Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 8 Hydref 2019.
Llywydd, bu cynyddu llais dinasyddion yn bolisi yn ystod yr 20 mlynedd o ddatganoli. Cefais gyfarfod unwaith eto yn ddiweddar gyda Dinasyddion Cymru, un o'r cyrff seiliedig ar ddinasyddion mwyaf yng Nghymru. Bydd Extinction Rebellion yn arwain gweithdy ar swyddogaeth cynulliadau dinasyddion yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ar y newid yn yr hinsawdd yr wythnos nesaf.