Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 2 Hydref 2019.
Dof at hynny, os caf, wrth i mi wneud rhywfaint o gynnydd.
Felly, rydym bellach wedi cael y set gyntaf o fapiau teithio llesol ar gyfer ein trefi a'n pentrefi mwyaf, ac mae gennym swm rhesymol o arian cyfalaf i ddechrau adeiladu a gwella'r llwybrau hynny. Ac fel y mae pwyllgor economi'r Cynulliad wedi'i nodi, nid yw'r fersiynau cyntaf hyn o'r mapiau yn berffaith. Rwy'n benderfynol y bydd y fersiynau nesaf o'r cynlluniau, sydd i ddod ar ddechrau 2021, yn well ac yn seiliedig ar ymgysylltiad gwirioneddol â phobl na fyddai'n ystyried mynd ar feic ar hyn o bryd o bosibl.
Mae angen i'r twneli ymddangos ar y mapiau os ydynt yn seilwaith teithio llesol, a thwnnel Aber-nant yn unig sy'n ymddangos ar hyn o bryd. Ond er nad oes gan y rhan fwyaf o'r twneli botensial sylweddol ar gyfer teithio llesol, mae iddynt werth gwirioneddol serch hynny. Rwyf eisiau archwilio sut y gellir ariannu'r gwaith o addasu, yn ogystal â chynnal a chadw a'r rhwymedigaethau a ddaw gyda phob un. Mae dod o hyd i ddyfodol cynaliadwy ar gyfer strwythurau diwydiannol yn gallu bod yn heriol, yn enwedig os oes llygredd trwm ar y safle. Ond rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan, fel y gwn y mae llywodraeth leol. Yr wythnos diwethaf, siaradais â'r Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Rhondda Cynon Taf, a dywedodd wrthyf am y gwaith sylweddol y mae ei awdurdod eisoes wedi'i wneud i edrych ar agor twnnel y Rhondda, a'i ymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i oresgyn y rhwystrau ymarferol.
Er mwyn gwireddu potensial ein seilwaith diwydiannol hanesyddol, bydd yn rhaid i wahanol gyrff gydweithio, a bydd yn rhaid cydgysylltu agendâu gwahanol. Mae'n bosibl y byddai defnyddio'r hen dwneli rheilffordd, er enghraifft, yn gallu arwain at greu rhwydwaith o lwybrau sy'n cynnig cyfleoedd hamdden a thwristiaeth, yn ogystal ag adfywio ardal. Fel cadeirydd tasglu'r Cymoedd, mae hwnnw'n botensial rwy'n ei gydnabod yn llawn. Rwyf wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, sy'n cefnogi'r cynlluniau i ailagor y twneli, cynlluniau sy'n cyd-fynd â'i gynllun gweithredu arfaethedig ar gyfer twristiaeth yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac mae wedi cadarnhau wrthyf fod Croeso Cymru yn awyddus i fod yn rhan o unrhyw ddatblygiad, gan wneud yr achos twristaidd ar gyfer y prosiect. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yr un mor gefnogol i botensial ailagor y twneli ar gyfer adfywio cymunedau, ac ymwneud y gymuned oedd yr enghraifft fwyaf drawiadol yn yr ymgyrch ardderchog i ailagor twnnel y Rhondda. Mae'r uchelgais i greu'r llwybr cerdded a beicio hiraf drwy dwnnel rheilffordd yn Ewrop, a fyddai'n dod yn atyniad ynddo'i hun, yn un a gefnogwn, ac rydym yn cymeradwyo Cymdeithas Twnnel y Rhondda am eu gwaith. Ac rydym wedi gweithio gyda hwy i edrych ar ymarferoldeb agor y twnnel. Rydym wedi ariannu gwaith ar achos busnes lefel uchel ar gyfer y prosiect, yn ogystal â darparu cyllid ar gyfer datblygu achos busnes newydd, asesiad ecolegol, a gwella mynediad at y twnnel er mwyn gallu gwneud gwaith arolygu. Felly, rydym wedi gwneud cryn dipyn, ond hyd yma, nid yw Llywodraeth y DU na Highways England wedi cynnig unrhyw gyllid y tu hwnt i'r swm symbolaidd o £60,000, y soniodd rhai o'r Aelodau amdano gan awgrymu ei fod yn sylweddol. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthynt nad yw hynny'n wir.
