Gwasanaethau Tocynnau Trafnidiaeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 8 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 1:38, 8 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, tynnwyd fy sylw at y ffaith bod cwsmer a aeth i brynu tocyn o ap Trafnidiaeth Cymru wedi cael cynnig y pris o £30.05 ar gyfer taith drên drawsffiniol. Yna, gwiriodd y cwsmer hwnnw National Rail, gan ddod o hyd i'r un daith am £22.10. Gallai'r gwahaniaeth hwnnw fwydo ei blant am ddiwrnod neu ddau. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau bod teithwyr trên yng Nghymru yn cael cynnig y prisiau tecaf pan eu bod yn teithio?