1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Hydref 2019.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant fferyllol? OAQ54475
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant fferyllol trwy fuddsoddi mewn gwaith ymchwil, datblygu cynnyrch, hyrwyddo arbenigol a datblygiad proffesiynol. Yn gynharach eleni, er enghraifft, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd becyn ariannu £100,000 newydd ar gyfer hyfforddiant i fferyllwyr. Mae hwn yn ariannu hyfforddiant sgiliau clinigol arbenigol ar gyfer 50 o fferyllwyr newydd ledled Cymru.
Newyddion cadarnhaol iawn yn wir, Prif Weinidog. Ac, fel y byddwch yn gwybod, mae'r diwydiant fferyllol yn y DU yn buddsoddi £4.3 biliwn y flwyddyn mewn ymchwil a datblygu, mwy nag unrhyw sector arall o'r economi, a'r DU sydd â'r prisiau isaf am feddyginiaeth yn Ewrop gyfan o ganlyniad i hynny. Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau'r cymorth a'r buddsoddiad hwn ar gyfer y dyfodol, o ystyried y polisi 'Meddyginiaethau i'r Llawer' a lansiwyd yng nghynhadledd ddiweddar y Blaid Lafur yn Brighton—polisi a allai gymryd buddsoddiad y mae mawr ei angen oddi wrth ymchwil a datblygu, a pholisi y mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain wedi dweud na fydd yn arwain at fwy o gleifion yn gallu cael gafael ar y meddyginiaethau sydd eu hangen arnyn nhw, y meddyginiaethau y mae rhai eu hangen yn ddybryd?
Llywydd, mae hanes hir yma yng Nghymru o gefnogi'r diwydiant fferyllol. Gyda'ch caniatâd, hoffwn longyfarch fy hen gyflogwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae'r adran fferylliaeth yn dathlu ei chanmlwyddiant yr wythnos hon, gan iddi agor ei drysau ym mis Hydref 1919. Mae'n parhau i gynnal ymchwil a hyfforddiant proffesiynol ym maes fferylliaeth. Mae llawer o ffyrdd newydd—a llawer iawn o alwadau o amgylch y Siambr hon dros flynyddoedd lawer—yr ydym yn cefnogi'r rhwydwaith fferylliaeth gymunedol yma yng Nghymru. Ond rydym yn gwneud hynny oherwydd bod ein sylw wedi'i hoelio'n gadarn iawn ar fudd y cyhoedd. Mae yna alwad hir—fe'i harweiniwyd gan Dr Julian Tudor-Hart yma yng Nghymru—i Lywodraethau weithredu, fel bod lles y cyhoedd yn cael blaenoriaeth wrth gynhyrchu meddyginiaethau. Er ein bod yn awyddus iawn i weithio gyda'r diwydiant fferyllol i gefnogi'r llu o bethau da y mae'n ei wneud yng Nghymru, ni ddylem droi ein cefnau ar y syniad bod, o bosibl, ffyrdd eraill o fynd ar drywydd lles y cyhoedd yn y maes fferyllol. Fel Llywodraeth, lles y cyhoedd sydd bob amser yn llywio ein camau buddsoddi, wrth gefnogi'r diwydiant ac o ran posibiliadau newydd o wneud hynny yn y dyfodol.
Byddwn yn cytuno bod lles y cyhoedd yn rhan annatod o hyn, a dyna pam, o ran y cyffur ffibrosis systig Orkambi, nad yw Vertex yn cyflwyno cais am y cyffur yn unig, mae'n cyflwyno cynllun helpu cleifion i gael gafael arno ochr yn ochr â hynny, ac wrth gwrs fe wnaeth hynny ganiatáu iddo gael cymeradwyaeth yn yr Alban. Fy nghwestiwn i yw: Pa mor aml y caiff y cynlluniau helpu cleifion i gael gwasanaeth hyn eu hystyried yma yng Nghymru ar y cyd â chais am gyffur, fel y gallwn ni nid yn unig helpu'r diwydiant cyffuriau a'r diwydiant fferyllol— oherwydd, wrth gwrs, maen nhw'n bodoli, ac mae'n rhaid iddyn nhw fodoli, er fy mod yn deall y gallai'r paramedrau newid—ond hefyd o ran sut y gallai'r cleifion elwa? Oherwydd weithiau, rwy'n ddiffuant yn credu ei fod mor uchel o ran pris, bod hynny'n effeithio ar sut y gall y GIG ganiatáu i'r cyffuriau hynny gael eu rhoi ar y farchnad. Felly, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd, os yw'r cyffuriau hyn wir yn newid bywydau pobl, eu bod yn gallu cael gafael arnynt, ond mewn ffordd sy'n foesegol ac sy'n helpu cymdeithas yn ei chyfanrwydd.
Cytunaf yn llwyr â'r modd y rhoddodd Bethan Sayed y benbleth ar ddiwedd ei chwestiwn. Llywydd, a gaf i fynegi fy rhwystredigaeth ynghylch gweithredoedd Vertex yma yng Nghymru? Dywedodd y cwmni hwn, ym mis Mehefin eleni, y byddai'n cyflwyno tystiolaeth a chynnig gerbron grŵp strategaeth feddyginiaethau Cymru gyfan, ac mae wedi methu â gwneud hynny. Ni allwn weithredu i sicrhau bod y cyffuriau ar gael yng Nghymru os nad yw'r cwmnïau sy'n eu cyflenwi'n fodlon rhoi eu cynnyrch drwy'r broses sydd gennym ni i'w cydnabod. Fe wnaethon nhw ddweud y bydden nhw yn ei wneud ym mis Mehefin. Byddai'n dda gennyf pe bydden nhw'n bwrw ymlaen â hynny. Rydym ni eisiau i gleifion yng Nghymru allu elwa ar feddyginiaethau lle y rhoddwyd ystyriaeth briodol i'r pethau hynny. Mae cynlluniau helpu cleifion i gael gwasanaeth yn aml yn rhan o'r pecyn yr ydym ni'n ei gytuno arno gyda chwmni. Roedd y cwmni'n fodlon ei wneud yn yr Alban, maen nhw wedi dweud eu bod yn fodlon ei wneud yng Nghymru, ac eto mae wedi methu â chymryd y camau a addawyd ganddo. Byddai'n dda gennyf pe bydden nhw'n mynd ati i wneud hynny.