1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 8 Hydref 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd yr wrthblaid yn gyntaf, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o lawdriniaethau sydd wedi cael eu canslo yn GIG Cymru yn y pedair blynedd diwethaf?
Llywydd, nid yw'n archwiliad lle mae'r Aelodau yn credu y gallwn ni ganfod ffigur o 'nunlle. Yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrtho yw hyn—gan ragweld ei gwestiwn nesaf—mae dros hanner y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo yn GIG Cymru yn cael eu canslo gan gleifion.
Wel, gadewch i mi eich helpu chi, Prif Weinidog. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae nifer y llawdriniaethau sydd wedi cael eu canslo gan fyrddau iechyd Cymru wedi cynyddu gan 7 y cant, ac mae'r nifer anhygoel o 170,000 o lawdriniaethau wedi cael eu canslo ers 2015 heb fod unrhyw fai ar gleifion. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi datgan bod pob munud o lawdriniaeth yn costio £14. Rydym ni'n edrych felly ar ddegau o filiynau o bunnoedd yn cael eu gwastraffu ar lawdriniaethau a ganslwyd, y mae ein GIG Cymru eu hangen yn ddybryd. Nawr, er ei fod o dan reolaeth uniongyrchol eich Llywodraeth chi, Prif Weinidog, y bwrdd iechyd lle cafwyd y cynnydd mwyaf yn 2015, mewn gwirionedd, oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle bu cynnydd o 31 y cant i lawdriniaethau a ganslwyd. Mae hwnnw'n ddyfarniad damniol arnoch chi a'ch Llywodraeth, gan eich bod chi'n rheoli'r bwrdd iechyd hwnnw'n uniongyrchol. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud yn benodol ynghylch lleihau nifer y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo, Prif Weinidog?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn cymryd pwnc cymhleth ac yn mynd ati i geisio ei symleiddio y tu hwnt i bob synnwyr. Fel yr wyf i wedi dweud wrtho eisoes, mae dros hanner y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo yn cael eu canslo gan gleifion eu hunain. Nawr, os yw hwn yn brynhawn pan fo pobl eisiau darllen llythyrau a anfonwyd atynt gan etholwyr, gadewch i mi ddweud wrthych chi am lythyr a anfonwyd ataf i yn ddiweddar gan un o'm hetholwyr a aeth i gael llawdriniaeth cataract yn ysbyty'r Mynydd Bychan, lle'r oedd y llawfeddyg ar gael ac roedd nyrsys ar gael ac roedd y trefniadau gweithredu ar gael i gyflawni pum llawdriniaeth cataract y bore hwnnw, a daeth dau o gleifion i'r ysbyty. Ac ysgrifennwyd hynny ataf i yn gofyn pa gamau y gellir eu cymryd i rannu'r cyfrifoldeb.
Felly, y syniad y tu ôl i gwestiwn yr Aelod oedd yr ymdeimlad hwn mai'r gwasanaeth iechyd ei hun, rywsut, sy'n gyfrifol am yr holl lawdriniaethau hynny a ganslwyd. Fel y dywedais, caiff eu hanner eu canslo gan gleifion. Mae'r grŵp mwyaf nesaf sy'n cael eu canslo yn cael eu canslo am resymau clinigol, oherwydd pan fydd pobl yn cyflwyno eu hunain ar gyfer llawdriniaeth, yr asesiad a wneir gan glinigwyr yw nad ydyn nhw yn ddigon iach ar y diwrnod hwnnw i gael y llawdriniaethau hynny. Mae'r sefyllfa yn llawer mwy cymhleth nag y mae'r Aelod yn ei awgrymu, a byddai wedi bod yn ddefnyddiol, efallai, yn ogystal â dyfynnu nifer y llawdriniaethau a ganslwyd sydd wedi cynyddu, pe byddai wedi dyfynnu nifer y llawdriniaethau ychwanegol a gyflawnir yn GIG Cymru hefyd, oherwydd byddai wedi canfod bod y nifer honno wedi cynyddu ar yr un pryd.
