Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 8 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:19, 8 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod. Ar ddiwedd y flwyddyn 2018-19, roedd amseroedd aros 36 wythnos yn y Bwrdd Iechyd wedi gostwng gan 22 y cant yn ystod y flwyddyn, a hwn oedd y ffigur isaf ers mis Ebrill 2014. Mae'r Gweinidog iechyd wedi sicrhau bod £50 miliwn ar gael i fyrddau iechyd i barhau â'r cynnydd a wnaed yn ddiweddar ac i wella amseroedd aros ymhellach erbyn mis Mawrth 2020. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cael ei gyfran o'r arian hwnnw, wrth gwrs.