Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 8 Hydref 2019.
Wel, nid wyf i'n adnabod y fersiwn honno o hanes, yn sicr. Nid Bil Llywodraeth yw ef, Bil i Aelodau'r Cynulliad yw ef. Rwy'n credu'n llwyr mai lle'r Aelodau yma yw cyflwyno eu dadleuon, i geisio perswadio ei gilydd. Bydd llawer o wahanol safbwyntiau, ac yna byddwn yn penderfynu arno yn y ffordd ddemocrataidd. Nid y Llywodraeth fu noddwr nag ysbrydoliaeth y Bil hwn, ac ni ddylem ni fod ychwaith.