Rheolau Lobïo Llywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 8 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:10, 8 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, fel y dywedais, rwy'n credu bod y rhain yn faterion i'r pwyllgor safonau gynghori arnynt, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, pan ystyriodd y pwyllgor safonau y mater o gofrestr, penderfynodd wneud ymholiadau pellach a rhoi ystyriaeth bellach i'r mater hwnnw. Edrychaf ymlaen at gael unrhyw gyngor y mae'r pwyllgor safonau yn ei ddarparu, gan nad yw'r pethau hyn yn faterion i'r Llywodraeth, maen nhw'n faterion i safonau ymddygiad pob Aelod Cynulliad, a dyna pam mae gennym ni bwyllgor safonau i'n cynghori ni ar y ffordd orau o ddatrys y materion hyn.