8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Deintyddiaeth yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:35, 2 Hydref 2019

Daeth contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol y gwasanaeth iechyd i rym yn 2006 yng Nghymru a Lloegr. Mae'r contract yn talu swm blynyddol i ddeintyddion am eu gwaith gwasanaeth iechyd drwy system uned o weithgaredd deintyddol. Mae'r system hon yn cynnwys tri band sy'n pennu faint mae’n rhaid i glaf dalu am ei driniaeth a faint sydd wedyn yn cael ei dalu i’r practis deintyddol. Mae'r taliad yr un peth p'un ai yw deintydd yn gwneud un neu fwy o driniaethau tebyg. Clywodd y pwyllgor nad oes cymhelliant i ddeintyddion gymryd cleifion ag anghenion uchel, felly, gan y byddent yn cael yr un swm am wneud mwy o waith. Mae gan hyn oblygiadau clir o ran mynediad at ddeintyddiaeth yng Nghymru. Dŷn ni'n pryderu y gallai'r system uned o weithgaredd deintyddol fod yn annog deintyddion i beidio â chymryd cleifion ag anghenion uchel, yn enwedig lle mae mynediad at wasanaethau deintyddol eisoes yn waeth yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau yn y gorffennol i'r model unedau gweithgaredd deintyddol, gan ddefnyddio cynlluniau peilot i brofi gostyngiad yn nhargedau’r unedau i roi mwy o hyblygrwydd a lle i ddeintyddion wneud gwaith ataliol. Fodd bynnag, fe wnaethon ni glywed pryderon clir gan ddeintyddion eu hunain nad yw'r newidiadau i gontractau deintyddol dros y ddegawd diwethaf wedi cael llawer o effaith. Dyna pam mai argymhelliad cyntaf y pwyllgor yw disodli system gyfredol y targedau unedau gweithgaredd deintyddol, a gosod system fwy priodol a hyblyg yn ei lle ar gyfer monitro canlyniadau. Bydd y system newydd hon yn canolbwyntio ar ansawdd triniaeth ac atal problemau. Rwy’n edrych ymlaen at gael y diweddaraf gan y Gweinidog ym mis Tachwedd am y maes gwaith hwn.

Fel rhan o'r contract deintyddol, mae deintyddfeydd yn cael eu gwerthuso ar yr unedau gweithgaredd deintyddol y maen nhw’n eu cyflawni yn erbyn eu lwfans dan gontract o unedau sy’n cael eu dyrannu gan eu bwrdd iechyd. Mae'r contract yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd dalu practisau deintyddol 100 y cant os ydynt wedi cyflawni o leiaf 95 y cant o'u gweithgaredd cytundebol, fel sy’n cael ei fynegi yn eu hunedau gweithgaredd deintyddol. Dyma ganran y gweithgaredd y mae'n rhaid ei gyflawni os nad yw’r practis am weld y bwrdd iechyd yn bachu arian yn ôl. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth nad yw'r byrddau iechyd yn ail-fuddsoddi’r holl arian sy’n cael ei fachu yn ôl mewn gwasanaethau deintyddiaeth. Rydym yn credu bod modd gwella gwasanaethau deintyddiaeth yng Nghymru ymhellach trwy ail-fuddsoddi’r arian hwn, ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau a monitro bod pob bwrdd iechyd yn ail-fuddsoddi’r arian nes bod system newydd ar waith ar gyfer monitro canlyniadau, fel y mae’r pwyllgor hwn wedi’i argymell.

