Uwch-swyddogion Llywodraeth Leol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 8 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:02, 8 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Enw drwg, anonest a dylai fod wedi cael ei ddiswyddo amser maith yn ôl—dyna farn trigolion Caerffili ar Anthony O'Sullivan, prif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd mewn anfri ac wedi ei ddiswyddo o'r diwedd. Cafodd ei ddiswyddo yr wythnos diwethaf ar ôl i'r Cyngor cyfan ei gael yn euog o gamymddwyn difrifol. Codwyd pryderon am y ffordd y cafodd ei benodi gan yr awdurdod a arweiniwyd gan Blaid Cymru ar y pryd yn ôl yn 2014, pryd na hysbysebwyd y swydd i gystadleuaeth allanol. Newidiwyd y rheol honno yn 2014 gan Lywodraeth Lafur Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog roi ei ymrwymiad heddiw y bydd adolygiad Oldham yn ystyried pob agwedd ar arferion recriwtio a disgyblu uwch swyddogion, a sicrhau na ellir ailadrodd y dioddefaint a achoswyd i fwrdeistref sirol Caerffili yn ystod y saith mlynedd diwethaf?