Prif Weinidog, mae'r ffigurau hyn yn cyfeirio at resymau anghlinigol. Dyna pam maen nhw wedi cael eu canslo, Prif Weinidog. Mae angen i chi gael eich ffeithiau'n gywir. Gallwch ei gam-gynrychioli’r sefyllfa gymaint ag y mynnwch, oherwydd, yn amlwg, rydych chi a'ch Llywodraeth yn methu â rhedeg y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, rydych chi'n methu â rhedeg byrddau iechyd y gogledd, a hyd yn oed y bore yma, roedd yn destun pryder clywed bod eich Llywodraeth yn ei chael hi'n anodd cael gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf allan o fesurau arbennig hefyd. Ac rwy'n gobeithio nad yw hyn yn achos arall fel Betsi Cadwaladr sydd ar ddod, lle mae eich Gweinidog yn caniatáu i fwrdd iechyd arall weithredu mewn trafferthion am flynyddoedd, gan siomi'r bobl y mae i fod i'w gwasanaethu.
Nawr, o ran y llawdriniaethau a ganslwyd, Prif Weinidog, mae Dr Phil Banfield, cadeirydd pwyllgor meddygon ymgynghorol Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru, yn credu bod gan GIG Cymru, ac rwy'n dyfynnu, gapasiti annigonol i ymdopi â'r galw presennol...Tan-ariannu parhaus, bylchau rota mawr a dim digon o staff i ddarparu gofal digonol.
Ei eiriau ef yw'r rhain. A gallaf glywed y Gweinidog iechyd yn mwmian o safle eisteddog. Dyna ei eiriau. Mae'n mynd ymlaen i ddweud mai cost ddynol hyn yw cynnydd mewn gorbryder a gofid...i gleifion a'u teuluoedd ac i staff GIG Cymru sy'n gwneud eu gorau i ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Prif Weinidog, beth ydych chi'n ei ddweud wrth Dr Banfield a'i gydweithwyr a beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i ddarparu GIG Cymru sy'n addas ar gyfer pobl Cymru?
Wel, yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrtho ef a'i gyd-Aelodau yw pan ddaw'r etholiad cyffredinol y mae ei ragflaenydd yn cyfeirio ato, y cyngor gorau iddyn nhw yw pleidleisio dros y Blaid Lafur, oherwydd wedyn gellir mynd i'r afael â'r argyfwng ariannu sy'n effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus, sy'n ganlyniad uniongyrchol i'w blaid ef a phopeth y maen nhw wedi ei wneud yn ystod 10 mlynedd o gyni cyllidol—gyda llaw, mae hynny cyn iddyn nhw fwrw ati gyda Brexit 'heb gytundeb' a chreu twll enfawr arall yn y cyllid cenedlaethol—yna gellir mynd i'r afael yn briodol â'r anawsterau ariannu y mae ef wedi cyfeirio atynt. Ar yr un pryd, bydd fy nghyngor iddyn nhw bleidleisio dros y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol hwnnw hefyd yn helpu i ymdrin â'r mater sydd yr un cyfrannwr mwyaf at ganslo llawdriniaethau ar hyn o bryd, sef yr anawsterau pensiwn y mae ei Lywodraeth ef wedi eu creu sy'n golygu nad yw meddygon ymgynghorol ledled Cymru yn gallu llenwi rotas mwyach er mwyn cyflawni llawdriniaethau, yn uniongyrchol, Llywydd—yn uniongyrchol o ganlyniad i bolisïau a gyflwynwyd gan ei blaid ef, ac mae'n cael yr effaith honno.
Ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi diweddaru'r drefn tariffs dros dro, fydd yn effeithio ar gerbydau, nwyddau bioethanol a dillad os adawn ni'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ond does yna ddim sicrwydd i ffermwyr. Felly, rydyn ni'n wynebu sefyllfa lle gallai ffermwyr gael eu prisio allan o farchnadoedd tramor, ac rydyn ni'n gwybod beth allai effaith hynny fod ar ffermydd a chymunedau gwledig. Yng ngoleuni'r cyhoeddiad hwnnw, a wnewch chi bwyso o'r newydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau na fydd ffermwyr Cymru yn cael eu hanghofio a'u taflu ar y domen yn sgil Brexit dinistriol?