Ar hyn o bryd, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r twnnel yn y tymor hir. Byddai trosglwyddo'r atebolrwydd hwnnw o fudd iddynt, ond mae ganddynt rwymedigaeth hefyd i sicrhau bod cymunedau'n llwyddo i reoli'r asedau hyn yn y dyfodol, ac mae'r cynnig pitw o £60,000 yn un chwerthinllyd. Rwy'n gobeithio y byddant yn chwarae eu rhan gyda ni, a'u cynghorau lleol, i sicrhau bod y prosiect yn llwyddiant. Ni allwn gymryd cyfrifoldeb llawn am rwymedigaeth lawn y twnnel oddi wrth Highways England, ac ni allwn ariannu'r prosiect yn llawn, ac rwyf eisiau gwneud hynny'n glir i'r Aelodau. [Torri ar draws.] Mae arnaf ofn mai ychydig iawn o amser sydd gennyf. Ond byddwn yn gwneud ein rhan.
Yn 2015, comisiynwyd Sustrans—os caf orffen, Ddirprwy Lywydd; mae gennyf gyhoeddiad i'w wneud. Comisiynwyd Sustrans yn 2015 i wneud astudiaeth bwrdd gwaith o nifer o dwneli yn ne-ddwyrain Cymru i archwilio'r posibilrwydd o'u hailagor, a heddiw rwyf wedi gofyn i Sustrans ddiweddaru'r gwaith hwnnw, gan ddefnyddio'r gwaith a wnaed ar dwnnel y Rhondda a thwnnel Aber-nant yn y cyfamser. Byddant hefyd yn defnyddio mapiau rhwydwaith teithio llesol a data awdurdodau lleol o brosiectau tebyg, fel cynllun dau dwnnel Caerfaddon, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o gostau gweithredu a chynnal a chadw hirdymor, sy'n hanfodol cyn inni fynd i'r afael â mater perchnogaeth.
Mae cyfle i greu partneriaeth agos gyda phartneriaid Parc Rhanbarthol y Cymoedd, awdurdodau lleol, a phartneriaid twristiaeth, treftadaeth a hamdden i ymchwilio i'r posibilrwydd o ailagor y strwythurau. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y gwersi y gallwn eu dysgu o'r profiad o ailagor twnnel Combe Down, twnnel 1 filltir o hyd, ger Caerfaddon yn 2013. Arweiniwyd y prosiect hwnnw gan Sustrans ac roedd angen swm sylweddol o arian y loteri i'w ailagor. Rwyf wedi cael sgwrs gychwynnol gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ariannu prosiect tebyg yn ne Cymru. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a minnau wedi cytuno ar y cyd i ariannu Sustrans i arwain cais partneriaeth ar gyfer sicrhau cyllid allanol ar gyfer ailagor a chynnal twnnel y Rhondda a thwnnel Aber-nant. Yn amlwg, byddai angen i'r cyllid ddod o ystod eang o ffynonellau a'r unig ffordd o gyflawni hynny yw drwy sicrhau bod ystod eang o gyrff yn gweithio gyda'i gilydd, ac mae hyn yn cynnwys y gymuned, ac rwy'n talu teyrnged iddi eto am hyrwyddo'r achos hwn. Rwy'n credu bod pethau ymarferol y gallwn eu gwneud, Ddirprwy Lywydd, i wneud y cyfle hwn yn un go iawn, ond nid yw'n hawdd, ac ni allwn ei wneud ar ein pennau ein hunain.