Y Diwydiant Fferyllol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 8 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:14, 8 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant fferyllol trwy fuddsoddi mewn gwaith ymchwil, datblygu cynnyrch, hyrwyddo arbenigol a datblygiad proffesiynol. Yn gynharach eleni, er enghraifft, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd becyn ariannu £100,000 newydd ar gyfer hyfforddiant i fferyllwyr. Mae hwn yn ariannu hyfforddiant sgiliau clinigol arbenigol ar gyfer 50 o fferyllwyr newydd ledled Cymru.