Diolch am y cwestiwn yna. Dwi wedi gweld y diweddariad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bore yma. Dwi ddim wedi cael cyfle eto i ystyried yr effaith bydd hwnna'n ei gael yng Nghymru ym maes biodiesel yn enwedig. Rŷn ni wedi siarad o'r blaen gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am yr effaith bydd yr awgrymiadau gwreiddiol yn mynd i'w cael yma yng Nghymru, ac, wrth gwrs, siaradais i gyda'r Prif Weinidog newydd, Boris Johnson, pan oedd e yma yng Nghaerdydd, nôl yn yr haf, am yr effaith ar gefn gwlad yma yng Nghymru o gwympo mas o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, a doedd dim lot o atebion gyda fe. Doedd dim lot o fanylion tu ôl i'r atebion oedd gyda fe i roi hyder i fi bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi meddwl yn fanwl am effaith y llwybr maen nhw eisiau mynd i lawr ar ffermwyr yma yng Nghymru. Ar ôl hynny, yn bron pob cyfarfod rŷn ni wedi cael gyda nhw, rŷn ni'n codi'r pynciau mae Rhun ap Iorwerth wedi eu codi'r prynhawn yma—rŷn ni'n dal i wneud hynny.
Dwi'n falch bod yna gonsensws rhyngom ni ar y mater yma, ond dwi rŵan am apelio am ail-greu'r consensws fu rhyngom ni ar enw y sefydliad yma. Yn y gorffennol, mi ddywedoch chi y byddech chi'n ffafrio'r enw 'Senedd', ac roeddwn i'n falch iawn o glywed hynny. Gaf i ofyn pam wnaethoch chi benderfynu torri'r consensws hwnnw drwy ddweud rŵan eich bod chi am gael gwared ar yr enw uniaith Gymraeg 'Senedd', enw sydd wedi ennill ei blwyf, wrth gwrs, yn eang iawn yn barod, ac yn hytrach eich bod chi rŵan am gefnogi gwelliant i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) i'w alw yn 'Senedd Cymru/Welsh Parliament', fel enw swyddogol? Mae hwn yn fater sy'n mynd tu hwnt i linellau pleidiau—dwi'n ddiolchgar iawn i Hefin David a Mike Hedges am gydgyflwyno gwelliant gen i i'w drafod yfory—ond gaf i apelio arnoch chi, ar yr unfed awr ar ddeg, i ddangos hyder yng ngallu pobl Cymru, o ba bynnag iaith, i berchnogi un enw sy'n perthyn i bawb ohonom ni?
Wel, Llywydd, fel dwi wedi ei ddweud yn barod, dwi'n defnyddio'r term 'Senedd' bob tro dwi'n cyfeirio at y Cynulliad Cenedlaethol, a dwi'n meddwl, ledled Cymru, taw dyna beth fydd yr enw, a bydd pob un o bobl Cymru yn cyfeirio at le ŷn ni'n gweithio yn y ffordd yna. Ond rhywbeth i Aelodau'r Cynulliad yw e i benderfynu ar y cwestiwn yna, ac mae mwy nag un farn yn y Siambr hon. Bydd cyfle yfory i glywed gan bobl sydd eisiau ein perswadio ni i gefnogi un enw neu'r llall, a dwi'n edrych ymlaen at y ddadl.
Os mai mater i'r Aelodau ydyw, a allwch chi gadarnhau i ni y byddwch chi'n caniatáu i'ch Gweinidogion gael pleidlais rydd ar y mater hwn hefyd? Yn sicr, nid oes unrhyw rwystr cyfreithiol i'w alw'n 'Senedd' yn unig, ac wrth esbonio ei reswm am ei welliannau i gael gwared ar yr enw Cymraeg yn unig, dywedodd eich rhagflaenydd, Carwyn Jones, yn The Guardian ychydig ddiwrnodau yn ôl, bod hynny oherwydd y byddai'n achosi dryswch. Ond pwy sydd wedi drysu? Y rhai sydd wedi galw'r lle hwn yn Senedd ers talwm, sy'n cael eu hysbysu y dylid dadwneud hynny—ac, wrth gwrs, gallwn ddal i'w alw'n Welsh Parliament os ydym ni'n dymuno—rwy'n siŵr y byddwn i ar adegau hefyd—ond rydym ni'n sôn am yr enw swyddogol. Ai'r rhai nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg a fyddai'n drysu oherwydd nad ydyn nhw'n gallu deall pam mae Llywodraeth Cymru yn credu na allan nhw ymdopi, rywsut, â'r gair 'Senedd'.
