaerdydd, a llwybr Ystwyth, sy'n cysylltu Aberystwyth â Thregaron, yn enghreifftiau rhagorol.
Nid oes angen i unrhyw un fy mherswadio i gefnogi egwyddorion y cynnig. Yn wir, tua 10 mlynedd yn ôl, bûm yn rhan o'r ymarfer cwmpasu a oedd yn edrych ar botensial y twneli hyn i newid deinameg teithio rhwng y Cymoedd. Gall y llwybrau eithaf uniongyrchol a gwastad a dyllwyd drwy ein mynyddoedd gan beirianwyr â gweledigaeth i gario trenau yn yr oes ddiwydiannol helpu i ail-beiriannu'r ffordd y meddyliwn am deithio yn yr oes fodern. Efallai fod beic trydan dros fynydd Merthyr yn gofyn gormod gan y rhan fwyaf o bobl, ond mae llwybr cyflym, uniongyrchol oddi tano yn gais llawer mwy realistig—ond dim ond os yw'r twneli wedi'u cysylltu â rhwydwaith o lwybrau sy'n cysylltu cyrchfannau y mae pobl eisiau teithio iddynt. Wedi'r cyfan, mae teithio llesol yn ymwneud â beicio a cherdded yn cymryd lle ceir ar gyfer teithiau bob dydd. Er mwyn ymateb i her yr argyfwng yn yr hinsawdd, mae angen i ddewisiadau carbon isel neu ddi-garbon gymryd lle teithiau car cyn gynted â phosibl.
Mae'n rhaid i ni roi blaenoriaeth, felly, i fuddsoddi lle y gellir cael yr adenillion cyflymaf a mwyaf sylweddol. Yn aml, gallai gwrthlif dinod i lawr stryd unffordd neu balmant lletach newid amgylchedd i wneud cerdded a beicio yn opsiwn gweladwy. Mewn achosion eraill, yr hyn sydd ei angen yw ymyrraeth beirianyddol galetach fel llwybr beicio ar wahân ar brif ffordd i wahanu beiciau a cheir. Ar ôl beicio i lawr Ffordd Senghennydd yng Nghaerdydd yn ddiweddar, gallaf dystio i effaith ddramatig y lôn feicio ar wahân sy'n cael ei hadeiladu yno. Pan fydd y llwybr hwnnw wedi'i gwblhau, rwy'n siŵr y gwelwn gynnydd mawr iawn mewn beicio yn y rhan honno o'r ddinas.
Felly, mae angen y seilwaith cywir arnom yn y mannau cywir. Law yn llaw â hynny, rydym angen hyfforddiant a hyrwyddo er mwyn newid diwylliant. Wrth i ni edrych ar y gyfres o ymyriadau sydd eu hangen i gyflawni hyn, rwy'n sicr bod gan y rhwydwaith o hen dwneli ran i'w chwarae. Ond gydag adnoddau cyfyngedig, mae'n rhaid i ni flaenoriaethu. Mae'r cynnig heddiw yn gofyn i Lywodraeth Cymru gael perchnogaeth ar y rhwydwaith hwn o dwneli, a chwilio wedyn am gyfleoedd ariannu. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelodau na allaf gefnogi'r dull hwn o weithredu. Yn fy marn i, dyna'r ffordd anghywir o fynd o'i chwmpas hi. Byddai ysgwyddo rhwymedigaethau enfawr yr hen dwneli hyn yn galw am fuddsoddiad mawr iawn o ran arian a chapasiti ar adeg pan fo angen i ni ganolbwyntio ar sicrhau llwyddiannau cynnar i'r Ddeddf teithio llesol. Ynddynt eu hunain, ni fydd y twneli'n arwain at newid moddol, ac mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar hynny wrth i ni geisio cyrraedd ein targedau uchelgeisiol iawn ar gyfer lleihau carbon. Gallant chwarae rhan, ond mewn dull integredig yn unig.
Mae'r Ddeddf teithio llesol, a basiwyd gan y Siambr hon chwe blynedd yn ôl i'r wythnos hon, yn nodi dull o greu rhwydwaith o lwybrau—