Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 8 Hydref 2019.
Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi diweddaru'r drefn tariffs dros dro, fydd yn effeithio ar gerbydau, nwyddau bioethanol a dillad os adawn ni'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ond does yna ddim sicrwydd i ffermwyr. Felly, rydyn ni'n wynebu sefyllfa lle gallai ffermwyr gael eu prisio allan o farchnadoedd tramor, ac rydyn ni'n gwybod beth allai effaith hynny fod ar ffermydd a chymunedau gwledig. Yng ngoleuni'r cyhoeddiad hwnnw, a wnewch chi bwyso o'r newydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau na fydd ffermwyr Cymru yn cael eu hanghofio a'u taflu ar y domen yn sgil Brexit dinistriol?