Rwy'n mawr obeithio ein bod ni i gyd wir o ddifrif am greu Cymru ddwyieithog, ond nid yw hynny'n golygu rhannu pobl yn siaradwyr Cymraeg a phobl ddi-Gymraeg. Dyma yr ydych chi'n galw eich Senedd os ydych chi'n siarad Cymraeg; dyma yr ydych chi'n galw eich Senedd os nad ydych. Gadewch i ni fod yn hyderus ynom ein hunain, gan uno'r genedl y tu ôl i'r enw sy'n perthyn i bawb waeth beth fo'u hiaith, gan adlewyrchu ein treftadaeth a dyfodiad math newydd o ddemocratiaeth. Ein Senedd ni yw hon, enw unigryw i Senedd unigryw.
Llywydd, fy mhrofiad i o fynd allan a siarad â phobl dros yr haf ac ers hynny, gan gynnwys plant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg, yw bod y term 'Senedd' eisoes yn boblogaidd, a dyna mae pobl yn ei ddefnyddio yn ymarferol. Dyna rwyf i'n ei ddefnyddio ac yn bwriadu parhau ei ddefnyddio. Efallai fod y term y mae pobl yn credu y byddai'n cael ei adlewyrchu orau mewn Deddf gan y Cynulliad hwn yn wahanol i hynny, fel y mae yn Iwerddon, fel y gwyddoch. Y Dáil yw'r hyn y mae pobl yn galw'r Senedd yn y Weriniaeth; yn y Ddeddf Seneddol a'i sefydlodd, cyfeirir ato fel rhywbeth mwy helaeth. Bydd cyfle yfory i bobl glywed y ddadl. Ceir safbwyntiau sy'n haeddu cael eu parchu ar bob ochr i'r Siambr hon, ac nid oes gan neb, dim un unigolyn na'r un blaid, fonopoli ar ddadleuon ar y mater hwn. Dyna pam y byddwn yn ei drafod yn y fan yma, ond bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar y cyd—dyna natur bod mewn Llywodraeth. Bydd Aelodau Llafur nad ydyn nhw yn aelodau o'r Llywodraeth yn gallu pleidleisio fel y maen nhw'n cael eu perswadio gan y dadleuon, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed y dadleuon hynny pan ddaw'r amser brynhawn yfory.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. Roedd fy nhad-cu yn aelod ohono—rwy'n credu mai'r Dáil yw ei enw. Llywydd, fe wnaethoch chi weithio'n galed iawn i geisio cael fersiwn o'r Bil yr ydym ni'n ei drafod yfory sydd mor agos at gonsensws ag y gallem ni ei gael, ac ni wnaethoch chi weithio'n ddim caletach, yn fy marn i, nag ar enwi ein sefydliad. Nawr, tybed, Prif Weinidog, a ydych chi'n cofio bod cam yn y broses lle mai'r bwriad oedd cael yn y fersiwn Gymraeg, 'y Senedd' neu 'Senedd Cymru', ac yna yn y fersiwn Saesneg, 'Welsh Parliament', ac awgrymwyd mai dyna oedd y dewis gorau i sicrhau'r agosaf at gonsensws. Ac eto, newidiodd hynny wedyn, a newidiodd, rwy'n clywed, yn dilyn sylwadau o'r tu mewn i'r grŵp Llafur a chan un ffigur uwch yn arbennig. Rydych chi'n dweud wrthym ni nawr mai dewis i'r Aelodau ydyw, ond onid yw'n wir bod y Bil sydd gennym ni ger ein bron ar y ffurf y mae ef o ran yr enw oherwydd y sylwadau a wnaed gennych chi, yn awgrymu y byddai hynny'n ennyn consensws, ac oherwydd hynny y mae gennym ni fersiwn o'r Bil y bydd angen i ni ei wella yfory.