Mae nifer o'r llwybrau gyrfa sydd ar gael yng Nghymru, gan gynnwys hyfforddiant deintyddol sylfaenol, hyfforddiant deintyddol craidd a hyfforddiant arbenigol, bellach yn rhan o waith recriwtio ledled y Deyrnas Unedig. Roeddem yn falch o glywed nad oes unrhyw broblemau mawr o ran recriwtio i ysgolion deintyddol yng Nghymru, ond rydym yn ymwybodol bod y ffigurau hyn yn gallu bod yn isel yn achos myfyrwyr sy'n hanu o Gymru. Fe wnaeth y pwyllgor glywed tystiolaeth hefyd am yr heriau o ran cadw deintyddion yn gweithio yng Nghymru yn dilyn eu cyfnod hyfforddi. Rydym yn ymwybodol mai rhai o'r rhwystrau yw’r gwahaniaeth mewn cyflog yng Nghymru o'i gymharu â'r cyflog yn Lloegr, ynghyd â pha mor agos yw’r byrddau iechyd at yr ysgol ddeintyddol. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried mentrau llwyddiannus sy'n cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â materion recriwtio a chadw. O ganlyniad, ein trydydd argymhelliad yw bod Llywodraeth Cymru yn gwerthuso cynllun recriwtio y Deyrnas Unedig gyfan i benderfynu a yw'n effeithiol o ran cynyddu myfyrwyr sy'n hanu o Gymru a chadw myfyrwyr yn dilyn hyfforddiant. Mae ymateb ysgrifenedig y Gweinidog i'n hadroddiad yn derbyn bod angen gwerthusiad ac y bydd yn trafod gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru sut i fwrw ymlaen â hyn. Rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion am hyn heddiw.

I droi at orthodonteg, clywodd y pwyllgor fod atgyfeiriadau amhriodol at wasanaethau orthodonteg yn gallu rhoi straen ar wasanaethau ac arwain at amseroedd aros hirach. Er ein bod yn cydnabod mai materion recriwtio sy’n achosi amseroedd aros hir yn bennaf, rydym yn pryderu am y ffordd y caiff cleifion eu hatgyfeirio a’u blaenoriaethu. Fe wnaethom glywed fod rhai ymarferwyr deintyddol gofal sylfaenol yn atgyfeirio cleifion yn rhy gynnar oherwydd bod yr amseroedd aros yn hir iawn. Mae hyn yn anochel yn ychwanegu at y broblem. Rydym yn nodi bod system rheoli atgyfeiriadau electronig wedi cael ei chyflwyno, ac, er ein bod yn cydnabod ei bod yn bosibl na fydd y system yn arwain at fwy o gapasiti, rydym yn disgwyl y bydd yn cael effaith gadarnhaol o ran sicrhau atgyfeiriadau priodol, blaenoriaethu cleifion a lleihau amseroedd aros. Felly, mae'r pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i ddatblygu strategaeth glir i sicrhau bod y system e-atgyfeirio ar gyfer gwasanaethau orthodonteg yn cael effaith gadarnhaol o safbwynt sicrhau atgyfeiriadau priodol, blaenoriaethu cleifion a gostwng amseroedd aros.

I droi yn ôl at y Cynllun Gwên, mae'r pwyllgor yn cydnabod effaith gadarnhaol y Cynllun Gwên, sef y rhaglen genedlaethol ar gyfer gwella iechyd i blant yng Nghymru. Dŷn ni’n croesawu’r ffaith bod y rhaglen yn cael ei hymestyn i gynnwys plant ifanc iawn. Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor bryderon am y ffocws newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y rhaglen hon, gan roi mwy o bwyslais ar blant dim i bump oed, a’r posibilrwydd y bydd yn symud i ffwrdd o blant dros yr oedran hwnnw. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ariannu'r rhaglen Cynllun Gwên yn ddigonol i sicrhau bod plant dros bump oed yn cael budd ohoni. Mae ymateb ysgrifenedig y Gweinidog yn cyfeirio at gamdybiaethau honedig bod y ffocws newydd hwn yn golygu nad yw plant chwech neu saith oed yn gallu cael budd o’r rhaglen. Rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy ganddo ar y mater yma y prynhawn yma.

Fe wnaethon ni glywed tystiolaeth gref fod problemau o ran iechyd y geg ymhlith plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau cynnar yn gallu arwain at golli dannedd parhaol. Mewn rhai achosion, caiff llawer o ddannedd eu colli, ac mae'r pwyllgor yn disgwyl gweld camau effeithiol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn. Mae'r pwyllgor yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu astudiaeth epidemiolegol gyda'r nod o asesu a deall anghenion y grŵp oedran 12 i 21 ac i helpu i lywio’r gwaith a fydd yn cael ei wneud yn y dyfodol i fodloni anghenion y grŵp oedran hwn. Dwi’n edrych ymlaen at glywed y diweddaraf gan y Gweinidog am y maes gwaith hwn. Diolch.