Wel, nid wyf i'n adnabod y fersiwn honno o hanes, yn sicr. Nid Bil Llywodraeth yw ef, Bil i Aelodau'r Cynulliad yw ef. Rwy'n credu'n llwyr mai lle'r Aelodau yma yw cyflwyno eu dadleuon, i geisio perswadio ei gilydd. Bydd llawer o wahanol safbwyntiau, ac yna byddwn yn penderfynu arno yn y ffordd ddemocrataidd. Nid y Llywodraeth fu noddwr nag ysbrydoliaeth y Bil hwn, ac ni ddylem ni fod ychwaith.
Rwy'n gwybod nad y Llywodraeth yw'r noddwr, ond chi, Prif Weinidog, fel Aelod unigol, oedd yn gyfrifol am y sylwadau a wnaethoch chi, a dyna pam y gofynnais onid oedd hi'n wir bod gennym ni'r fersiwn a gyflwynwyd gan y Llywydd oherwydd y sylwadau hynny, ac oherwydd pa mor gryf a grymus y gwnaethoch chi gynnig y byddai cael 'Senedd' ar sail uniaith yn ennyn consensws pan ei bod hi'n amlwg nad yw hynny'n wir.
Nawr, mae agwedd arall ar y Bil hwnnw yr ydych chi'n ceisio ei newid erbyn hyn, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n pleidleisio o blaid y gwelliannau sydd wedi eu nodi yn fy enw i ac enw eich rhagflaenydd, yn ymwneud â hawliau gwladolion tramor i bleidleisio. Nawr, rwy'n cofio yng nghynhadledd y Blaid Lafur y pasiwyd cynnig tua'r diwedd a ddywedodd nid yn unig bod Llafur eisiau cadw'r rhyddid i symud o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ond bod Llafur eisiau ymestyn rhyddid i symud i'r byd i gyd, a rhoi hawliau ar unwaith i bobl bleidleisio, waeth beth fo'u cenedligrwydd. Ac wythnos neu ddwy yn ddiweddarach, rydym ni'n gweld Llywodraeth Cymru yn dod i geisio diwygio'r Bil hwn, nad yw'n Fil Llywodraeth, i weithredu polisi Corbyn a'r Blaid Lafur. Nawr, os yw'r sefyllfa fel yr ydych chi a'ch plaid yn dymuno, o godi cyfyngiadau mewnfudo ac ymestyn rhyddid i symud yn fyd-eang, a ydych chi wedi gwneud amcangyfrif o faint o bobl a fyddai dan sylw pe byddem ni'n ymestyn hawliau pleidleisio i wladolion tramor yn y modd yr ydych chi'n ei gynnig nawr?
Llywydd, rwy'n credu bod yr Aelod yn fy nghyhuddo i o gefnogi polisi'r Blaid Lafur, felly rwy'n ddiolchgar iddo am hynny. Edrychaf ymlaen yfory at bleidleisio o blaid caniatáu i'r bobl hynny o rannau eraill o'r byd sydd wedi gwneud eu cartrefi a'u dyfodol yma yng Nghymru i roi'r cyfle iddyn nhw fynegi eu hymrwymiad i'n dyfodol trwy gymryd rhan yn ein prosesau democrataidd. Dyna'n sicr yw'r peth iawn i ni ei wneud, ac mae'n arbennig y peth iawn i ni ei wneud ar adeg pan fo'r bobl hynny'n teimlo bod eu lle yng Nghymru yn llai diogel nag y bu erioed, lle maen nhw'n cael eu gwneud i deimlo gan eraill nad oes croeso iddyn nhw fod yma, a bydd y blaid hon—ac eraill, gobeithio, ar lawr y Cynulliad hwn—yn benderfynol o anfon y neges sy'n llwyr i'r gwrthwyneb. Mae gan y bobl hynny gyfran yn ein dyfodol ac yn eu dyfodol nhw, maen nhw'n byw yn ein cymunedau, mae ganddyn nhw hawl i gymryd rhan, ac mae ganddyn nhw hawl i gymryd rhan yn ddemocrataidd hefyd.